3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Wel, mae'r Aelod yn siarad am y pwysau ar y sector manwerthu yn arbennig. Rydym yn buddsoddi £78 miliwn ychwanegol i ddarparu rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y bumed flwyddyn yn olynol, gan adeiladu ar bron i £1…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Mae rhyddhad ardrethi busnes yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi. Mae ein pecyn cymorth, gwerth £384 miliwn eleni, wedi lleihau neu ddileu atebolrwydd ardrethi annomestig i fwy na 100,000 eiddo. Bydd llai nag 20 y cant o eiddo'n talu cyfraddau llawn, ac…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Diolch i Joyce Watson am godi hyn fel cwestiwn yn y Senedd heddiw. Fel cyd-weithredwr, a gwn ei bod yn rhannu'r farn hon hefyd, mae'r gallu i gefnogi gweithwyr i fod yn berchnogion y busnesau y maent yn gweithio ynddynt yn rhan bwysig iawn o'r weledigaeth…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Mae rhan o Busnes Cymdeithasol Cymru, sef Perchnogaeth y Gweithwyr Cymru, yn darparu cyngor pwrpasol wedi'i ariannu'n llawn i gefnogi perchnogaeth gweithwyr ar fusnesau. Erbyn hyn mae 75 o fusnesau'n eiddo i weithwyr yng Nghymru, cynnydd o 38 ers dechrau'r…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Nid wyf yn credu bod unrhyw awgrym wedi ei wneud o hynny. Ein polisi fel Llywodraeth yw cefnogi'r egwyddor o ddatblygu ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel o amrywiaeth o dechnolegau. Fe fydd yn gwybod, o safbwynt cynllunio a chydsynio, y bydd Deddf…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda datblygwyr unigol ynghylch prosiectau gwynt ar raddfa fawr mewn lleoliadau penodol yng Nghymru. Rwy'n parhau i ymgysylltu â'r diwydiant ynni adnewyddadwy drwy drafodaethau bwrdd crwn a thrwy RenewableUK Cymru er mwyn…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwyntiau diddorol am y setliad datganoli a'n gallu i wneud mwy o benderfyniadau ynghylch ynni yma yng Nghymru, ac rwy'n cefnogi hynny. Ar y model y mae'n ei grybwyll, a chredaf iddo ei ddisgrifio fel cronfa gyfoeth sofran…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Cefais sgwrs dda iawn—sgwrs anffurfiol, dylwn ddweud—yn y gynhadledd honno gydag Ystad y Goron. Rwy'n gobeithio cyfarfod â nhw'n fuan iawn i drafod ein hanghenion yng Nghymru, a sicrhau, mewn rowndiau lesio yn y dyfodol, y gallwn fanteisio i'r eithaf ar y…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Gadewch inni obeithio y cawn y canlyniad y gobeithiaf amdano'n fawr yfory, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn annog eraill i wireddu'r canlyniad hwnnw hefyd, fel y gallwn gael y dull mwy cydweithredol o weithredu y gwn y byddai ef a minnau'n ei gefnogi…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Mae llawer o'r ffyrdd sydd gennym o gefnogi digwyddiadau mawr yn rhoi ystyriaeth i'r effaith y gall digwyddiadau mawr ei chael ar yr amgylchedd, ac rydym yn gweithio, yn aml, gyda'r sefydliadau a'r cwmnïau sy'n cynnal y digwyddiadau hynny, a'r lleoliadau sy'n…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Rwy'n credu fy mod am dynnu sylw at y cyferbyniad llwyr rhwng y darlun y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio a'r profiad y mae'r bobl a aeth i weld Taylor Swift ac i gyngherddau eraill wedi gallu ei rannu. Mae fy nghyd-Aelod Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Rwy'n cefnogi'r gwaith y mae fy nghyd-Aelod Cabinet yn ei wneud mewn perthynas â hyn ac mae'n gweithio'n galed iawn i sicrhau ei fod yn dwyn yr asiantaethau sy'n gyfrifol a'r rhai sy'n achosi'r llygredd i'n hafonydd a'n moroedd i gyfrif. Ar ei bwynt ehangach…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Wel, fel yr Aelod, rwyf wedi cael llond bol ar glywed y Ceidwadwyr Cymreig yn lladd ar Gymru. Nid oes ganddynt unrhyw—[Torri ar draws.] Nid oes ganddynt unrhyw—[Torri ar draws.] Nid oes ganddynt unrhyw hyder yn ein sefydliadau cenedlaethol, ac nid ydynt yn…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, fod y maes awyr yn gweithredu hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, fel y byddai hi'n ei ddisgwyl, ac rwy'n disgwyl y byddai'n cymeradwyo hynny. Rwy'n credu ei bod yn cyfeiliorni yn ei safbwynt ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Mae Maes Awyr Caerdydd yn elfen hanfodol o seilwaith economaidd a thrafnidiaeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal maes awyr yng Nghymru oherwydd y manteision y mae'n eu cynnig i economi Cymru a'i gadwyn gyflenwi ranbarthol.
