6 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Trefnydd, fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth ynghylch sut mae sefydliadau o fewn ei phortffolio yn ymateb i'r toriadau yn y gyllideb ddrafft. Yn amlwg, fe fyddwn ni'n trafod y…
1 Chwefror 2024 , Children, Young People, and Education Committee
Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 9
Diolch. Y cwestiwn olaf gen i. Dwi'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol ein bod ni hefyd wedi clywed gan undebau athrawon ac Anabledd Dysgu Cymru eu pryderon ynghylch rheoleiddio canolfannau addysg awyr agored preswyl—pryderon ynghylch sefydlu canolfannau newydd…
1 Chwefror 2024 , Children, Young People, and Education Committee
Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 9
Diolch yn fawr iawn. Yn amlwg, o ran yr elfen yna, yn wirfoddol y mae nifer o athrawon yn rhoi o'u hamser ar hyn o bryd. Dwi'n meddwl mai un o'r pryderon oedd os oes yna leihad, fel rydyn ni wedi cael rhybuddion, yn mynd i fod yn y gweithlu, pa mor gynaliadwy…
1 Chwefror 2024 , Children, Young People, and Education Committee
Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 9
Diolch yn fawr iawn. Jest i ddilyn y trywydd roeddwn i yn mynd arno fo, rydyn ni hefyd wedi clywed gan Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon y pryderon na fyddai gan ysgolion gapasiti i gyflawni'r Bil, o ystyried eu barn o bosibl na fyddai'r gweithlu yn…
1 Chwefror 2024 , Children, Young People, and Education Committee
Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 9
Diolch yn fawr iawn. Os caf i symud ymlaen, fe wnaethoch chi sôn yn eich ateb blaenorol i James Evans bod prifathrawon yn nabod disgyblion, a'u harbenigedd nhw, ond mae peth o'r dystiolaeth rydyn ni wedi'i chlywed yn sôn am bryderon gan undebau athrawon, sy'n…
1 Chwefror 2024 , Children, Young People, and Education Committee
Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 9
I do feel like we're going in a circular argument compared to the first evidence session on this point, because I can't see the link between, if it's not essential, how it actually does what you've just outlined in terms of making provision expand if it's a…
1 Chwefror 2024 , Children, Young People, and Education Committee
Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 9
Okay. Am I okay to continue?
1 Chwefror 2024 , Children, Young People, and Education Committee
Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 9
Diolch yn fawr iawn, a bore da ichi i gyd. Un o'r pethau rydyn ni wedi'i glywed wrth inni gymryd tystiolaeth ydy na fyddai'r capasiti presennol o fewn y sector addysg awyr agored yn ddigon i ddarparu ymweliadau preswyl drwy gyfrwng y Gymraeg, pe bai'r Bil yn…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Darlledu rygbi'r Chwe Gwlad
Cyn y bleidlais.
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Darlledu rygbi'r Chwe Gwlad
Y cyfan rwy'n ei ofyn yw eich bod yn sicrhau bod y rhai sydd â'r pwerau yn cyflawni'r hyn y galwch amdano. Beirniadwch yr ASau Torïaidd o Gymru a bleidleisiodd yn erbyn hyn neithiwr.
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Darlledu rygbi'r Chwe Gwlad
A byddaf i'n troi i'r Gymraeg o ran hyn. Yr elfen arall, wrth gwrs, ydy o ran y Gymraeg. Mae'r ffaith bod ein gemau rhyngwladol ni ar gael ar S4C yn eithriadol o bwysig. Mae'r ffaith bod clybiau rygbi ledled Cymru—bariau ac ati—yn dewis darlledu yn y Gymraeg…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Darlledu rygbi'r Chwe Gwlad
Nid yw'r eironi yn cael ei golli ar Blaid Cymru, ac rwy'n synnu na soniwyd am hyn, ar drothwy'r ddadl hon a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr yn galw am i ddarlledu'r chwe gwlad barhau ar deledu am ddim, fod pob un o'u cymheiriaid yn San Steffan wedi pleidleisio yn…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, 'Y tu ôl i’r llenni: Gweithlu’r diwydiannau creadigol'
Gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r Cadeirydd am amlinellu gwaith y pwyllgor yn wych ar y dechrau fan hyn? Mi oeddwn i'n ddigon lwcus i fod yn rhan o'r pwyllgor pan oedd y gwaith hwn yn mynd rhagddo, ac mi oedd o’n ymchwiliad oedd nid yn unig diddorol ond pwysig…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog—Adolygiad cyfyngedig o weithdrefnau Biliau Cydgrynhoi
Cynnig yn ffurfiol.
