22 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)
Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Rwy'n credu mai un o'r pethau, wrth i ni aeddfedu fel sefydliad, yw adolygu ein prosesau'n barhaus, ac rwy'n credu bod y ffordd yr ydyn ni wedi dechrau pasio'r Deddfau fframwaith mawr yma—mae'n anochel po fwyaf o bŵer gweinyddol…
22 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)
Diolch yn fawr i chi am hynna, Jenny. Mae honno'n enghraifft dda iawn. Mae Deddf fframwaith wedi mynd drwy'r Senedd erbyn hyn, wedi cwblhau ei phrosesau, wedi cael Cydsyniad Brenhinol, ond mae angen i ni lunio'r is-ddeddfwriaeth nawr a fydd yn ei bywiogi hi…
22 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)
Ie. Diolch yn fawr iawn i chi am hynna, Rhys. Mae'n rhaid i mi ddweud, fe gefais innau'r un profiad: fe gefais innau fy nal allan yn yr un ffordd yn union pan oeddwn i'n dal i fod yn gyfreithiwr, ac rwy'n cofio yn dda pa mor gynhyrfus yr oeddech chi wrth i…
22 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)
Diolch, Adam. Rydych chi'n gwneud cyfres eang o bwyntiau diddorol iawn nawr. O ran hygyrchedd digidol, sôn am newidiadau i legislation.gov.uk yr ydym ni, Dirprwy Lywydd, ac mae hynny'n rhoi cyfle i mi fynegi ar goedd pa mor fawr yw ein gwerthfawrogiad ni o'r…
22 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)
Diolch, Mark. Diolch yn fawr iawn i chi. Rwy'n credu ein bod ni'n gytûn bod hyn yn ddymunol iawn a'r angen amdano'n fawr, ac rwy'n falch eich bod chi wedi cael golwg ar ymateb Cymdeithas y Gyfraith i hyn. Nid oeddwn i'n deall yn iawn a oeddech chi wedi bod yn…
22 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Y Bil Deddfwriaeth (Gweithdrefn, Cyhoeddi a Diddymiadau) (Cymru)
Diolch, Dirprwy Lywydd. Bwriad y Bil, er ei fod o natur dechnegol, yw llunio rhan bwysig o'r seilwaith sy'n gosod sylfaen i gyfraith Cymru. Mae rhai darpariaethau yn llenwi bylchau ac yn rheoleiddio sefyllfa deddfwriaeth Cymru, fel ei bod yn cael statws…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Ie, nid wyf i'n anghytuno o gwbl ynglŷn â'r cymhlethdod yn hyn o beth, ac mae hi'n ddiddorol, pan fyddwch chi'n dechrau edrych ar ddarnau penodol o hyn, pa mor gymhleth ydyw hi, mae'n rhaid i mi ddweud. Dyna ran o'r rheswm ein bod ni'n galw am ddatganoli…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Nid wyf i wedi cael trafodaethau ynglŷn â'r mater hwn eto gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol na'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ers i mi fod yn fy swydd, oherwydd nid oes dim ond ychydig wythnosau wedi mynd heibio, ond rwy'n cydnabod yn…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Felly, dydw i ddim wedi bod yn fy swydd yn ddigon hir i gael y sgwrs honno, ond rhan o gylch gwaith newydd fy swydd, sy'n fwy eang na swydd Cwnsler Cyffredinol, ar agwedd cyflawni fy nghyfrifoldebau newydd, yw cyfrifoldeb o ran sicrhau y bydd y rhaglen…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Diolch yn fawr iawn i chi, Delyth, ac fe wnaf i hynny â'r pleser mwyaf. Fe fydd y Bil Mwyngloddiau a Chwareli (Tomenni Nas Defnyddir) yn cael ei gyflwyno cyn diwedd y flwyddyn galendr hon.
