6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Rhun ap Iorwerth. Cwestiwn pwysig iawn ac yn wir, buom yn trafod yr argyfwng costau byw gydag arweinwyr y cynghorau yn y cyngor partneriaeth y bore yma. Roedd arweinwyr cynghorau hefyd yn mynegi’r pryderon hyn, ond roeddent hefyd yn nodi…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr. O ddefnyddio mesur tlodi tanwydd Cymru, gallai hyd at 45 y cant o holl aelwydydd Cymru fod mewn tlodi tanwydd yn dilyn codi'r cap pris ym mis Ebrill 2022. Roedd yr amcangyfrifon diwethaf a gasglwyd ar gyfer Ynys Môn yn 2018 yn amcangyfrif bod…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn am dynnu ein sylw at hyn heddiw, Sam Rowlands, a llongyfarchiadau ar ymuno â’r shifft. Ar draws y Siambr, rwy'n credu y bydd pobl sydd eisoes wedi gwneud hynny neu a fydd yn manteisio ar y cyfle hwnnw, gan ei fod yn dangos i chi sut beth…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch am eich cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r heddlu, y comisiynwyr heddlu a throseddu, a chyda’r gwasanaeth iechyd, nid yn unig yng ngogledd Cymru, ond ledled Cymru gyfan. Rwy’n cael cyfarfodydd a thrafodaethau rheolaidd gyda’n…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch am y cwestiwn hynod ddefnyddiol hwn hefyd. A dweud y gwir, bu'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a minnau yn y cyngor partneriaeth y bore yma gyda phob un o arweinwyr newydd llywodraeth leol yng Nghymru, a chawsom eitem ar yr argyfwng costau byw. Yn…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Sioned. Dechreuaf gyda’r bwndeli babanod, oherwydd, fel y dywedwch, rydym wedi eu treialu ar gyfer teuluoedd ledled Cymru. Bydd hynny o gymorth mawr yn yr argyfwng costau byw i rieni yng Nghymru. Dyma'r eitemau allweddol sy'n hanfodol i…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Rwy'n tybio ac yn gobeithio eich bod wedi cyfarfod â Rhwydwaith Cysylltiadau Iechyd Cymru ac Affrica, sefydliad dynamig iawn sy'n cael ei arwain yn bennaf gan bobl yn GIG Cymru. Mae'n un o'r rhwydweithiau pwysicaf sydd wedi'u datblygu o fewn y GIG, fel bod…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Wel, daeth cynllun grantiau bach Cymru ac Affrica, a gontractiwyd i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ei weithredu, i ben ar 31 Mawrth. Ond cafodd y contract ei osod ar dendr eto yn gynharach eleni yn dilyn ymarfer caffael, a bydd CGGC yn parhau i weithredu…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Wrth gwrs, mae'r arian sy'n mynd drwy raglen Cymru ac Affrica yn mynd i gymunedau yn Uganda. Mae'n mynd i gymunedau yr ydym yn gweithio'n agos gyda hwy, ac wedi bod yn gweithio'n agos gyda hwy ers blynyddoedd lawer. A hefyd, wrth gwrs, ledled Cymru, mae…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n croesawu eich cwestiwn. Yn wir, os edrychwch ar gynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, mae’n cwmpasu pob adran o Lywodraeth Cymru, gyda chamau gweithredu a nodau. Felly, yn amlwg, mae hynny nid yn unig yn cynnwys iechyd ond iechyd…
6 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Wel, roedd yr eitem hon ar yr agenda heddiw ar gyfer y cyngor partneriaeth llywodraeth leol, dan gadeiryddiaeth fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans. Mae’n ymwneud â nod cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol, sef bod llywodraeth…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26
Wel, diolch yn fawr iawn i Buffy Williams, a byddai'n wych pe bai pob Aelod o'r Senedd yn gofyn yr un math o beth i mi, oherwydd rwy'n credu bod arnom ni angen y sgyrsiau bord gron fesul sir, cymuned-wrth-gymuned hynny i fynd i'r afael â'r materion hyn. A…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26
