3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rŷm ni wedi hwyluso hyn drwy ariannu adnoddau megis offer gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg. Ar ben hyn, rŷm ni'n ariannu Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru i ddatblygu’r sector cyfieithu a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i feithrin sgiliau iaith. Ac wrth…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
O ran y cynigion y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt, y pwynt a wneuthum yw nad ydynt wedi'u cyhoeddi eto, felly rwy'n credu y dylai nodi hynny. O ran ymgysylltu ag aelodau o'r gymuned addysg ddewisol yn y cartref, cafwyd lefel sylweddol iawn o ymgysylltu. Yn…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rydym yn bwriadu cyhoeddi canllawiau statudol yn fuan iawn a fydd yn gwella cyfleoedd dysgu i blant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, yn annog mwy o fynediad at wasanaethau cyffredinol ac yn sicrhau bod gan bob plentyn fynediad at addysg addas ac effeithlon.
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i Janet Finch-Saunders am y cwestiwn, ac am ofyn y cwestiwn yn y Gymraeg, a llongyfarchiadau iddi hi am wneud hynny, hefyd. Mae penderfyniadau o ran mynediad yn faterion i’r Eisteddfod, wrth gwrs. Mater iddyn nhw yw ystyried cynnig tocynnau…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn bartner hollbwysig i ni ac, eleni, rŷn ni'n cynnig grant o £1 filiwn i gefnogi ystod eang o weithgareddau i gynyddu defnydd y Gymraeg yn y gymuned. Mae'n fwy na dim ond gŵyl wythnos; mae'n benllanw tair blynedd o waith…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i Altaf Hussain am y cwestiwn. Mae elfen gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â gwaith ein Cwricwlwm newydd i Gymru, o dair i 16 oed, yn rhoi'r byd gwaith wrth galon bywyd ysgol, ac yn amlwg, y ffordd orau o ddarparu hynny yw i ysgolion gydweithio…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i Jack Sargeant am y cwestiwn pellach a'i gefnogaeth frwd i brentisiaethau, sy'n amlwg yn seiliedig ar ei arbenigedd a'i brofiad ei hun o hynny. Rwy'n credu bod y pwynt y mae'n ei wneud yn bwysig iawn. Cefais sgwrs y bore yma, mewn trafodaeth gyda…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae ein rhaglen Have a Go yn annog mwy o ymwneud gan blant ysgol mewn prentisiaethau ac yn codi ymwybyddiaeth dysgwyr o sectorau gwaith, gan gynnwys gweithgynhyrchu. Nod y sgiliau hanfodol sy'n cael eu dysgu o dan y Cwricwlwm i Gymru yw rhoi sgiliau…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i Mark Isherwood am y cwestiwn pwysig hwn. Cefais ohebiaeth hefyd gan George Baldwin o Gymdeithas Genedlaethol Plant Byddar yn ôl ym mis Chwefror, ac fe ymatebais iddo ar y pryd, ac rwyf hefyd wedi darllen yr adroddiad a anfonwyd ataf ar y pryd mewn…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rydym yn parhau i gefnogi disgyblion byddar. Mae tegwch a chynhwysiant yn ganolog yn y system anghenion dysgu ychwanegol a'r Cwricwlwm i Gymru, sydd â'r nod o helpu i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael mynediad at addysg sy'n eu galluogi i…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i John Griffiths am y cwestiwn. A byddwn yn cydnabod yn llwyr y pwyntiau a wnaeth yn ei gwestiwn am bwysigrwydd cyfleusterau modern i roi cyfle i bob dysgwr ifanc yng Nghasnewydd gael y profiad ôl-16 gorau posibl yng Ngholeg Gwent. Ac fel y dywedodd…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy'n falch o fuddsoddiad y Llywodraeth hon yn sector addysg bellach Cymru, sydd wedi caniatáu i fwy o ddysgwyr aros mewn addysg ôl-16. Cyhoeddais ar 17 Ebrill mai Cymru yw gwlad gyntaf y DU i gynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg, er budd oddeutu 16,000 o…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, mae'n iawn i nodi'r cysylltiad rhwng gofal iechyd ac addysg mewn