10 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Rwyf i a'r Prif Weinidog wedi cael trafodaethau gyda Llywodraeth newydd y DU am Tata Steel, ac edrychwn ymlaen at gydweithio'n agos â nhw wrth symud ymlaen.
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Diolch i Mark Isherwood am ei ddyfeisgarwch yn trosi datganiad i’r wasg yn bolisi yn ei gwestiwn. Fel y gŵyr yn iawn, nid yw'r cyllid a ymrwymwyd i seilwaith trafnidiaeth gogledd Cymru wedi cael cymeradwyaeth derfynol o gwbl, sy'n rhywbeth y credaf y byddai…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Rydym wedi amlinellu ein cynllun ar gyfer gwella economi Cymru, a'r gogledd yn arbennig yng nghyd-destun y cwestiwn hwn, yn ein cenhadaeth economaidd a’n fframwaith economaidd rhanbarthol. Rydym yn cydweithio â’n partneriaid i arddangos ei fanteision unigryw…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Gwn fod hwn yn gwestiwn y mae’r Aelod wedi mynd ar ei drywydd ar nifer o achlysuron blaenorol yn y Siambr, felly rwy’n cydnabod ei ddiddordeb ynddo, ac mae’n iawn—yn amlwg, ni fyddaf yn gwneud sylwadau ar unrhyw gais cynllunio penodol am y rhesymau amlwg. Ond…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Mae deddfwriaeth gynllunio, 'Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol' a 'Polisi Cynllunio Cymru' yn darparu fframwaith cadarn i sicrhau bod effaith datblygiadau ar gymunedau yn cael ei hystyried yn llawn mewn perthynas â phenderfyniadau ynghylch ceisiadau…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Wel, mae'r Aelod yn siarad am y pwysau ar y sector manwerthu yn arbennig. Rydym yn buddsoddi £78 miliwn ychwanegol i ddarparu rhyddhad ardrethi annomestig i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y bumed flwyddyn yn olynol, gan adeiladu ar bron i £1…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Mae rhyddhad ardrethi busnes yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi. Mae ein pecyn cymorth, gwerth £384 miliwn eleni, wedi lleihau neu ddileu atebolrwydd ardrethi annomestig i fwy na 100,000 eiddo. Bydd llai nag 20 y cant o eiddo'n talu cyfraddau llawn, ac…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Diolch i Joyce Watson am godi hyn fel cwestiwn yn y Senedd heddiw. Fel cyd-weithredwr, a gwn ei bod yn rhannu'r farn hon hefyd, mae'r gallu i gefnogi gweithwyr i fod yn berchnogion y busnesau y maent yn gweithio ynddynt yn rhan bwysig iawn o'r weledigaeth…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Mae rhan o Busnes Cymdeithasol Cymru, sef Perchnogaeth y Gweithwyr Cymru, yn darparu cyngor pwrpasol wedi'i ariannu'n llawn i gefnogi perchnogaeth gweithwyr ar fusnesau. Erbyn hyn mae 75 o fusnesau'n eiddo i weithwyr yng Nghymru, cynnydd o 38 ers dechrau'r…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Nid wyf yn credu bod unrhyw awgrym wedi ei wneud o hynny. Ein polisi fel Llywodraeth yw cefnogi'r egwyddor o ddatblygu ynni adnewyddadwy ac ynni carbon isel o amrywiaeth o dechnolegau. Fe fydd yn gwybod, o safbwynt cynllunio a chydsynio, y bydd Deddf…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gyda datblygwyr unigol ynghylch prosiectau gwynt ar raddfa fawr mewn lleoliadau penodol yng Nghymru. Rwy'n parhau i ymgysylltu â'r diwydiant ynni adnewyddadwy drwy drafodaethau bwrdd crwn a thrwy RenewableUK Cymru er mwyn…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwyntiau diddorol am y setliad datganoli a'n gallu i wneud mwy o benderfyniadau ynghylch ynni yma yng Nghymru, ac rwy'n cefnogi hynny. Ar y model y mae'n ei grybwyll, a chredaf iddo ei ddisgrifio fel cronfa gyfoeth sofran…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Cefais sgwrs dda iawn—sgwrs anffurfiol, dylwn ddweud—yn y gynhadledd honno gydag Ystad y Goron. Rwy'n gobeithio cyfarfod â nhw'n fuan iawn i drafod ein hanghenion yng Nghymru, a sicrhau, mewn rowndiau lesio yn y dyfodol, y gallwn fanteisio i'r eithaf ar y…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Gadewch inni obeithio y cawn y canlyniad y gobeithiaf amdano'n fawr yfory, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn annog eraill i wireddu'r canlyniad hwnnw hefyd, fel y gallwn gael y dull mwy cydweithredol o weithredu y gwn y byddai ef a minnau'n ei gefnogi…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Mae llawer o'r ffyrdd sydd gennym o gefnogi digwyddiadau mawr yn rhoi ystyriaeth i'r effaith y gall digwyddiadau mawr ei chael ar yr amgylchedd, ac rydym yn gweithio, yn aml, gyda'r sefydliadau a'r cwmnïau sy'n cynnal y digwyddiadau hynny, a'r lleoliadau sy'n…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Rwy'n credu fy mod am dynnu sylw at y cyferbyniad llwyr rhwng y darlun y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio a'r profiad y mae'r bobl a aeth i weld Taylor Swift ac i gyngherddau eraill wedi gallu ei rannu. Mae fy nghyd-Aelod Cabinet, Ysgrifennydd y Cabinet dros…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Rwy'n cefnogi'r gwaith y mae fy nghyd-Aelod Cabinet yn ei wneud mewn perthynas â hyn ac mae'n gweithio'n galed iawn i sicrhau ei fod yn dwyn yr asiantaethau sy'n gyfrifol a'r rhai sy'n achosi'r llygredd i'n hafonydd a'n moroedd i gyfrif. Ar ei bwynt ehangach…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Wel, fel yr Aelod, rwyf wedi cael llond bol ar glywed y Ceidwadwyr Cymreig yn lladd ar Gymru. Nid oes ganddynt unrhyw—[Torri ar draws.] Nid oes ganddynt unrhyw—[Torri ar draws.] Nid oes ganddynt unrhyw hyder yn ein sefydliadau cenedlaethol, ac nid ydynt yn…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, fod y maes awyr yn gweithredu hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, fel y byddai hi'n ei ddisgwyl, ac rwy'n disgwyl y byddai'n cymeradwyo hynny. Rwy'n credu ei bod yn cyfeiliorni yn ei safbwynt ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Mae Maes Awyr Caerdydd yn elfen hanfodol o seilwaith economaidd a thrafnidiaeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal maes awyr yng Nghymru oherwydd y manteision y mae'n eu cynnig i economi Cymru a'i gadwyn gyflenwi ranbarthol.
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Wel, rhaid i mi fod yn ofalus i beidio â thresmasu ar fy nghyfrifoldebau Cabinet blaenorol wrth ateb y cwestiwn. Ond bydd yr Aelod yn gwybod, wrth gwrs, fod y penderfyniad a wnaed gan Cymwysterau Cymru i ddiwygio'r cymwysterau hynny wedi cael ei gymeradwyo…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Diolch i Julie Morgan am y cwestiwn pellach hwnnw. Rwy'n credu bod hon yn enghraifft dda iawn o arloesedd gwirioneddol flaenllaw yng Nghymru, gan bwyso ar ymrwymiad gan y Llywodraeth, ond hefyd y cryfderau sylfaenol yn ein heconomi a'n gwasanaeth cyhoeddus…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg
Mae gan y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru nifer o alluoedd o'r radd flaenaf, ac rydym yn cefnogi ei dwf mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys drwy'r cymorth ariannol a ddarparwn i Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a thrwy noddi digwyddiadau MediWales fel BioCymru a NHS…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Tata Steel
Mae'r trafodaethau hynny ar y gweill ac mae'r Aelod Jenny Rathbone yn iawn i ddweud ein bod am sicrhau, am resymau amgylcheddol, ein bod yn gallu defnyddio dur sgrap o fewn y DU, cyn belled ag y bo hynny'n bosibl, mewn cynhyrchu mewn rhannau eraill o'r DU…
2 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg: Tata Steel
Rwy'n diolch i Rhianon Passmore am y cwestiynau yna. Fe wn i, yn y trafodaethau a gafodd y Prif Weinidog a minnau gyda gweinidogion cyfatebol yng Nghabinet yr Wrthblaid yr ydym ni'n mawr hyderu y bydd y Cabinet gwirioneddol ar ddiwedd yr wythnos hon, y bydd…