28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwerthuso a Gwella Addysg a Dysg yng Nghymru
Diolch ichi am hynna ac rwy'n credu bod hynny wrth wraidd y diwygiadau. A bydd Estyn yn chwarae rhan bwysig iawn, o safbwynt arolygu atebolrwydd, wrth werthuso gallu'r ysgol ei hun i hunanwella, os mynnwch chi, yn y ffordd y mae'n cynllunio'r cwricwlwm, ac…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwerthuso a Gwella Addysg a Dysg yng Nghymru
Wel, rwyf bob amser yn wylaidd iawn pan fyddaf yn mynd at gwestiynau addysgu a dysgu gyda rhywun sy'n weithiwr addysgu proffesiynol, felly fe wnaf i roi'r cafeat hwnnw, os caf i, ac elfen o barch, mae'n debyg, am yr hyn yr wyf i ar fin ei ddweud. Ond rwy'n…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwerthuso a Gwella Addysg a Dysg yng Nghymru
Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny a'r ffordd mae hi wedi croesawu'r diwygiadau. Rwy'n gwerthfawrogi hynny. Jest ar y pwynt wnaeth hi i gloi, mae cymwysterau yn dal yn mynd i fod yn bwysig, ac mae hynny'n rhan greiddiol o'r system, i sicrhau bod…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwerthuso a Gwella Addysg a Dysg yng Nghymru
Diolch i'r Aelod am set eang o gwestiynau. Gobeithio y bydd yn maddau imi os cyfyngaf fy ymatebion i'r rheini sy'n berthnasol i'r datganiad. Ond rwy'n credu bod y cwestiwn gan yr Aelod yn dangos yn daclus iawn y dryswch sydd wrth wraidd y system mai bwriad y…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwerthuso a Gwella Addysg a Dysg yng Nghymru
Ataliwyd categoreiddio cenedlaethol yn 2020, a chadarnhaodd y canllawiau y bydd yn cael ei ddisodli gan broses hunanarfarnu gadarn lle rhennir arfer da ac yr eir i'r afael â methiant ar frys. Mae'r OECD wedi nodi rôl amlwg ar gyfer hunanarfarnu fel nodwedd o…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwerthuso a Gwella Addysg a Dysg yng Nghymru
Diolch, Dirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn i gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r proffesiwn am eu hymrwymiad parhaus i ddiwygio’r cwricwlwm a blaenoriaethu lles eu dysgwyr, er gwaethaf yr heriau niferus maen nhw wedi eu hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf. Mae…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Gwahardd o'r ysgol: Mwy o niwed nag o les?
Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd Ymchwil Data Gweinyddol Cymru eu harchwiliad o'r cysylltiad rhwng absenoldeb a gwaharddiadau o'r ysgol a chyflyrau niwroddatblygiadol a meddyliol a gofnodwyd mewn carfan fawr o blant a phobl ifanc yng Nghymru. Canfu fod…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Gwahardd o'r ysgol: Mwy o niwed nag o les?
Diolch, Llywydd dros dro. Gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r ddadl fer hon? Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i gael addysg sy'n eu hysbrydoli, eu hysgogi a'u paratoi i gyflawni eu potensial mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Rwyf am fod…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i Heledd Fychan am godi'r cwestiwn. Fe welson ni yn ystod cyfnod y pandemig gynnydd o bron i 4,500 o bobl ifanc, sy'n cynrychioli bron i 20 y cant o'r cofrestriadau newydd, ar blatfform Gwirfoddoli Cymru, sy'n galonogol, dwi'n credu. Mae gwirfoddoli yn…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae cyfleoedd gwirfoddoli fel rhan o addysg yn hanfodol er mwyn creu cymdeithas o wirfoddolwyr a meithrin yr arfer o wirfoddoli ymysg pobl ifanc. Rydyn ni’n parhau i gefnogi cyrff seilwaith y trydydd sector a chynlluniau grant cenedlaethol i hwyluso mynediad…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i'r Aelod am ei bwynt. Mae'n gwestiwn pwysig iawn. Efallai ei fod wedi gweld rhai o'r sylwadau a wneuthum yr wythnos diwethaf yn benodol am fynediad at bob math o addysg i bobl ifanc o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig. Am y tro cyntaf eleni, ac ym…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Gwelir y lefel uchaf o fuddsoddiad mewn addysg bellach mewn hanes diweddar yn setliad 2022-23. Rydym yn cydnabod