perthynas â'r drefn anghenion dysgu ychwanegol, os mynnwch. Mae'r cydweithrediad rhwng y ddau wasanaeth cyhoeddus yn amlwg yn ganolog i hynny. Ac fel y soniais wrth Siân Gwenllian nawr, er…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiwn hwnnw. Wel, beth mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i ddatgan yw cynllun dros dair blynedd, gyda £12 miliwn o fuddsoddiad. A bwriad hwnnw yw i fynd i'r afael â'r pwysau presennol sydd ar y gwasanaethau, fel mae hi wedi eu…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Bydd anghenion unigol disgyblion yn Arfon yn cael lle canolog wrth inni weithredu ein diwygiadau ym maes addysg. Byddwn yn sicrhau hynny drwy ddull cynllunio sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a chymorth ar gyfer cynnydd unigol. Does dim angen diagnosis…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, dŷn ni ddim yn gwneud hynny, ac rŷn ni'n ofalus iawn i sicrhau bod ein buddsoddiad ni yn adlewyrchu'r egwyddorion mae'r Aelod wedi eu hesbonio yn ei chwestiwn. Felly, wrth edrych ar gynlluniau pob awdurdod lleol, mae'n rhaid sicrhau nad yw'r cynlluniau…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy'n diolch i'r Aelod am y croeso y mae hi'n ei roi i'r cynllun. Mae dwy o'r tair ysgol yn ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac, yn y drydedd ysgol—rwy'n credu sydd yn etholaeth yr Aelod—mae'r cyngor wedi ymrwymo i wneud asesiad o'r capasiti i sicrhau bod…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Lywydd, mae naws Kafka-aidd iawn i hyn gan blaid nad yw'n credu mewn ariannu gwasanaethau cyhoeddus, a'r unig blaid yn y Senedd a addawodd mewn etholiad i dorri gwariant ar addysg 12 y cant. Felly, nid wyf am dderbyn unrhyw bregeth gan Samuel Kurtz ynghylch…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, roedd y llythyr—rwy'n credu i mi ei ddarllen ar Wales Online ar 31 Mawrth, gan lywodraethwr ysgol yn y Fro. Ac fel mae'n digwydd, roeddem eisoes wedi ysgrifennu at bob awdurdod yn egluro'r cyllid pellach a ddarperir gennym i bob awdurdod er mwyn eu helpu…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, rydym eisiau gwneud yn siŵr fod awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer nifer y lleoedd ysgol sydd ei angen arnynt yn eu hardaloedd awdurdod lleol, a bod yr ystad ysgolion sydd ar gael yn yr ardal honno yn…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, rwy'n gwybod bod ysgolion ledled Cymru a lleoliadau addysg ledled Cymru yn gwneud popeth yn eu gallu i sicrhau bod pobl ifanc yn yr ysgol, yn y coleg, ac yn gallu manteisio'n llawn ar eu haddysg. Mae ysgolion yn mabwysiadu dulliau arloesol iawn. Gallant…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Byddwn i'n hapus i edrych i mewn i'r enghraifft benodol mae e wedi ei nodi yma heddiw. Yn ôl y cynllun gwnaeth e gyfeirio ato fe, 'Mwy na Geiriau', y cynllun pum mlynedd diweddaraf, un o'r amcanion erbyn 2027 yw sicrhau…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rŷn ni'n cyflwyno rhaglen gwella niwrowahaniaeth, sy'n cael ei chefnogi gan £12 miliwn. Rydyn ni'n defnyddio dull system gyfan wrth ddatblygu gwasanaethau cynaliadwy sy'n diwallu anghenion a nodwyd, gan gynnwys gwella mynediad at asesiadau Cymraeg. Rydyn ni…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Ie. Mae ysgol uwchradd Hwlffordd yn un o'r buddsoddiadau yn y sir y bu modd i ni eu cyd-ariannu gyda'r cyngor wrth gwrs—buddsoddiad o £48 miliwn. Yn ogystal â'r cyfleusterau gwych, mae ganddi gyfleusterau cymunedol hefyd, gan gynnwys cyfleusterau chwaraeon…
3 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Bydd ysgolion yn sir Benfro yn parhau i elwa o fuddsoddiad cyfalaf sylweddol drwy raglen cymunedau dysgu cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Bydd yr awdurdod lleol hefyd yn parhau i gyflwyno prydau am ddim i holl ddisgyblion ysgolion cynradd a chyflawni ei chynllun…