7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Gwnaf yn wir. Fel sy'n wir am bob mater staffio, wrth gwrs, ysgolion sy'n gyfrifol am benderfynu sut i recriwtio cynorthwywyr addysgu. Bydd eu penderfyniadau nhw yn wahanol yn ôl anghenion unigol yr ysgol a'i dysgwyr. Gall ysgolion gyflogi staff cyflenwi yn…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, mae’r Aelod yn iawn i nodi bod cefnogi a chryfhau’r ddarpariaeth gwaith ieuenctid ledled Cymru yn flaenoriaeth i mi fel Gweinidog, ond mae hefyd yn flaenoriaeth drawslywodraethol. Mae’n rhan o’n rhaglen lywodraethu, ac mae a wnelo hynny â nifer o bethau…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, dwi ddim yn gwybod os oedd yr Aelod yn fy meirniadu i am beidio â chynyddu ffioedd, ond dwi ddim yn bwriadu cynyddu ffioedd. Mae’n gyfnod anodd i fyfyrwyr ar hyn o bryd, ac felly rwy’n sicr bod angen cefnogi sefydliadau, ond mae hefyd eisiau sicrhau nad…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, diolch i’r Aelod am ddod ag awgrymiadau cadarnhaol i’r drafodaeth; rwy’n croesawu’n llwyr y cywair newydd yn ei chyfraniad. Felly, yr hyn y byddwn yn ei wneud yw gweithio ar hyn gyda'n partneriaid, sy'n arbenigwyr yn y maes—felly, gyda'n partneriaid yn…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, maent yn cael eu hadrodd; y cwestiwn yw sut maent yn cael eu hadrodd, ac yn sicr, bydd yna enghreifftiau lle na chânt eu hadrodd. Felly, rwy’n amlwg yn derbyn hynny. Mae hynny’n nodwedd o ofynion adrodd yn gyffredinol mewn cyd-destunau eraill hefyd. Yr…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Bydd hi’n gwybod o’i gwaith ar y pwyllgor fod y Llywodraeth wedi bod yn gweithio gydag undebau athrawon mewn perthynas â’r union gwestiwn hwn, ac mae’n gwestiwn pwysig. Yr hyn nad yw wedi bod yn gwbl glir yw maint y broblem. Mae ganddi rai ffigurau yno, ond…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Cyfeiriaf Altaf Hussain at yr ateb rwyf newydd ei roi i Huw Irranca-Davies, sy'n nodi’r camau rydym yn eu cymryd. Ar y cwestiwn am lwybrau i'r ysgol a'i gwneud yn hawdd i bobl allu cerdded, beicio a sgwtera i gyrraedd lleoliad ffisegol yr ysgol, rydym yn…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i Huw Irranca-Davies am y cyfle i allu annog ein hysgolion ni ar draws Cymru i wneud popeth y gallan nhw i annog, nid jest disgyblion, ond fel mae e'n ei ddweud mor bwysig yn ei gwestiwn, staff ysgol hefyd, llywodraethwyr, a'r gymuned ehangach hefyd…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae ei gwneud hi'n bosib i fwy o blant gerdded a mynd ar sgwter neu feic i’r ysgol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, ac rŷn ni’n gweithio’n agos ar draws adrannau a chyda phartneriaid eraill i gyflawni’r amcan hwn.
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Rwy'n optimist wrth reddf, felly'n cytuno â beth mae'r Aelod newydd ei ddweud. Mae'n bwysig, rwyf i'n credu, er ein bod ni'n trafod yn aml yr heriau sy'n wynebu recriwtio, er enghraifft, ein bod ni hefyd yn dathlu'r cyfraniad mae athrawon yn gallu ei wneud…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae'r ffigurau yn y cyfrifiad, wrth gwrs, yn dangos gostyngiad mewn rhai grwpiau oedran, ond fel mae'r Aelod yn gwybod, rŷn ni hefyd wedi bod yn edrych ar ddata trwy'r arolwg cenedlaethol sydd yn dangos, am y tro cyntaf erioed…
7 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae hybu addysg cyfrwng Cymraeg yn greiddiol i’n strategaeth 'Cymraeg 2050'. Rwyf wedi cytuno cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yr holl awdurdodau lleol i gefnogi’r gwaith hwn. Rŷn ni’n gweithredu cynllun gweithlu Cymraeg uchelgeisiol ac yn ariannu…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Ddewisol yn y Cartref
Wel, mae'r canllawiau'n glir iawn ar y pwynt olaf hwnnw; roeddwn i hefyd yn glir yn fy natganiad am hynny. Dydy e ddim yn orfodol. Fe gyfeiriodd ato fel rhywbeth sy'n orfodol. Felly, byddai plentyn sy'n gymwys o dan reolau Gillick neu riant ar ran…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Ddewisol yn y Cartref
