23 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg: Ein dyfodol economaidd
Diolch i Samuel Kurtz am ystod eang iawn o gwestiynau, ac rwy'n ei groesawu i'w gyfrifoldebau newydd. Edrychaf ymlaen yn fawr at ein trafodaethau ar draws y Siambr, ac efallai y tu allan i'r Siambr o bryd i'w gilydd hefyd. Rhagosodiad cwestiynau'r Aelod oedd…
23 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg: Ein dyfodol economaidd
Yn olaf, mae polisi economaidd a'r Gymraeg wedi cael eu cynnwys o fewn yr un portffolio am y tro cyntaf, a bydd hyn yn cefnogi ein gwaith datblygu economaidd mewn cymunedau lle mae’r Gymraeg yn cael ei siarad yn helaeth. Rydym ni'n gwybod bod iechyd…
23 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg: Ein dyfodol economaidd
Rydym eisiau i'n hentrepreneuriaid, busnesau a'n gweithlu ffynnu ym mhob rhanbarth yng Nghymru. Er mwyn cyflawni hyn, rwyf eisiau i ni osod uchelgais feiddgar i wneud Cymru y lle gorau i ddechrau, i fuddsoddi ynddo a thyfu busnes yn y Deyrnas Unedig, a…
23 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg: Ein dyfodol economaidd
Diolch, Dirprwy Lywydd. Sail ein cenhadaeth economaidd yw sicrhau tegwch wrth bontio i ddyfodol cynaliadwy lle mae gwaith teg yn ganolog. Mae hyn yn cynnwys sicrhau cyfleoedd da ar gyfer pobl ifanc, buddsoddi yn y sgiliau a'r arloesi sydd eu hangen arnom i…
17 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Effaith seilwaith ynni adnewyddadwy ar gymunedau gwledig
Felly, yr hyn y mae angen i'r grŵp ei wneud yw ein helpu i feithrin y ddealltwriaeth honno o effaith yr amrywiol opsiynau, gan ystyried graddau llawn yr effeithiau hynny ac adeiladu'r ddealltwriaeth ddyfnach honno o'r dewisiadau posibl eraill, y dulliau…
17 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Effaith seilwaith ynni adnewyddadwy ar gymunedau gwledig
Ni allaf gadarnhau hynny. Nid yw'r wybodaeth honno gennyf. Gan adeiladu ar y gwaith o'r archwiliad dwfn ar ynni adnewyddadwy, rwyf am weithio gyda diwydiant ar fargen sector. Bydd bargen sector yn egluro sut y bydd y Llywodraeth hon yn cefnogi diwydiant i…
17 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Effaith seilwaith ynni adnewyddadwy ar gymunedau gwledig
Yn 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein datganiad polisi ar berchnogaeth leol ar gynhyrchiant ynni, a oedd yn cynnwys diffiniadau o berchnogaeth leol, cydberchnogaeth a pherchnogaeth gymunedol. Fe wnaethom gyhoeddi canllawiau ar gyfer datblygwyr a…
17 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Effaith seilwaith ynni adnewyddadwy ar gymunedau gwledig
Rŷn ni i gyd yn deall bod yn rhaid newid i system ynni carbon isel er mwyn inni allu cyrraedd ein targedau sero net. Rŷn ni wedi bod yn glir hefyd ein bod ni am weld yr elw a'r manteision yn aros yng Nghymru er mwyn sicrhau bod y pontio hwnnw yn deg a'i fod…
17 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Effaith seilwaith ynni adnewyddadwy ar gymunedau gwledig
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i James Evans am gyflwyno'r ddadl hon ac i gyd-Aelodau a roddodd bum cyfraniad Just a Minute i ni heb unrhyw betruso, ailadrodd na gwyro? Mae'n bleser ymateb i'r ddadl hon fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr economi…
17 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Ynni niwclear ac economi Cymru'
Mae argymhelliad cyntaf yr adroddiad yn adeiladu ar y casgliadau ac yn galw am benderfyniad yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach gan Lywodraeth y DU ar leoliad prosiectau, ynghyd ag eglurder ynghylch sut a phryd y mae prosiect yn debygol o gael ei gyflwyno yn y…
17 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, 'Ynni niwclear ac economi Cymru'
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i'n gyntaf ddiolch i aelodau'r pwyllgor am eu hadroddiad, sydd yn dod ar adeg bwysig yn natblygiad y diwydiant niwclear yn y Deyrnas Unedig? Ac mae hyn yn arbennig o amserol yng Nghymru gyda’r newyddion bod Llywodraeth y Deyrnas…
20 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Enwebu Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8
Vaughan Gething.