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Wel, rhaid i mi fod yn ofalus i beidio â thresmasu ar fy nghyfrifoldebau Cabinet blaenorol wrth ateb y cwestiwn. Ond bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, fod y penderfyniad a wnaed gan Cymwysterau Cymru i ddiwygio'r cymwysterau hynny wedi cael ei gymeradwyo…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn pellach hwnnw. Rwy'n credu bod hon yn enghraifft dda iawn o arloesedd gwirioneddol flaenllaw yng Nghymru, gan bwyso ar ymrwymiad gan y Llywodraeth, ond hefyd y cryfderau sylfaenol yn ein heconomi a'n gwasanaeth cyhoeddus…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Mae gan y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru nifer o alluoedd o'r radd flaenaf, ac rydym yn cefnogi ei dwf mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys drwy'r cymorth ariannol a ddarparwn i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a thrwy noddi digwyddiadau MediWales fel BioCymru a NHS…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Tata Steel
Mae'r trafodaethau hynny ar y gweill ac mae'r Aelod Jenny Rathbone yn iawn i ddweud ein bod am sicrhau, am resymau amgylcheddol, ein bod yn gallu defnyddio dur sgrap o fewn y DU, cyn belled ag y bo hynny'n bosibl, mewn cynhyrchu mewn rhannau eraill o'r DU…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Tata Steel
Rwy'n diolch i Rhianon Passmore am y cwestiynau yna. Fe wn i, yn y trafodaethau a gafodd y Prif Weinidog a minnau gyda gweinidogion cyfatebol yng Nghabinet yr Wrthblaid yr ydym ni'n mawr hyderu y bydd y Cabinet gwirioneddol ar ddiwedd yr wythnos hon, y bydd…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Tata Steel
Rwy'n cytuno â John Griffiths yn hynny o beth. Rwyf i o'r farn fod y pwynt y mae ef yn ei wneud am gyfraniad dur i'r strategaeth ddiwydiannol yn gwbl sylfaenol. Fe wyddom ni am y cyfleoedd sydd yng Nghymru o ran datgarboneiddio ein cyflenwad ynni a sicrhau…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Tata Steel
Rwy'n diolch i Jack Sargeant am y cwestiwn yna. Mae ef yn gywir: mae'r gallu i gynhyrchu dur sylfaenol yn gwbl hanfodol i'r dyfodol uchelgeisiol hwnnw i bawb ohonom ni. Ac rwy'n credu ei fod ef yn iawn hefyd i ddweud mai gweithio fel hyn mewn partneriaeth…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Tata Steel
Rwy'n diolch i Sioned Williams am y cwestiynau yna. Ie, yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei weld nawr yw ymgysylltiad a thrafodaethau priodol rhwng Tata a'r tri undeb llafur. Dyna'r hyn yr ydym ni'n ei obeithio y bydd yn digwydd nawr, gyda chanlyniad y…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Tata Steel
Rwy'n diolch i David Rees am y pwyntiau a wnaeth ef. Rwy'n cytuno yn llwyr ag ef. Mae gallu cynhyrchu dur sylfaenol wrth wraidd yr hyn yr ydym ni'n awyddus i'w ystyried fel buddsoddiad ledled economi'r DU gyda Llywodraeth newydd—o ran dur yn benodol, ond yn…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Tata Steel
Rwy'n amgyffred grym rhethregol dadl yr Aelod, ond rwy'n credu mewn gwirionedd fod rhaid i ni ymgysylltu â'r sefyllfa y mae gweithwyr yn ei hwynebu ar lawr gwlad. Rwy'n deall y pwynt a wnaeth sawl gwaith ynglŷn â dewisiadau amgen, ond ar lefel datganiadau…