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Diolch yn fawr iawn i chi, Jenny. Yn amlwg, mae pob un ohonom ni'n dymuno mynegi ein cydymdeimlad ag unrhyw riant sy'n profi unrhyw fath o enedigaethau amenedigol neu farw-anedig dan yr amgylchiadau hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae ffrind annwyl iawn i mi…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Diolch i chi, Jenny Rathbone, am y cwestiwn yna. Mae unrhyw benderfyniad i ymestyn cylch gwaith cwestau i gynnwys marwolaethau amenedigol yn aros gyda Llywodraeth y DU oherwydd mae cwestau coronaidd yn fater a gedwir yn ôl. Mae pob marwolaeth amenedigol yng…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Diolch yn fawr iawn am hynna, Jane. Fe hoffwn i ddim ond cywiro un neu ddau o bwyntiau ynglŷn â hynny. Nid ydym ni wedi gwneud unrhyw benderfyniad i ddod a hwn i ben. Fe wnaethom ni gynnal cynllun treialu, a hwnnw sydd wedi dod i ben. Mae yna ychydig o…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Diolch i chi am hynna. Fel rwy'n ei deall hi—. Ac fe wn i eich bod chi wedi ymroi i hyn i gyd, ac rwy'n ddiolchgar i chi am eich cyfraniad, ac, yn wir, am eich eiddgarwch amlwg. Rydych chi siŵr o fod yn cofio i'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru gynnwys…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn. Ni chefais i'r un o'r trafodaethau hynny eto, ond rwy'n bwriadu gwneud felly. Yn dilyn gwerthusiad annibynnol o'r cynllun treialu, rydym ni'n gweithio gyda phartneriaid i fwrw ymlaen â'r camau nesaf yn seiliedig ar yr…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Fe hoffwn i egluro ychydig bach, Heledd, nad oeddwn i mewn unrhyw fodd yn ceisio difrïo nifer y bobl sy'n aros ar restrau aros am wasanaeth drwy ddisgrifio'r gwahaniaeth rhwng cytundeb ar lafar gwlad a chytundeb cyfreithiol. Felly, yr hyn yr oeddwn i'n…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Bu—mae fy nghyd-Aelod newydd f'atgoffa i—ddatganiad ysgrifenedig ar y trefniadau rhwng GIG Lloegr a GIG Cymru heddiw. Ond rwy'n credu, er hynny, Heledd, yr hyn sydd gennym ni dan sylw yw'r gwahaniaeth rhwng cytundeb cyfreithiol a chytundeb ar lafar gwlad…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Diolch. Nid wyf i'n credu bod unrhyw oblygiadau cyfansoddiadol i'r cyhoeddiad fel cafodd hwnnw ei wneud. Yr hyn yr oeddem ni'n sôn amdano yn y gynhadledd oedd mwy o gydweithio, os mynnwch chi, rhwng y gwasanaethau iechyd, yn enwedig i bobl wrth y ffin, sydd…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Fel dywedais i, dim ond ers ychydig wythnosau yr ydw i wedi bod yn y swydd, fel gwyddoch chi, Mark Isherwood, ac felly fe fyddaf i'n cael sgyrsiau gyda Chymdeithas y Gyfraith, a gyda'r proffesiwn cyfreithiol yn ehangach ledled Cymru, i drafod nifer o…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Diolch i chi am y cwestiwn. Unwaith eto, rwy'n edmygu'r ymgais i wneud hwnnw'n fater i mi ymdrin ag ef, ond yn amlwg nid mater i mi mohono, yn amlwg iawn, mae hwnnw'n fater i'r Ysgrifennydd Cabinet ymdrin ag ef. Fy nealltwriaeth i yw bod hyfforddiant a…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Rwy'n edmygu ymgais yr Aelod i geisio gwneud hwn yn fater cyfreithiol i Gymru, pan fo'n amlwg iawn mai mater cyfreithiol i Lywodraeth y DU ydy hwn. Wrth gwrs, fe fyddwn ni'n gwylio'r hyn a fydd yn digwydd yn yr achos cyfreithiol hwnnw gyda diddordeb mawr, ac…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Diolch yn fawr iawn i chi am hynna. Fe ddywedaf i wrthych chi pam rwy'n ddiolchgar am hynna—ac fe wnaethoch chi'r camgymeriad hwn o'r blaen. Rwy'n fwy na pharod i ddod â rhestr o gyflawniadau Llywodraeth Cymru gyda mi, ac rwy'n hapus i'w darllen hi, Llywydd…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae arwain cyflawniad blaenoriaethau'r Llywodraeth yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i'r Ysgrifennydd Cabinet portffolio perthnasol. Fy ngwaith i fydd darparu capasiti ychwanegol i gefnogi fy nghyd-Aelodau Cabinet, drwy ddod â phobl…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Diolch, Delyth. Yn sicr, rydym ni'n croesawu bod Cymdeithas y Gyfraith wedi ysgogi trafodaeth bwysig gyda chymaint o'i haelodau. Mae hi'n eglur iawn hefyd fod llawer iawn o ystyriaeth a gwaith wedi mynd i mewn i'r adroddiad diweddar, 'From Caernarfon to…
1 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Er bod gweithredu'r system gyfiawnder yn fater a gedwir yn ôl i raddau helaeth gan Lywodraeth y DU, fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn cael trafodaethau gyda nhw ynglŷn â datganoli cyfiawnder ieuenctid a phrawf. Eto i gyd, nid oes unrhyw drafodaeth wedi bod gyda…