14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol
Yn y cyfraniadau, mae'r Aelodau wedi gofyn am eglurder a mewnwelediad ar ddau neu dri maes arall, felly rwy'n gobeithio y bydd yn cynorthwyo'r Aelodau i wybod mai ein barn ni yw bod nifer o ddarpariaethau yn y Bil, mewn cysylltiad â digonolrwydd data, yn cael…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol
Diolch, Llywydd, a diolch i'r rheini sydd wedi cyfrannu i'r ddadl, yn cynnwys ar ran y pwyllgorau maen nhw'n eu cadeirio.
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol
Llywydd, er fy mod yn croesawu'r Bil yn gyffredinol, mae'n siomedig ein bod mewn sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn ceisio caniatâd gan y Senedd i Fil sy'n methu ag adlewyrchu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd ac egwyddorion datganoli. Mae hyn yn arbennig…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol
Diolch, Llywydd. Rwy'n gwneud y cynnig ynghylch Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, a'r ffordd y caiff y darpariaethau hynny sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd eu hystyried. Drwy'r Bil hwn, mae Llywodraeth y…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch i Joel James am ei gwestiwn pellach. Wel, fel y dywedodd Heledd Fychan, mae hwn yn brofiad y mae rhai gweithwyr wedi’i gael yn ddiweddar iawn hefyd, felly credaf ei fod yn peri gofid arbennig i bobl sydd wedi cael eu diswyddo unwaith ac sydd, o fewn…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Well, fel mae'r Aelod yn dweud, mae'r gweithlu yno, yn Everest, yn un rŷn ni wedi ei gefnogi yn y gorffennol pan oedd y cwmni o dan bwysau. Ein ffocws ni nawr yw gwneud popeth y gallwn ni i ddod o hyd i gyfleoedd gwahanol iddyn nhw, ble bynnag mae angen…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r effaith fydd hyn yn ei gael ar staff a’r gymuned ehangach yn Nhreherbert. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda phartneriaid, yn cynnwys cyngor Rhondda Cynon Taf, y Department for Work and Pensions a Gyrfa Cymru i…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Wel, rwy'n credu bod y ddau ohonom eisiau gweld ecosystem ynni nad yw'n echdynnol yn yr ystyr honno ac sy'n adnewyddadwy yn yr ystyr wirioneddol ac yn manteisio'n llawn ar yr adnoddau ynni adnewyddadwy y gallwn eu brolio fel cenedl. Rwy'n credu mai dyna'r…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Mae cyfranogiad cymunedol yn hanfodol i'n polisi ynni ac rwy'n disgwyl i bob prosiect newydd gael o leiaf elfen o berchnogaeth leol. Fy amcan yw cadw budd cymdeithasol ac economaidd ar gyfer prosiectau adnewyddadwy i gefnogi pontio teg i system ynni sero net.
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Yn fy nhrafodaeth fwyaf diweddar gyda fy nghydweithiwr, gwnaeth y Gweinidog sôn wrthyf i fod y brifysgol yng Nghaerdydd wedi gwneud ymrwymiad i gynyddu, dros y tair blynedd nesaf, y rhifau sydd yn dod o Gymru i tua 40 y cant o'r cohort. Fel rwy'n credu…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Mae cynllun Deintyddion Yfory wedi’i lansio rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol â Phrifysgol Caerdydd i gefnogi siaradwyr Cymraeg gyda’u cais i’r ysgol deintyddiaeth. Bydd y coleg hefyd yn cefnogi’r brifysgol i gynnig profiadau dysgu cyfrwng Cymraeg i…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Wel, mae gennyf drueni dros y sosialydd George Orwell druan yn troi yn ei fedd wrth feddwl ei fod yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r cyfraniad hwnnw. Rwy'n credu bod ymateb y cyhoedd i'r amgueddfa yng Nghymru yn cael ei ddangos orau yn yr arolwg golwg ar…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Wel, rwy’n gwybod bod hyn yn flaenoriaeth hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet dros ddiwylliant. Mae blaenoriaeth i gefnogi’r amgueddfa yn rhan o hynny. Yn fy marn i, mae lles a buddiannau diwylliannol y genedl yn glwm gyda buddiant a ffyniant economaidd y genedl…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Mae gwerth sylweddol iawn i’r sectorau hynny. Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu adolygiad o'r sector diwylliannol er mwyn sicrhau ein bod ni'n deall yn well y sail tystiolaeth sydd gyda ni er mwyn gwerthuso impact economaidd, ac…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Fe wnaf i basio hynny ymlaen i'r Gweinidog sydd yn gyfrifol yn uniongyrchol am hynny.FootnoteLink O fewn y gwaith rwyf i wedi gallu gwneud fel Gweinidog y Gymraeg, mae'r gronfa Perthyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr ac wedi galluogi tafarndai i gael eu prynu yn…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Wel, rwy'n credu bod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn un da. Wrth inni edrych ar rai o'r prosiectau a'r datblygiadau seilwaith mwy o faint, mae'n bwysig ein bod hefyd yn sicrhau ein bod yn cefnogi ein trefi i barhau i fod yn fywiog ac yn lleoedd lle mae…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Yn unol â'r blaenoriaethau a nodir yn y genhadaeth economaidd, rydym yn cefnogi ystod o weithgareddau gyda'r nod o gefnogi'r economi yng ngorllewin Cymru, gan gynnwys cefnogaeth i fusnes, datblygu sgiliau, a seilwaith cyfathrebu—y cyfan gyda'r nod o gynyddu…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Nid wyf yn siŵr a fyddwn yn derbyn y ffordd y mae’r Aelod yn disgrifio'r sefyllfa. Mae’r targedau sydd gennym yn uchelgeisiol. Rydym am allu cynhyrchu’r hyn sy’n cyfateb i’n holl ddefnydd o drydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035, ac erbyn yr un pryd…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i Carolyn Thomas am y cyfle i ymweld â’r coleg gyda hi. Roedd yn wirioneddol galonogol siarad â’r prentisiaid a oedd yn datblygu sgiliau mewn sectorau y gwyddent y byddent yno drwy gydol eu bywyd gwaith—ei fod yn sector a…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Mae’r fframwaith economaidd rhanbarthol, cynlluniau ynni lleol a rhanbarthol a bargen twf gogledd Cymru yn cydnabod ac yn cefnogi’r cyfleoedd ar gyfer y sector ynni adnewyddadwy ar draws y gogledd. Wrth inni barhau â'n dull cydweithredol, bydd hyn yn sicrhau…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Byddwn yn cymeradwyo popeth a ddywedodd yr Aelod yn ei gwestiwn, a dweud y gwir. Nid ymarfer mantolen mo hyn; mae a wnelo â phobl, a dyna sydd wrth wraidd y peth. Pam ydyn ni'n cael y drafodaeth hon? Oherwydd ein bod am wella…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Cyd-destun y blaenoriaethau a amlinellais yr wythnos diwethaf oedd hyn: mae gennym uchelgeisiau fel Llywodraeth, sydd wedi’u nodi yn ein cenhadaeth economaidd, ac maent yn ymwneud â sicrhau pontio teg i ddyfodol cynaliadwy, rhoi cyfleoedd i bobl ifanc…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Fel Ceidwadwr, gwn fod ganddo fwy o wybodaeth nag sydd gennyf i, mae'n debyg, am Lywodraeth anweithredol, oherwydd edrychwn ar yr hyn sy’n digwydd dros y ffin, ac mae’n anhrefn bob dydd. Bydd rhai pobl yn y Siambr yn gresynu at y datganiad nesaf. Nid yw…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Gwn y bydd wedi gweld a darllen y cynllun gweithredu sgiliau sero net a bod y cynllun hwnnw wedi bod yn destun ymgynghoriad. Rwy'n disgwyl gallu cyhoeddi’r ymatebion iddo yn yr wythnosau nesaf, yn fuan iawn, fel y gall hynny roi’r sicrwydd y mae’n ei geisio…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Wel, diolch i’r Aelod am y gwahoddiad a roddodd imi siarad yng nghynhadledd RenewableUK yn ddiweddar, ac roeddwn yn teimlo bod lefel fawr o optimistiaeth yn y drafodaeth y noson honno ymhlith y cyfranogwyr, ac ymdeimlad o ymgysylltu ymarferol â’r hyn rydym am…