13 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion yng Nghymru: Yr heriau i athrawon a dysgwyr
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Hefin David am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw, ac am y pwyntiau a wnaeth ar y defnydd o ffonau symudol mewn ysgolion, ac yn bwysicach o lawer, a gaf i ddiolch i arweinwyr digidol Ysgol Uwchradd Bedwas am ysgrifennu'r…
13 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Ynglŷn â'r bwrsari, wrth gwrs, rŷn ni'n talu'r costau addysgu ar gyfer pobl ar y cynllun ac yn gofyn iddyn nhw, fel ymateb i hynny, i ymrwymo yn y system yma yng Nghymru am ddwy flynedd. O ran denu pobl sydd yn siarad…
13 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, mae'n gysur i fi bod yr Aelod wedi gwneud hynny, gan fy mod i wedi rhoi'r ateb anghywir i'r cwestiwn blaenorol, neu gychwyn gwneud hynny o leiaf. [Chwerthin.] Mae seicolegwyr addysg yn chwarae rhan bwysig yn y system addysg yn y gogledd. Rŷn ni wedi…
13 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, fel y dywed yr Aelod, mae ymgynghoriad ar y gweill ar y materion hyn, ac mae croeso iddo ymateb iddo. Byddwn yn ddiolchgar am unrhyw syniadau sydd ganddo mewn perthynas ag ef, gan fy mod yn siŵr y bydd llawer o ymatebion. Daw'r ymgynghoriad i ben ar 25…
13 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae canllawiau statudol ar waith sy'n nodi polisi Llywodraeth Cymru ar blant sy'n colli addysg. Maent i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.
13 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, bydd yr Aelod yn gwybod ein bod wedi adolygu'r diffiniad o absenoldeb parhaus yng Nghymru, o'r ystadegau y mae'n eu dyfynnu, fel nad yw bellach yn cael ei ddiffinio fel colli 20 y cant o ysgol. Mae bellach wedi ei ostwng i 10 y cant, fel y gall y…
13 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Ie. Diolch yn fawr. Rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod ffocws di-ildio ar barhau i wella presenoldeb. Dyna pam y sefydlais y tasglu presenoldeb cenedlaethol ym mis Ionawr i ysgogi gwelliannau i lefelau presenoldeb ac i ailgynnau diddordeb ein dysgwyr.
13 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae canllawiau statudol—. Na, maddeuwch i mi; rwyf wedi troi gormod o dudalennau.
13 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, nid wyf am wneud sylwadau ar yr enghraifft benodol y mae'r Aelod wedi'i rhoi am nad oes gennyf unrhyw wybodaeth bersonol mewn perthynas â'r digwyddiadau y mae'n cyfeirio atynt, dim ond dweud, yn y ffordd yr atebais y cwestiwn gan Jack Sargeant, ein bod…
13 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, diolch i Jack Sargeant am ddod â'r mater hwn i'r Siambr. Mae'n fater pwysig iawn. Rydym wrthi'n diweddaru ein canllawiau statudol ar wrth-fwlio i ysgolion ac fel y gŵyr, mae'n ofynnol i ysgolion roi sylw i ganllawiau statudol. Rwy'n cytuno nad oes lle i…
13 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae gan Lywodraeth Cymru ddull dim goddefgarwch at unrhyw fath o fwlio yn system addysg Cymru ac rydym yn disgwyl yr un peth gan ysgolion. Rydym yn darparu ystod o adnoddau a chymorth i ysgolion fel y gallant atal a mynd i'r afael â bwlio, gan gynnwys ein…
13 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Wel, nid wyf yn siŵr ynglŷn â chywair ymrannol y cwestiwn hwnnw, Mike Hedges. [Chwerthin.] Ond o ddifrif, rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn. Gallwn gael cymaint o fentrau ag y dymunwn, fel rwyf newydd eu trafod gyda Paul Davies ac fel y trafodwyd yn y Siambr…
13 Mawrth 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae hynny'n wych i'w glywed. Roeddwn yng Ngholeg Sir Benfro yn eithaf diweddar yn siarad gyda nhw am—. Maent yn bendant yn arwain y ffordd ar addysg ynni adnewyddadwy yn ehangach. Gallais siarad â phrentisiaid, ac roedd rhai ohonynt yn brentisiaid benywaidd…