18 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ynni adnewyddadwy ar y môr
Wrth gwrs.
18 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ynni adnewyddadwy ar y môr
Fe eisteddoch chi gyferbyn â mi ac fe wnaethoch chi gytuno â mi y dylid adeiladu morlyn bae Abertawe. Cytunodd eich AS Ceidwadol eich hun, a edrychodd ar yr adroddiad, y dylid ei adeiladu—Charles Hendry. A ydych yn cofio hynny? A beth wnaeth y Llywodraeth?…
18 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ynni adnewyddadwy ar y môr
Oherwydd gallent fod wedi cael y chweched, seithfed, wythfed, nawfed a'r degfed pe baent wedi bod ychydig yn gyflymach yw'r ateb hawsaf i hynny. [Torri ar draws.] Nid yw eich cynnig heddiw yn sôn—dim sôn o gwbl—am gyfrifoldebau Llywodraeth y DU. Nid yw’n sôn…
18 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ynni adnewyddadwy ar y môr
Yn sicr.
18 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ynni adnewyddadwy ar y môr
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i ymateb i’r cynnig hwn heddiw. Rwy'n croesawu'n llwyr y consensws cyffredinol fod ynni'r môr yn un o bileri’r economi yng Nghymru, ac y bydd yn dod yn bwysicach fyth dros y degawdau nesaf, a chytunaf…
17 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau heddiw. Dim ond i fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau penodol iawn—a diolch i'r pwyllgor, Huw, am ei waith cyflym ar hyn, fel bob amser—mae gen i ofn nad ydw i'n derbyn yr argymhelliad na'r…
17 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r arfer o dynnu esgyll siarcod yn farbaraidd ac yn niweidiol iawn i boblogaethau siarcod ar draws y byd. Mae'n arfer pysgota cwbl anghynaladwy, lle mae rhannau helaeth o garcasau siarcod yn cael eu taflu'n ôl…
17 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd
Dydw i ddim yn rhy siŵr pa gyllideb rydych chi'n cyfeirio ati yn y fan yna, Carolyn, mae gen i ofn. Felly mae yna gyllideb benodol iawn i reoli llifogydd, ac mae hi wedi'i chlustnodi ar gyfer rheoli llifogydd ar gyfer CNC. Mae awdurdodau lleol yn ei chael fel…
17 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd
Diolch, John. Rwy'n cytuno bod hwn yn ddarlun cymhleth, os hoffech chi, o ran pwy sy'n gyfrifol am beth. Ond, mewn gwirionedd, os ydych chi'n ddeiliaid tŷ sydd â phrofiad o lifogydd, fe ddylech chi gysylltu â'ch awdurdod lleol, ac fe ddylen nhw fod yn…
17 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd
Diolch i chi, Delyth. Mae hynny'n gwbl gywir. Rwyf i wedi cyfarfod yn bersonol gyda nifer o'r teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio, ac mae hi'n gwbl gywir eu bod nhw wedi cael eu dylanwadu mewn ffordd ddifrifol iawn. Dywedodd un teulu wrthyf i fod eu…
17 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd
Diolch i chi, Jayne. Fe fyddaf i'n cwrdd â'r Groes Goch Brydeinig yn fuan iawn i drafod eu hadroddiad gyda nhw; mae gennym ni ddiddordeb mawr yn y canfyddiadau. Ac yn wir, mae gennym ni ddiddordeb mewn gweithio gyda phob grŵp yn iawn ledled Cymru sydd â…
17 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd
Diolch, Heledd. Dim ond o ran yr adolygiad, a oedd yn rhan o'r drafodaeth a fu rhyngom ni, fe geir nifer o wahanol fathau o adolygiad yn digwydd ar hyn o bryd. Fe gyfeiriais i at y ddau gan y pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol, er enghraifft. Felly, mae…
17 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd
Diolch i chi, Janet. Felly, o ran materion y gyllideb, fe allaf ddweud wrthych chi fod effaith y buddsoddiadau a wnaethom ni wedi bod yn sylweddol iawn. Er enghraifft, yn ystod y glaw trwm diweddaraf, roedd yr amddiffynfeydd llifogydd yn Rhondda Cynon Taf, yr…
17 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd
Diolch, Llywydd. Dros yr wythnos ddiwethaf, mae glaw trwm parhaus wedi effeithio ar Gymru. Mewn rhai mannau, fe welsom ni dros chwe wythnos o law yn ystod pythefnos cyntaf y flwyddyn. Disgynnodd hwnnw ar dir a oedd eisoes yn ddirlawn, gan gynyddu dŵr ar yr…
11 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: 'Asedau Cymunedol'
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i John Griffiths am waith caled iawn ei bwyllgor yn rhoi hyn at ei gilydd ac am gyflwyno'r cynnig heddiw, a diolch hefyd i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hynod bwysig hon?…
11 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Gallaf, yn bendant. Fe wnaf ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Huw Irranca-Davies yn gynharach yn y sesiwn hon. Rydym wedi gofyn i bob sector edrych i weld beth y gallant ei gynnig i helpu i ddatrys eu rhan hwy o'r broblem. Felly, ar gyfer adeiladu tai, rydym…
11 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Ie. Diolch, Ken. Ar 9 Chwefror, bydd y Prif Weinidog yn ailymgynnull uwchgynhadledd o bartneriaid allweddol i fynd i'r afael â lefelau gormodol o ffosffadau yn afonydd Cymru, er mwyn trafod y cynnydd presennol a sefydlu'r camau nesaf. Byddaf yn nodi…
11 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Ie, roeddwn i'n ymwybodol iawn o hynny. Mae'n syniad gwych. Yn amlwg, os ydych chi'n teithio yn Ewrop o gwbl, fe sylwch fod canopïau dros y meysydd parcio, oherwydd eu bod yn cysgodi'r cerbydau rhag yr haul. Nid yw'r broblem honno gennym yn llwyr yng Nghymru…
11 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch, Sioned. Mae fy swyddogion a minnau'n cynnal trafodaethau dwyochrog ac amlochrog rheolaidd gyda Llywodraethau eraill i rannu ein profiadau, ein harferion da a'n heriau. Ymhlith y rhain mae cyfarfodydd rhyngweinidiogol sero net pedair gwlad y DU, y…
11 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Mae'n ddrwg gennyf, nid oes gennyf unrhyw syniad a fyddaf i yn y Senedd ddydd Mawrth nesaf, ond os byddaf, rwy'n hapus i ddod. Yn sicr, ond mae'n rhaid inni ei wneud yn y drefn iawn. Felly, byddwn yn bendant eisiau sicrhau bod y trefniadau cynllunio yn eu…
11 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch, Cefin. Ie, pwynt pwysig iawn. Felly, mae gennym 897 MW o gapasiti trydan a gwres adnewyddadwy yng Nghymru sy'n eiddo lleol, yn 2021, a oedd yn 90 y cant o'r ffordd tuag at ein targed 1 GW ar gyfer 2030, sy'n newyddion da iawn. Mae gennym gyfanswm o…
11 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch, Cefin. Wrth inni symud tuag at system ynni fwy lleol, sy'n seiliedig ar ynni adnewyddadwy, rydym yn cymryd camau i sicrhau bod y cyfoeth o brosiectau ynni adnewyddadwy yn aros yng Nghymru. Rydym yn adeiladu ar ein cefnogaeth i gymunedau a chyrff…
11 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Fe fyddwn i'n ymateb gyda rhywfaint o syndod, Mark, gan fod pob awdurdod wedi cyrraedd y safon ansawdd tai Cymru, sef EPC D, ar wahân i'r hyn a elwir yn 'fethiannau derbyniol'. Felly, os oes gennych chi fanylion pam ei fod yn pryderu nad yw'r stoc yn cyrraedd…
11 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch, Siân. Rwy'n awyddus iawn i ymweld, a gobeithio y byddwch chi'n fy ngwahodd yn ffurfiol ac y gallaf wneud hynny'n fuan iawn. Rydym yn falch iawn o'r ffordd y mae'r hyb datgarboneiddio yn gweithio. Fe wnaethoch chi nodi hanes y ffatri a gaeodd ac ati yn…
11 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Diolch, Siân Gwenllian. Mae nifer o raglenni wedi'u cynllunio i helpu i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi ledled Cymru, gan gynnwys yn Arfon. Mae'r rhain yn cynnwys y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a rhaglen Cartrefi Clyd.