30 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Yn amlwg, mi glywsoch chi y Gweinidog perthnasol yn gwneud datganiad blaenoriaethau yn ddiweddar yma—hynny gan Adam Price fel y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni. Mae yna ymrwymiadau, wrth gwrs, yn ein…
30 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Wel, diolch i'r Aelod am godi'r mater hwnnw. Yn amlwg, mi oeddech chi yma pan wnaeth y Gweinidog wneud y datganiad blaenoriaethau ac ati. Mae yna gyfleoedd eraill yn mynd i fod i'w holi hi, a dechrau craffu drwy'r pwyllgorau hefyd. Mae hwn yn fater mae gennym…
30 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Diolch, Lywydd. Mae yna un newid i fusnes yr wythnos hon: mae datganiad llafar wedi'i ychwanegu at agenda heddiw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae busnes ddrafft y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad busnes, sydd ar gael i'r holl…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mi fydd yr Aelod yn ymwybodol bod Undeb Rygbi Cymru yn gorff annibynnol. Mae yna drafodaethau, wastad, rhwng y Llywodraeth ac Undeb Rygbi Cymru a chyrff llywodraethu eraill oherwydd pwysigrwydd y cydweithio hwnnw. Yn amlwg, mae yna…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Mae buddsoddi yn, a chefnogi, chwaraeon ar lawr gwlad yn hanfodol, a bydd yn chwarae rhan ganolog yn ffocws y Llywodraeth hon ar chwaraeon fel triniaeth feddygol a'r agenda ataliol. Fel dwi wedi amlinellu nifer o weithiau heddiw, yn fy ymateb i Tom Montgomery…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig fy mod i'n glir bod gan y cyngor celfyddydau ddim byd i'w wneud efo'r cwestiwn atodol fuodd wedyn. Dydyn nhw ddim yn gyfrifol am ariannu'r cyngor llyfrau, dydyn nhw ddim yn rhan o'r gwaith grant o ran Nation.Cymru nac unrhyw…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Grant craidd Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer 2026-27 yw £33.6 miliwn o refeniw a £900,000 o gyfalaf. Yn ogystal, rydym wedi darparu £7.5 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi rhaglen buddsoddi cyfalaf strategol sector y celfyddydau. Mae gwaith eisoes wedi…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, oherwydd gyda chyllidebau awdurdodau lleol, am nad yw diwylliant yn un o'r gwasanaethau y mae'n rhaid i chi eu darparu, fe wyddom ei fod yn aml yn un o'r pethau cyntaf i gael eu torri. Hefyd, yr…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod am godi'r pwnc eithriadol bwysig hwnnw a thynnu sylw at yr ystadegau hynny hefyd a'r gostyngiad sydd wedi bod. Mi oeddwn i'n gyfan gwbl glir yn fy natganiad blaenoriaethau yr wythnos diwethaf mai yn ganolog i hyn ydy sicrhau cydraddoldeb o…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Mae sicrhau mynediad teg i bawb yn ganolog i'n gweledigaeth a'n huchelgais ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru. Mae'n amlwg ar y funud fod rhai pobl yn cael eu heithrio rhag gallu cymryd rhan yn a mwynhau'r celfyddydau oherwydd pwy ydyn nhw neu ble maen nhw'n…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n falch o weld y fath undod yma o ran y weledigaeth yr ydym wedi'i rhannu a'r angen i edrych ar bob cyllideb gyda'i gilydd i gael yr effaith orau. Oherwydd, mewn gwirionedd, mewn nifer o fyrddau iechyd, mae celfyddydau'n cael eu…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol. Yn sicr, rwy'n croesawu pob enghraifft, oherwydd un o'r pethau gwych y gallaf ei wneud yn y rôl hon yw sicrhau ein bod yn gweld pa arferion gorau sy'n digwydd ac nad ydym yn ceisio ailddyfeisio'r olwyn lle mae prosiectau…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae gwaith eisoes ar y gweill i weithio ar draws y Llywodraeth i ddatgloi potensial chwaraeon, diwylliant a'r celfyddydau o ran iechyd ataliol. Fel yn fy ymateb i'r Aelod diwethaf, mae'r