bod mwy o ddysgwyr yn dewis aros mewn addysg ôl-16. Drwy'r gyllideb, byddwn yn sicrhau bod dysgwyr mewn addysg ôl-16 yn cael cynnig y cymorth…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwyf wedi cyfarfod â'r bwrdd arholi wrth gwrs a chyda Cymwysterau Cymru, fel rwy'n ei wneud yn rheolaidd, ac wedi trafod tymor arholiadau yr haf hwn yn rhan o'n trafodaethau yn gyffredinol. Mae dysgwyr eleni wedi wynebu cyfres arbennig o heriau, y garfan…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Yn ogystal â'r addasiadau a gyhoeddwyd i gynnwys arholiadau a ffiniau graddau, rhoddwyd pecyn cymorth gwerth £24 miliwn ar waith, gan gynnwys yr ymgyrch Lefel Nesa. Mae'r buddsoddiad hwn wedi rhoi gwybodaeth, adnoddau arholiadau, a chynghorion i ddysgwyr i'w…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy'n hapus iawn i ymuno â'r Aelod i longyfarch y coleg, ac rwy'n edrych ymlaen at fod gydag ef yfory yng Ngholeg Sir Benfro, lle y cawn gyfle i siarad â llawer o'r dysgwyr ifanc yno—a'r manteision y gallant eu cael o'r ystod o gyfleoedd sydd ar gael yno…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae amrywiaeth o gyfleoedd addysg alwedigaethol ar gael ar bob lefel i weddu i'n dysgwyr yn sir Benfro. Mae cymwysterau galwedigaethol yn chwarae rhan hanfodol yn darparu'r sgiliau a'r hyfforddiant sydd eu hangen ar ein dysgwyr i fynd i'r afael â gofynion ein…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy'n credu bod hwnnw'n gwestiwn da iawn. Mae'r ymgyrch Lefel Nesa, fel y gŵyr o'n cyfathrebu blaenorol ac o'i brofiad ei hun, rwy'n siŵr, yn darparu pecyn o gymorth adolygu, ond yn cyfeirio at gymorth arall hefyd, yn ogystal ag addasiadau, eleni, i'r cynnwys…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, mae e wedi bod yn sefyllfa anodd eleni i'r rheini sydd heb sefyll arholiad allanol o'r blaen, ac mae hynny yn ddealladwy. Ac, felly, mae'r pryder sy'n dod yn sgil papurau oedd efallai yn annisgwyl i unigolion, wrth gwrs, wedyn yn cael effaith arnyn nhw…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae pecyn cymorth cynhwysfawr ar waith, sydd yn werth £24 miliwn yn gyfan, i roi blaenoriaeth i ddysgwyr sy’n gwneud eu harholiadau. I gyd-fynd â hyn, mae mesurau ymarferol wedi’u cymryd hefyd, gan gynnwys addasu cynnwys yr arholiadau, rhoi gwybodaeth ymlaen…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
A gaf i ddweud mor braf yw e i glywed mwy o Aelodau yn siarad Cymraeg yn y Siambr? Llongyfarchiadau i Sam, ynghyd â Jack, heddiw. Ie, mae e wir yn bwysig, er mwyn i ni allu gweld y cynnydd rŷn ni eisiau ei weld o fewn darpariaeth Gymraeg, a bod mynediad hafal…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach ac am ei ddefnydd o'r Gymraeg yn ei gwestiwn cyntaf. Mae awdurdod lleol sir y Fflint wedi ymrwymo yn eu cynllun strategol Cymraeg mewn addysg drafft i gynyddu canran y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg o 6.3 y cant ar…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch, Jack. I gefnogi eu cynlluniau i dyfu addysg Gymraeg, mae’r cyngor wedi cael cymeradwyaeth mewn egwyddor i sefydlu ysgol gynradd newydd, trwy gyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru.
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Nid wyf yn derbyn bod y cyllid yn mynd ag arian oddi wrth y system ysgolion; mae'r cyllid yno er mwyn cefnogi'r rhaglen gwella ysgolion sydd gennym ledled Cymru. Ac mae mwyafswm y cyllid sydd ar gael i'r consortia…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Gwnaf. Mae consortia rhanbarthol yn cefnogi ysgolion i wella, gan gynnwys drwy ddysgu proffesiynol, ymgysylltu uniongyrchol a hwyluso gweithio rhwng ysgolion. Byddaf yn cyhoeddi canllawiau gwella ysgolion yr wythnos nesaf, i nodi sut y mae Llywodraeth Cymru…
22 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
O ran cynlluniau strategol a phob awdurdod lleol yng Nghymru, byddaf yn gwneud datganiad ynglŷn â lle maen nhw, ar ôl yr adolygiadau sy'n mynd rhagddyn nhw ar hyn o bryd, o fewn yr wythnosau nesaf, cyd diwedd y tymor, ac mae hynny'n cynnwys cynlluniau cyngor…