Rwy'n hapus iawn i roi'r sicrwydd hwnnw. Hawliau plant yn sicr yw holl bwrpas ysgogol y canllawiau yr ydym wedi'u cyflwyno heddiw. Gan adleisio'r pwynt a wnaeth Jenny Rathbone, mae'n fater o sicrhau bod hawliau plant yn cael eu parchu a bod eu hawl i addysg…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Ddewisol yn y Cartref
Nid wyf i o'r farn fod y pwynt a wna'r Aelod yn adlewyrchu safbwynt Llywodraeth Cymru mewn unrhyw fodd. Mae ganddo ef hawl i wneud y pwynt, fel gwnaeth Laura Anne Jones, ond nid honno yw barn y Llywodraeth o bell ffordd. Nid wyf i'n credu y gallwn i fod yn…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Ddewisol yn y Cartref
Rwy'n credu fy mod i am ddechrau gyda'r hyn y gwnaeth Jenny Rathbone ddechrau ag ef, sef nad yw'r penderfyniad i addysgu yn y gartref, gan rai, yn ddewis adeiladol—mae hwnnw'n deillio o brofiad y bydden nhw'n dweud nad oedd er lles mwyaf eu plant. Yn amlwg…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Ddewisol yn y Cartref
Diolch am y cwestiynau. Mae cwestiynau pwysig ynghlwm â beth mae'r Aelod newydd ofyn. Felly, o ran diogelu, jest i fod yn gwbl glir: dwi erioed wedi awgrymu, oherwydd does dim tystiolaeth i awgrymu, fod plentyn sy'n cael ei addysgu adref mewn fwy o risg o ran…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Ddewisol yn y Cartref
Ie, nid wyf i'n deall yn iawn ai barn gyffredinol yr Aelod yw bod addysg yn y cartref yn achos pryder, chwedl hi, neu'n achos o ddewis y rhieni. Rwyf i a'm geisio ymdrin â'r cwestiynau a ofynnodd hi am eu bod nhw'n gwestiynau pwysig, ac maen nhw'n cynnwys…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Ddewisol yn y Cartref
Dwi’n bwriadu treialu’r gronfa ddata am flwyddyn, gan ddechrau yn ystod gwanwyn 2025, er mwyn deall i ba raddau y mae’r data yn ddefnyddiol i helpu awdurdodau lleol i nodi’r plant nad ydyn nhw, o bosib, yn cael addysg addas. Ar yr un pryd, fe fyddaf i’n…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Ddewisol yn y Cartref
Ar gyfer rhoi cefnogaeth ychwanegol i'n hymrwymiad ni i lwyddiant a llesiant pob dysgwr, fe fyddaf i'n llunio rheoliadau a fydd yn gofyn am gronfa ddata o blant nad ydyn nhw wedi cofrestru yn yr ysgol, nad ydyn nhw'n cael addysg heblaw am yn yr ysgol, neu nad…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Ddewisol yn y Cartref
Mae’n bwysig monitro a gwerthuso effeithiolrwydd y canllawiau ar ddarparu addysg ddewisol yn y cartref. Er mwyn rhoi digon o amser i awdurdodau lleol ymgorffori’r canllawiau, bydd gwerthusiad yn cychwyn yn ystod haf 2024. Gallai hyn gynnwys ystyried pa un a…
6 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Ddewisol yn y Cartref
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae canllawiau statudol newydd ynglŷn ag addysg ddewisol yn y cartref, a gyhoeddwyd ar 12 o fis Mai, yn cefnogi awdurdodau lleol gyda'u dyletswyddau o ran sicrhau y bydd pob plentyn yn cael addysg addas a sicrhau bod anghenion addysgol…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023
Diolch, Llywydd. Diolch i Huw Irranca-Davies am ei gyfraniad, a diolch i'r pwyllgor am ei graffu manwl ar y cynnig. A diolch iddo am ddisgrifio'r trafodaethau rhyngom ni mewn ffordd oedd yn adlewyrchu hynny. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau yn hapus i fynd yn…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023
Ym mis Mawrth 2022 ac eto ym mis Tachwedd 2022, fe wnaethom ymgynghori ar sut y byddem yn diweddaru ac yn cryfhau gofynion rheoleiddio cyfredol y rhai sy'n gweithio gyda'n plant a'n pobl ifanc. Gyda chefnogaeth eang i'r cynigion a'r ddeddfwriaeth ddrafft…
16 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023
Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n cyflwyno cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol) (Cymru) 2023. Prif ffocws y Gorchymyn yw diwygio'r categorïau ar gyfer ymarferwyr addysg sydd angen cofrestru gyda Chyngor y…