dystiolaeth yn glir. Mae yna waith…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am y cyfraniad hwnnw. Dwi mor falch ein bod ni'n gweld consensws ar draws y Senedd hon am bwysigrwydd hyn. Mae yna nifer o gwestiynau ynglŷn â chwaraeon llawr gwlad wedi dod drwy'r sesiwn hon, a dwi wedi fy nghalonogi bod yna…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Ledled Cymru, mae £34 miliwn wedi cael ei fuddsoddi mewn chwaraeon drwy Chwaraeon Cymru, ond, fel yr amlinellais yn fy natganiad blaenoriaethau yr wythnos diwethaf, mae angen gwneud mwy o waith i ddeall lefel y buddsoddiad sydd ei hangen i fuddsoddi mewn…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch am eich cwestiwn. Mae gennych Weinidog yma sy'n barod, yn wahanol i Weinidogion blaenorol, i gydnabod bod argyfwng yn y sectorau hyn ac sy'n benderfynol o fynd i'r afael â'r materion hynny. Rydym wedi dweud yn glir iawn fod angen inni ddeall beth yw'r…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Hoffwn atgoffa’r Aelod mai cyllideb atodol oedd hon. Yn amlwg, bydd cyllideb lawn gyntaf Llywodraeth Plaid Cymru yn cael ei chyhoeddi yn nes ymlaen eleni. Edrychaf ymlaen at y gwaith craffu arni gan y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg a Chwaraeon, yr…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch am eich cwestiwn. Yn anffodus, nid oedd Gweinidogion blaenorol wedi gwneud y gwaith hwnnw, felly rwyf wedi gorfod dechrau’r gwaith o’r dechrau ac ni allaf roi’r union ffigur i chi. Ond yr hyn y gwnaf ymrwymo iddo, pan fydd yr holl wybodaeth honno ar…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch am eich cwestiynau, Mike. Rwy'n falch o glywed eich bod yn eiriolwr dros chwaraeon tîm. Rwyf wedi sylwi ar eich cysylltiadau dros y blynyddoedd, lle rydych chi'n cefnogi gwahanol glybiau ac ati ac yn datgan hynny, sy'n wych i'w weld. Rwy'n credu mai’r…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Buaswn yn gobeithio y byddai'r ffaith ein bod yn siarad am hyn—rwyf wedi cael llai na 40 diwrnod fel Gweinidog ac rwyf eisoes wedi cael y trafodaethau hynny ac wedi dweud yn glir iawn ble rydym eisiau cyrraedd—yn rhoi'r sicrwydd y mae'r Aelod yn ei geisio fod…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch. Yn union: rydym yn cael y sgyrsiau hynny nawr. Rwyf eisoes wedi cael cyfarfod dwyochrog gyda'r Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, oherwydd, rydych chi'n iawn i nodi'r buddsoddiad hwnnw, ond os na allwch gael mynediad atynt ar ôl oriau, neu os…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r llefarydd am y cwestiwn, a hefyd diolch am y gefnogaeth i'n polisi nofio ni. Elfen bwysig ohono ydy nofio, ie, ond hefyd diogelwch yn y dŵr, oherwydd rydyn ni hefyd yn gwybod nad dim ond nofio mae pobl mewn dŵr, ond mae gweithgareddau rŵan o ran…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch. Mae hwn yn bwynt pwysig dros ben, a dyna'r union weledigaeth roeddwn i'n amlinellu'r wythnos diwethaf. Mae'n rhaid i'r hyn rydyn ni'n ei wneud fod yn gyfan gwbl gynhwysol. Dwi wedi herio, pan oeddwn i'n lefarydd yr wrthblaid, o ran y digwyddiadau mawr…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i'r Aelod am godi'r pwyntiau eithriadol o bwysig hynny. Fel roeddwn i'n sôn yn fy ymateb cychwynnol a'r wythnos diwethaf, mae'n rhaid i ni sicrhau bod y buddsoddiad rydym ni'n ei wneud yn gyfan gwbl gynhwysol, ac mae honna wedi bod yn neges glir yn y…
24 Mehefin 2026 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Trefnydd, Prif Chwip a Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon
Diolch i’r Aelod am godi’r pwyntiau hollbwysig hynny. Fel y byddwch wedi'i glywed yr wythnos diwethaf, rydym wedi ymrwymo i adolygiad o gyfleusterau er mwyn sicrhau ein bod yn deall pa rwystrau sydd ar waith ar hyn o bryd i atal pobl rhag gallu cymryd rhan…