Diolch yn fawr iawn, Jenny Rathbone. Rwy'n credu bod hyn yn symud ymlaen yn rhannol, yn ogystal â'r hyn yr wyf eisoes wedi'i ddweud, i'n hymgyrchoedd a'n cyfathrebu. Felly, mae hyn yn ymwneud â sut yr ydym yn herio agweddau cymdeithasol i atal trais yn erbyn…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26
Diolch yn fawr iawn, Joyce Watson. A gaf i ddweud pa mor falch oeddwn i o allu siarad yn lansiad 'Dyletswydd i Gefnogi' ddydd Llun? Rhoddais fy ymrwymiad y byddwn yn dychwelyd â'r argymhellion—rwy'n credu i'r Prif Weinidog wneud hynny hefyd—i fyfyrio arnyn…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Rwy'n credu fy mod wedi mynegi eich holl werthoedd, egwyddorion ac amcanion yn fy natganiad, a pham mae'r datganiad hwn yn gydnabyddiaeth llawer llymach a chryfach o'r gwrywdod gwenwynig a'r casineb at fenywod sy'n sail i…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26
Rwy'n credu bod y materion sy'n ymwneud â llais y goroeswr yn bwysig iawn ac yn allweddol i fy ymateb eisoes. Rhaid i leisiau goroeswyr fod wrth wraidd popeth a wnawn, felly rydym ni mewn gwirionedd yn datblygu panel craffu a chynnwys llais goroeswyr, ac…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26
Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Rwy'n croesawu ymrwymiad ac ymgysylltiad Cymorth i Fenywod Cymru. Fe wnaethoch chi gyfeirio at eu hymateb pan gyhoeddais y strategaeth ym mis Mai. Maen nhw, wrth gwrs, wedi bod yn rhan o'r ymgynghoriad. Maen nhw wedi helpu…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022-26
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar am gael y cyfle i wneud y datganiad hwn i nodi lansiad ein strategaeth genedlaethol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, ac i geisio cefnogaeth y Senedd, oherwydd mae gwneud Cymru'r lle mwyaf diogel yn…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal
Wel, rydym ni wedi nodi ac rydym ni wedi cytuno yn ein cyllideb ar yr £20 miliwn. Mae'n wir—. Roeddwn i eisiau dweud mai un o'r pwyntiau nad wyf i wedi gallu tynnu sylw ato yw mai dyma un o'r taliadau mwyaf hael yn y byd i gyd yr ydym ni'n ei wneud. Rydym…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal
Diolch. Mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, a gallaf i ddweud 'ie'; Gallaf i ddweud 'ie' i'r yr holl bwyntiau. Hefyd, bydd cyfle i ystyried a ydyn nhw eisiau i'w rhent gael ei dalu'n uniongyrchol, yn ogystal ag edrych ar eu hanghenion o ran cyfleoedd tai â…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal
Diolch yn fawr, Ken Skates. Fe fydd y gwasanaeth yn rhoi cyngor uniongyrchol i bobl ifanc—y pecyn £2 filiwn hwnnw yr wyf i wedi ymateb i gwestiynau yn ei gylch eisoes, y pecyn cymorth, y cyngor ariannol a'r arweiniad, yn gyfochrog â'r cynghorwyr pobl ifanc…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal
Wel, diolch yn fawr iawn, Peter Fox. Rwy'n gobeithio y bydd y cynllun treialu incwm sylfaenol hwn yn dangos eich bod chi'n anghywir. Mae ein hawdurdodau lleol ni i gyd yn gefnogol i hyn. Rwyf i wedi cyfarfod â'r gweithwyr cymdeithasol, ein cynghorwyr pobl…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Wel, ni allaf ddweud dim mwy wrth ymateb i Jane ac eithrio diolch iddi hithau am ei chefnogaeth hefyd, unwaith eto, edrychwch chi ar bwysigrwydd y dystiolaeth fyd-eang am gynlluniau treialu incwm sylfaenol. Ac rwy'n gobeithio y…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal
Wel, a gaf i ddiolch i Jack Sargeant, a diolch yn arbennig iddo ef am gadeirio'r Pwyllgor Deisebau a'r argymhellion sydd wedi dod o'r pwyllgor hwnnw? Rydym ni wedi derbyn pob un ohonyn nhw'n llawn neu'n rhannol, ac rwy'n credu'r argymhellion hynny'n…
28 Mehefin 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal
Diolch yn fawr, Luke Fletcher, a diolch yn fawr iawn i chi am groesawu'r cynllun treialu incwm sylfaenol ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal yng Nghymru. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi tynnu sylw at y ffaith fod Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU…