21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Ein blaenoriaeth o hyd yw sicrhau bod myfyrwyr addysg uwch yn gallu cael cymorth sy'n eu galluogi i dalu eu costau byw o ddydd i ddydd. Mae ein system cymorth i fyfyrwyr yn darparu cymorth sy’n cyfateb i’r cyflog byw cenedlaethol, gyda’r lefelau grant uchaf…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae’n gywir i ddweud, wrth gwrs, fod costau gwisg ysgol yn bryder sylweddol i lawer o deuluoedd. Ysgrifennais at ysgolion dros doriad yr haf, tuag at ddiwedd y toriad, i ddweud wrthynt y byddwn yn edrych eto…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, mae hwnnw'n ateb mwy hirdymor i'r her y mae'r Aelod yn ei disgrifio'n gywir fel un sydd ar fin digwydd i ysgolion, ac rwy'n gobeithio, fel rwy'n siŵr y bydd ef, pan fydd y datganiad yn cael ei wneud ddydd Gwener, y bydd Prif Weinidog y DU yn glir…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae eisoes yn digwydd mewn rhai ysgolion yng Nghymru. Mae ysgolion yn cefnogi teuluoedd mewn pob math o ffyrdd i sicrhau eu bod nhw'n cael mynediad at gefnogaeth ehangach. Un o’r ystyriaethau wnaeth y Prif Weinidog sôn amdano ddoe, wrth gwrs, oedd bod angen…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae'r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effaith sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ein hysgolion ni. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi egluro yn y Senedd ddoe mai dim ond y Llywodraeth yn San Steffan sydd â'r grym ariannol i…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, rwyf am dderbyn y gwahoddiad i ailadrodd fy llongyfarchiadau i bobl ifanc yng Nghymru, sydd wedi bod drwy gyfnod anodd iawn. Mewn rhai ffyrdd, rwy’n credu mai’r flwyddyn ddiwethaf hon oedd y fwyaf aflonyddgar o ran y profiad yn yr ystafell ddosbarth, ac…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae Cymwysterau Cymru wedi ceisio darparu canlyniadau graddau ar gyfer Safon Uwch a TGAU cymeradwy sydd oddeutu hanner ffordd rhwng haf 2019 a haf 2021, ar lefel genedlaethol. Ac mae’r canlyniadau a gyflawnwyd gan ddysgwyr yn dangos eu gwytnwch, ac rwy’n eu…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy’n credu bod hynny’n rhan o’r ateb. A dweud y gwir, rwy’n credu’n gryf y bydd y cwricwlwm newydd yr ydym yn ei gyflwyno yng Nghymru, sydd wedi’i deilwra i anghenion dysgwyr unigol ac sy’n rhoi pob dysgwr yn y sefyllfa orau bosibl i gyflawni ei botensial ei…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, mae amryw o gwestiynau pwysig iawn yng nghwestiwn yr Aelod. Mae'r adroddiad yn cydnabod bod y cefndir cymdeithasol yng Nghymru yn wahanol i'r cefndir cymdeithasol, ar gyfartaledd, yn Lloegr—hynny yw, bod lefelau o dlodi yn uwch yng Nghymru am resymau…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Roedd fy natganiad llafar ar 22 Mawrth yn amlinellu fy mwriad i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad, ac rwyf wedi rhoi ystod o fesurau ar waith i wireddu'r uchelgais hwn.
