17 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Diolch yn fawr, Peredur, a chwestiwn mor bwysig. Rwy’n gyndyn o fynd yn ôl—ond fe wnaf—i ddweud cymaint o syndod a gawsom gan yr ymosodiad hwn ar ein cynllun peilot incwm sylfaenol, a seiliwyd ar wybodaeth gyfeiliornus, anghywir a chamarweiniol gan y…
17 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Joel James. Gwn y byddwch yn edrych ymlaen, ac y bydd gennych gryn ddiddordeb, rwy'n siŵr, yng nghanlyniadau interim gwerthusiad annibynnol Cascade—Canolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant Prifysgol Caerdydd…
17 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Diolch, Jane Dodds. A hoffwn ddiolch am eich cefnogaeth gyson i'r cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer rhai sy'n gadael gofal, gyda'r gefnogaeth rydych wedi'i rhoi ers y diwrnod y gwnaethom ei gyhoeddi yma yn y Senedd. Hoffwn ddweud bod y Dirprwy Weinidog…
17 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Mae strategaeth ymchwil gynhwysfawr a manwl ar waith i werthuso’r cynllun peilot incwm sylfaenol, dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, ond mae’n rhy gynnar i ddarparu data ar effaith y rhaglen. Rydym yn rhagweld y gellir…
17 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Diolch yn fawr, Russell George. Cwestiwn pwysig iawn. Gwyddom y gall diffyg toiledau lleol hygyrch gyfyngu ar fywydau pobl anabl a'u hatal rhag mynd allan, gan arwain at ynysigrwydd, gorbryder, cyflyrau iechyd, a dyna'r ffactorau y mae angen inni fynd i'r…
17 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip
Diolch am eich cwestiwn. Rwyf wedi sefydlu’r tasglu hawliau pobl anabl i hyrwyddo hawliau pobl anabl yng Nghymru. Ymgysylltais â phob cyd-Weinidog i benderfynu ar y camau y mae angen eu cymryd ym mhob maes portffolio, gan gynnwys mynediad i doiledau cyhoeddus…
9 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar Cymru: Cenedl Noddfa
Diolch yn fawr, Joyce Watson. Diolch am eich cefnogaeth chi i'r cynllun treialu incwm sylfaenol i'r bobl ifanc hynny i gyd sy'n elwa ar hwnnw—ein pobl ifanc ni yng Nghymru. Ein pobl ifanc ni ydyn nhw i gyd. A hefyd, diolch am gydnabod unwaith eto, fel y gwnes…
9 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar Cymru: Cenedl Noddfa
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Wel, mae gen i bob cydymdeimlad gyda'r hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn eich sylwadau agoriadol. Rwy'n teimlo, ac fel y dywedwyd, bod Llywodraeth y DU yn gwbl groes i'r bobl a'r poblogaethau yr ydym ni'n eu gwasanaethu o ran yr…
9 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar Cymru: Cenedl Noddfa
Diolch yn fawr, John Griffiths. Efallai y caf i ddod i ymweld ag Ysgol Gynradd Maendy. Rwy'n edrych ymlaen at gael gwahoddiad. Llongyfarchiadau i Gasnewydd hefyd am gyflwyno cynnig i fod yn ddinas noddfa. Mae'n ymuno â 13 o siroedd, dinasoedd, pentrefi…
9 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar Cymru: Cenedl Noddfa
Diolch yn fawr, Sioned Williams. Mae hi'n bwysig iawn ein bod ni'n rhannu cymaint o ran ein dyheadau, ein nodau, ein hegwyddorion, o ran yr hyn y mae'n ei olygu i fod yn genedl noddfa. Rwy'n credu bod hynny wedi cael ei gyfleu yn gadarn iawn yn eich cyfraniad…
9 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar Cymru: Cenedl Noddfa
Diolch, Mark Isherwood. Fe hoffwn ddechrau drwy ddiolch i chi am eich cefnogaeth i'r genedl noddfa, ac rwy'n gallu cofio'r gefnogaeth a roddwyd gennych chi pan lansiais i'r cynllun yn ôl yn 2019. Yr hyn sy'n hanfodol, wrth gwrs, yw rhoi cenedl noddfa ar…
9 Mai 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Diweddariad ar Cymru: Cenedl Noddfa
