14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn cyflawni rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i osod partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol yng Nghymru. Gan ei fod yn sector cyflogaeth sylweddol, rydym yn awyddus i sicrhau bod addysg…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy'n gweithio'n agos iawn gyda Gweinidog yr Economi, ac mae ein portffolios yn dod at ei gilydd yn y maes penodol hwn. Rhan sylweddol o hynny yw sicrhau bod y cymwysterau galwedigaethol rydyn ni'n eu cynnig yn gallu cefnogi'r bobl ifanc i wneud swyddi'r…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch, Huw Irranca-Davies, am y cwestiwn hwnnw. Rwy'n croesawu ysgolion a sefydliadau fel Ysgol Gyfun Maesteg a Choleg Castell-nedd Port Talbot yn fawr iawn yn yr enghraifft honno, rwy'n credu, gan gydweithio i roi'r hyfforddiant ymarferol hwnnw mewn meysydd…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae'r 'Cwricwlwm i Gymru' yn canolbwyntio ar ddatblygu dysgwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith. Rwy'n cefnogi'n gryf bwysigrwydd sgiliau fel rhan o ddysgu a'r cyfle i ysgolion a cholegau gydweithio i ddiwallu anghenion…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i Russell George am y cwestiwn yna. Mae'n gwestiwn pwysig ac mae e—. Mae'n fater adeiladol i'w godi, felly diolch yn fawr iddo am hynny. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ac rydym yn parhau i gyhoeddi canllawiau sy'n ymdrin â rhai o'r agweddau y mae ef…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Drwy weithredu'r diwygiadau ADY yn barhaus, bydd plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn sir Drefaldwyn yn cael rhywun yn gwrando arnyn nhw ac yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw yn eu haddysg.
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i'r Aelod am hynny. Mae’r cwestiwn y mae’n hi ei ofyn yn un pwysig iawn. Mae lot o ymgysylltu yn digwydd. Rwy’n cadeirio corff traws-sectoraidd sy’n edrych ar bethau strategol, ond hefyd elfennau gweithredol pan fyddan nhw’n bethau mae gan amryw o…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae'n berffaith wir i ddweud nad yw'r comisiwn wedi bod mewn lle, hyd yn hyn, i ddweud 'Habemus papam' o ran yr apwyntiad, ond mae’r gwaith yn mynd rhagddo i edrych ar ymgeiswyr ac apwyntio’r person iawn. Mae wrth gwrs yn bwysig sicrhau, ymhlith y tîm…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae gen i'r fantais drosti o allu gweld wynebau ei chyd-Aelodau wrth iddi ddod â'r pethau hyn i'r Siambr, ac mae'n bictiwr, oherwydd maen nhw'n teimlo mor chwithig â phob un ohonom ni. Rydyn ni i gyd yn cymryd rhan yn y Siambr hon wrth sicrhau bod gennym…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, dim ond i'r Siambr fod yn ymwybodol, mae'r llythyr yr ysgrifennais i at yr Aelod, llefarydd yr wrthblaid dros addysg, sawl mis yn ôl nawr, rwy'n credu, yn gofyn iddi ddwyn i fy sylw unrhyw ddogfennau o bryder a thystiolaeth sy'n cael eu defnyddio mewn…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i'r Aelod am y gwaith y mae hi'n ei wneud i wella ei gwybodaeth yn uniongyrchol drwy siarad ag ysgolion ledled Cymru ynglŷn â goblygiadau'r diwygiad ADY. Fel y dywedodd hi, mae'n set bwysig o ddiwygiadau ac mae'n un rwy'n gwybod y mae pob rhan o'r…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Dros gyfnod 10 mlynedd y rhaglen cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg ledled Cymru, bydd, yn fras, 50 o ysgolion newydd, naill ai drwy adeiladu ysgolion newydd neu gynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg mewn ysgolion presennol, yn rhannol trwy gymryd yr…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i Buffy Williams—ac mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn—ac rwy'n diolch iddi hefyd am fy ngwahodd i ymweld ag Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, a diolch i Mr Spanswick a'r staff am y croeso cynnes iawn y rhoddon nhw i mi pan fu modd i mi ymweld, ac fe welais i…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rydyn ni'n cydnabod bod ysgolion a cholegau'n chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ein cymunedau lleol. Mae'n hanfodol bod buddsoddi yn ein hystad addysg drwy ein rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu yn ysgogi arbed ynni, yn lleihau pwysau refeniw, ac…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae'r Aelod yn dweud y gallwn ni 'drafod rhinweddau' y peth; gadewch i ni fod yn glir, dydy e ddim eisiau i ni fod yn ei wneud. [Torri ar draws.] Dydy e ddim eisiau i ni fod yn bwydo pob plentyn yn yr ysgol gynradd, felly dyna'r safbwynt mae ei blaid yn ei…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, mae'r Aelod yn sôn am bethau pwysig iawn, wrth gwrs, ac mae'n gwybod ein bod ni'n cydweld gyda hi pa mor bwysig mae e i sicrhau bod yr ysgol yn hygyrch i blant o bob amgylchiadau. Mae'r grant hanfodion ysgol wedi gwneud cyfraniad sylweddol i hynny, ac…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae ein grant hanfodion ysgol wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i nifer o deuluoedd incwm isel ar draws Cymru, gan helpu i leihau'r pryder ynghylch prynu gwisg ysgol ac offer, er enghraifft. Bydd cyllid o £13.6 miliwn ar gael yn 2023-24.
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—Data biometrig mewn ysgolion
Ddirprwy Lywydd, fel y nodwyd yn y cynnig, rhaid i ysgolion a cholegau ystyried Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, ac mae hwnnw hefyd wedi'i nodi'n glir yn ein canllawiau. Mae hyn yn cynnwys yr hawl i fynegi eu barn, eu teimladau a'u…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—Data biometrig mewn ysgolion
Mae yna farn wahanol, Ddirprwy Lywydd, ynghylch defnyddio technolegau biometrig ar draws pob agwedd ar gymdeithas. Mae'n fater cymhleth ac mae'n fater sensitif. Mae technoleg yn datblygu'n gyflym yn ein bywydau bob dydd, ac o'i defnyddio yn y ffordd gywir…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—Data biometrig mewn ysgolion
Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn maddau i mi am ddweud bod y Senedd, rwy'n credu, ar ei gorau pan fo Aelodau'n cyflwyno materion nad oes ganddynt y proffil y maent yn ei haeddu bob amser i'r Siambr ac yn dilyn y cwestiynau hynny gyda mesur cyfartal o…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)—Data biometrig mewn ysgolion
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl bwysig hon heddiw? Yn benodol, gaf i ddiolch i'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr am ei gwaith parhaus i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n ymwneud â chasglu a…
1 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gymraeg
Rŷm ni'n gobeithio y bydd pob un ohonoch chi, o ba bynnag blaid neu ba bynnag brofiad ieithyddol, yn ymrwymo heddiw ar Ddydd Gŵyl Dewi i weithio drwy'r flwyddyn i greu Cymru lle gall cenedlaethau'r dyfodol ddefnyddio'r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd. Mae'r…
1 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gymraeg
Fel y gŵyr yr Aelod o'n trafodaethau blaenorol, rydym wedi bod yn gweithio gyda'n partneriaid mewn perthynas â'r her anodd i gynyddu nifer yr athrawon sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ac yn ffodus, fel y gŵyr, mae gennym gynllun 10 mlynedd rydym…
1 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gymraeg
Yn sicr.
1 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gymraeg
Wel, does dim sifft, a does dim diystyru. Y llinyn mesur yw'r cyfrifiad, ond mae'n rhaid edrych ar y cyd-destun ehangach os ydyn ni'n moyn seilio'n polisi ar ffaith yn hytrach na'r hyn hoffem ni ei weld. Felly, dyna pam mae edrych ar y darlun ehangach mor…