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.17(iii) mewn perthynas â Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Yn ffurfiol.
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
& 9. Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), a'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Rydyn ni’n nodi heddiw cam arall yn nhaith y Bil yma, sydd hefyd yn gam mawr i Gymru. Dwi'n meddwl ei fod yn bwysig ein bod ni'n adlewyrchu ar bwysigrwydd y Bil yma. Mae’r darpariaethau ynddo fo, o’u cymryd gyda’i gilydd, yn gam pendant, a hir ddisgwyliedig…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
& 9. Egwyddorion cyffredinol Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), a'r penderfyniad ariannol ynghylch Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
Pwy a'ch dewisodd chi i fod yn ymgeisydd? Ai'r cyhoedd neu'ch plaid wleidyddol? Sut mae hyn yn wahanol i'r ffordd y caiff ymgeiswyr eu dewis ar hyn o bryd?
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl: Adroddiad Blynyddol 2022-23 Comisiynydd y Gymraeg
Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog, am y datganiad. Yn amlwg yma i ganolbwyntio ar adroddiad Comisiynydd y Gymraeg ydyn ni, ond mae'n dda cael ein hatgoffa o'r pethau sydd yn y cytundeb cydweithio, wrth gwrs, ac mae yna gyfeiriadau yn yr adroddiad hwn. Mi…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad yn dilyn darn ymchwiliol a gafodd ei gyhoeddi dros y penwythnos gan The Sunday Times ynghylch arian parod ar gyfer cyrsiau, a ddatgelodd mai Prifysgol Caerdydd oedd un o'r prifysgolion a enwyd a oedd yn cynnig recriwtio…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Brif Weinidog. Dros y mis diwethaf, mae wedi dod i'r amlwg bod hen adeilad Toys 'R' Us ym Mae Caerdydd yn cael ei ddefnyddio fel llety dros dro i unigolion sy'n aros am dai. Wrth gwrs bod angen darparu lloches ar unwaith i unrhyw un sy'n ddigartref…
30 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi unigolion sy'n wynebu digartrefedd yng Nghanol De Cymru? OQ60591
24 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch yn fawr iawn. Fyddwn i'n gobeithio bydd yna neb yn anghytuno efo chi na minnau o ran pwysigrwydd sicrhau bod chwaraeon ein timau cenedlaethol, yn ddynion a merched, ar gael yn rhad ac am ddim, oherwydd fel rydyn ni'n gwybod, mae dilyn a chefnogi ein…
24 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am benderfyniad Llywodraeth y DU i wrthod cynnwys y rygbi chwe gwlad yn y categori sianeli di-dâl ar gyfer dibenion darlledu? TQ960
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad
Diolch, Weinidog, am y datganiad heddiw. Dwi'n croesawu'r cyfle i allu ymateb ar ran Plaid Cymru. Yn amlwg, mi rydyn ni wedi trafod nifer o weithiau y bwlch cyrhaeddiad hwn. Fel soniodd Laura Anne Jones, mae absenoldeb disgyblion yn parhau yn rhywbeth dwi'n…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip: Strategaeth Tlodi Plant Cymru
Wrth gwrs, heddiw, Gweinidog, rydym ni'n cydnabod yr hyn sy'n cael ei wneud, yn amlwg, trwy'r cytundeb cydweithio—fe fu'r prydau ysgol am ddim yn hanfodol bwysig—ac rydym ni'n cydnabod y cyfyngiadau oherwydd diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU hefyd. Ond…