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch am gyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin a'n dyletswyddau ehangach o fod yn genedl noddfa yng Nghymru. Mae Cymru wedi croesawu ychydig o dan 6,900 o Wcreiniaid yn…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Jayne Bryant. Fel y dywedwch, mae'n 75 mlynedd ers dyfodiad HMT Empire Windrush, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi gweithgareddau dathlu Windrush 75. Mae gennym gynllun grant Windrush 75 a fydd yn cael cyhoeddusrwydd yn fuan. Rydym wedi gweld yr…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch, Jayne. Ers i ni gyhoeddi ein cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol rydym wedi sefydlu ein strwythur llywodraethu, ac mae'r grŵp atebolrwydd allanol bellach yn weithredol i adolygu a monitro gweithrediad y cynllun a'r dull o adrodd ar y cynllun. Rwy'n…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch am y cwestiwn hwnnw ac am gwestiwn ategol arbennig o bwysig, yn ymwneud â sut y gall pobl ddefnyddio ein gwasanaethau. Byddaf yn sicr yn edrych ar hynny, Mike, o ran y rhai rydym yn eu hariannu i gyflawni ein hymrwymiad. Yn amlwg, mae'n ymrwymiad mewn…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch, Mike Hedges. Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gweithgor i ganolbwyntio ar fynediad at wasanaethau fel rhan o'r tasglu hawliau pobl anabl. Mae'r gweithgor hwn yn hanfodol i hyrwyddo mynediad at bob gwasanaeth yng Nghymru, gan gynnwys i bobl sydd wedi…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Jenny Rathbone. Gallaf roi gwybod i'r Aelodau fod swyddogion yn Llywodraeth Cymru wedi cael galwad gan y Swyddfa Gartref a'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau brynhawn ddoe i siarad am eu cynlluniau, sydd bellach wedi'u cyhoeddi y prynhawn…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Jane Dodds. Mae'n ddefnyddiol cael yr adborth hwn gan Aelodau ar draws y Siambr gan westeion Wcreinaidd. Mae'r adborth am y tocyn croeso yn bwysig, oherwydd roedd yn anodd iawn cael yr estyniad hwnnw gyda chyllid cyfyngedig, ond mae'n…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Wel, rwy'n credu mai un o'r pwyntiau pwysicaf y byddwn i'n ei wneud yw ein bod wedi ymestyn y tocyn croeso—rydym wedi ymestyn tocynnau croeso y cynllun trafnidiaeth gyhoeddus tan 30 Mehefin eleni. Nid oes cynllun trafnidiaeth cymorth cyhoeddus o'r fath yn…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Ken Skates, ac mae'n bwysig ein bod wedi gwneud yr ymrwymiad hwnnw, sef y pecyn cyllid o £40 miliwn. Fe wnaethom yr ymrwymiad hwnnw mewn partneriaeth a thrwy ymgynghori â'n partneriaid awdurdod lleol, sydd wedi bod mor hanfodol, a'r…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Ken Skates. Mae ein dull tîm Cymru wedi arwain at dros 6,500 o Wcreiniaid yn cael noddfa yng Nghymru. Rydym yn parhau i gefnogi gwesteion, gan eu helpu i symud ymlaen i lety mwy hirdymor a chael cymorth. Yn rhan o'n cyllideb 2023-24, rydym yn…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Sarah Murphy. Pleser o'r mwyaf oedd ymweld â Sussed Cymru. A gaf fi annog Aelodau ar draws y Siambr hefyd i ymweld â'r siop fasnach deg wych hon ym Mhorthcawl, sy'n cael ei rhedeg yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr—yn ôl i'r cwestiwn blaenorol…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Altaf, am ddod â newyddion i ni am y ganolfan wych hon ym Maesteg y buoch yn ymweld â hi gyda'ch cyd-Aelod. Os caf ddweud, mae'n esiampl ysbrydoledig, onid yw, o ysbryd gwirfoddoli ein plant a'n pobl ifanc. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Altaf Hussain. Fe ddof o hyd i'r ateb i'ch cwestiwn. Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cydnabod pwysigrwydd y sector gwirfoddol yng Nghymru, ac rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod hefyd fod y sector gwirfoddol yng Nghymru yn eich…
29 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Peredur. Ddoe, cefais gyfarfod defnyddiol ac adeiladol iawn gyda'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi. Yn dilyn cyfraniadau a sylwadau a wnaed yn y Siambr hon, roeddwn wedi cysylltu â'r Bwrdd Ymddygiad Gorfodi ac wedi gofyn iddynt a allent chwarae rôl yn…