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, dyna yw'r risg, fel mae'r Aelod yn dweud. Dyna pam mae e mor bwysig bod y drafodaeth yn digwydd mewn ffordd gymedrol, ffeithiol, oherwydd mae amryw o heriau o flaen athrawon ar hyn o bryd. Rydym ni wedi cyflwyno cwricwlwm o'r newydd ac mae angen sicrhau…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig yn y cwestiwn olaf. Rŷn ni'n gweithio gyda'n partneriaid yn gyffredinol i sicrhau bod y wybodaeth iawn ar gael a bod canllawiau ar gael i allu mynd i'r afael â hyn. Mae wir yn bwysig—ac mae'n drueni nad yw llefarydd y…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Nid yw honiadau cyffredinol gan yr Aelod yn creu realiti newydd ar lawr gwlad. Mae hi'n haeru bod yna ddryswch; mae hi'n haeru llawer o bethau yn ei chyfraniad heddiw. Gadewch i ni edrych ar y dystiolaeth mewn gwirionedd. Mae’r Aelod yn ymwybodol fod y cod…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae natur generig honiadau'r Aelod, diffyg penodoldeb, y dull bras o ymwneud â'r cwestiwn hwn yn anhygoel o ddi-fudd. Mae'r cwricwlwm wedi bod yn cael ei ddysgu ers mater o ddyddiau yn yr ysgolion mewn gwirionedd, felly byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae'n bwysig iawn fod pobl ifanc yng Nghymru yn cael addysg sy'n eu galluogi i ymdopi â'r byd lle'r ydym yn byw ac yn deall yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, heriau nad oeddwn i yn sicr yn eu hwynebu pan oeddwn i eu hoedran hwy, a dyna bwrpas ac…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, byddwn yn croesawu unrhyw gymorth y mae Llywodraeth y DU yn barod i'w ddarparu ar ffurf cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi teuluoedd ledled Cymru. Rwy'n credu bod y methiant i fod yn glir am hynny yn bryder…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
O ran costau tâl y gweithlu, mae'r arian hwnnw eisoes wedi ei ddyrannu fel rhan o negodiadau yr RSG y llynedd. Dyna oedd y sail iddyn nhw gael eu cytuno. Rwy'n cytuno â beth mae Sioned Williams yn ei ddweud ynglŷn â'r pwysau sydd ar ein hysgolion ni oherwydd…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae'r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effaith sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ein hysgolion. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi egluro, dim ond Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â'r grym ariannol sydd â'r grym ariannol i…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, rwy'n cyfeirio Mark Isherwood at yr ateb a roddais eiliad yn ôl, ond rwyf am ddweud wrtho ef ac wrth Llyr Gruffydd, os hoffech chi ysgrifennu ataf ynglŷn â'r etholwr penodol, gallwn edrych ar hynny'n fwy manwl—oni bai eich bod wedi gwneud hynny eisoes…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae rhai newidiadau wedi digwydd eisoes. Felly, mae HEIW eisoes wedi cynyddu'r lwfans sydd ar gael i fyfyrwyr ynglŷn â llety placements er enghraifft, a hefyd trafnidiaeth. Felly, mae rhai camau eisoes wedi cael eu cymryd. Rŷn ni wedi sefydlu bwrdd rhaglen…
21 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i adolygu cynllun bwrsariaeth gwasanaeth iechyd gwladol Cymru. Rŷn ni'n cydnabod effaith costau byw cynyddol ar fyfyrwyr gofal iechyd proffesiynol ac rŷn ni'n ceisio nodi camau y gellir eu…
20 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Brydau Ysgol am Ddim
Diolch i Rhianon Passmore am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rwy'n credu y bydd nifer o ganlyniadau cadarnhaol ym mywydau'r dysgwyr ifanc hyn a'u teuluoedd. Yr effaith gyntaf, ar unwaith fydd cyfrannu at leddfu, i ryw raddau, agweddau ar y pwysau costau byw y mae…
20 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Brydau Ysgol am Ddim
Maen nhw wedi gweithio'n anhygoel o galed i sicrhau bod cymaint o bobl ifanc â phosibl yn gallu elwa ar y polisi hwn, yn unol ag amserlen fer iawn, iawn, ac mae hynny'n berthnasol i bob awdurdod yng Nghymru. Fel y dywedais i, lle mae nifer fach o ysgolion y…
20 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Brydau Ysgol am Ddim
Mae'n ddrwg gen i, rydw i eisiau bod yn glir: nid yw awdurdodau yn cael trafferth o ran cyflawni'r polisi hwn. Maen nhw wedi gweithio'n hynod o galed i wneud yn siŵr—
20 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diweddariad ar Brydau Ysgol am Ddim
[Anghlywadwy.] —y mae Sarah Murphy yn ei godi, Dirprwy Lywydd. A'r cwestiwn y mae unrhyw Lywodraeth yn y sefyllfa hon yn ymgodymu ag ef, mewn gwirionedd, yw, o ystyried maint yr her costau byw y mae teuluoedd yn ei wynebu, mae mantais sylweddol i'w gael o…