28 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canser gynaecolegol
Ond, mae yna realiti i hyn i gyd. Mae'n mynd i gymryd amser i adfer, amser i dyfu ein gweithlu ac amser i gyrraedd lle mae angen inni fod. Nawr, dwi'n ymwybodol o safbwynt gwasanaethau canser nad yw'r amser hwnnw ar gael i bobl bob amser, ac nid gofyn i bobl…
28 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Canser gynaecolegol
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Russell a’r Ceidwadwyr am gyflwyno dadl bwysig arall ar wasanaethau canser. Hoffwn ddiolch i eraill hefyd am eu cyfraniadau pwerus a meddylgar iawn i'r ddadl hon. Wrth inni ddod dros effaith y pandemig, mae'n rhaid inni barhau…
28 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016'
Nawr, mae'n ymddangos mai'r hyn y mae llofnodwyr y ddeiseb yn ei ddweud yw eu bod yn dymuno gweld y nifer gywir o nyrsys a staff gofal iechyd yn y system i ddiwallu anghenion gofal pobl Cymru, a dyna yw fy nymuniad i hefyd. Ond fydd addewid deddfwriaethol nad…
28 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016'
Diolch. Wel, nid pan wyf ar fy nhraed ar ganol dadl. Gofynnais am syniadau gan y gweithwyr proffesiynol sy'n fy helpu gyda hyn.
28 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016'
Na, Darren. Diolch.
28 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016'
Wel, rydym wedi cael un neu ddau o ymyriadau.
28 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016'
Diolch yn fawr. Wel, gofynnais i Addysg a Gwella Iechyd Cymru wneud ychydig o waith ar hyn, felly dof at hynny mewn eiliad, os nad oes ots gennych. Yr ail bwynt y credaf ei bod yn bwysig iawn ei ddeall yw, hyd yn oed pe bai'r adnoddau hynny ar gael ar gyfer…
28 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016'
Fel y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rwyf fi, wrth gwrs, yn deall yr heriau y mae ein gweithlu GIG yn eu hwynebu bob dydd. Rydym wedi byw drwy bandemig heriol, yn bennaf oherwydd ymdrechion anhygoel ein gweithwyr rheng flaen, a'r staff nyrsio…
28 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016'
Diolch yn fawr iawn. Dwi'n croesawu'r ddadl hon heddiw, a diolch i'r Aelodau am eu sylwadau.
20 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID a Phwysau'r Gaeaf
Diolch yn fawr. Mae yna bwysau enfawr ar ein gwasanaethau ni ar hyn o bryd. Fe wnaf i ond rhoi syniad i chi o'r anhawster sydd gennym i chi, yn arbennig o ran oedi wrth drosglwyddo gofal. Rydym ni wedi cyrraedd pwynt nawr lle mae gennym ni tua 1,200 o bobl yn…
20 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID a Phwysau'r Gaeaf
Gwych. Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n credu bod angen i mi fod yn gwbl glir ein bod ni wedi rhoi arweiniad clir iawn i fyrddau'r GIG, mewn gwirionedd, bod yn rhaid gwneud cynlluniau'r gaeaf yn gynnar. Felly, rydyn ni wedi gofyn iddyn nhw ei wneud fel rhan o'u…
20 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID a Phwysau'r Gaeaf
Fel nodais i gynnau, mae ein timau profi ac olrhain cysylltiadau nawr yn canolbwyntio ar ddiogelu'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae pobl sy'n wynebu risg uchel o fynd yn ddifrifol wael o ganlyniad i COVID-19 yn gymwys i gael triniaeth…
20 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID a Phwysau'r Gaeaf
Rydym yn agosáu at yr hyn sy'n debygol o fod yn gyfnod gaeaf heriol iawn i bobl Cymru wrth i ni wynebu argyfwng costau byw ac ynni ac, wrth gwrs, pwysau parhaus o fewn ein systemau iechyd a gofal. Mae ein gwaith cynllunio ar gyfer y gaeaf ar gyfer y system…
20 Medi 2022 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID a Phwysau'r Gaeaf
Diolch yn fawr, Llywydd.
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Hepatitis C
Er gwaethaf heriau'r blynyddoedd diwethaf, mae gyda ni sawl stori o lwyddiant yma yng Nghymru, ac fe fydd y rhain yn gweithio fel catalydd i gyflawni ein targed. Rŷn ni wedi sôn yn barod am y profion optio allan ar gyfer feirysau a gludir yn y gwaed, a gafodd…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Hepatitis C
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a wnawn yng Nghymru i helpu i gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd i ddileu hepatitis C fel bygythiad sylweddol i iechyd y cyhoedd erbyn 2030. Targed Sefydliad Iechyd…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Hepatitis C
Yn ffurfiol.
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Altaf, ac rwy'n falch o ddweud bod swyddogion eisoes yn gweithio gyda'u cymheiriaid yn y GIG i ddechrau'r broses o adolygu'r safonau sy'n cynnwys bwyd mewn ysbytai. Fodd bynnag, mae'n waith sylweddol iawn ac yn amlwg, rydym yn awyddus…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyhoeddwyd safonau maeth ac arlwyo Cymru gyfan yn 2011 i sicrhau bod bwyd mewn ysbytai yn diwallu anghenion amrywiol poblogaeth yr ysbytai. Mae gwaith ar y gweill ar hyn o bryd i adolygu'r safonau hynny er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fodloni gofynion…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Mike, ac mae'n ddrwg gennyf glywed am eich mam. Credaf mai'r hyn sy'n glir yw bod yn rhaid inni fod yn ofalus iawn, oherwydd, yn amlwg, mae meddygon teulu'n gweld niferoedd dirifedi o bobl sydd â chur pen neu broblemau gyda chydbwysedd…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Joel. Pryd bynnag y byddwn yn ymdrin â materion corfforol lle mae pobl yn wynebu sefyllfaoedd anodd tu hwnt, rwy'n credu bod rhaid inni ystyried yn benodol, efallai, yr effaith ar iechyd meddwl y bobl sy'n ceisio ymdopi â'r sefyllfaoedd…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn. Roedd ein rhaglen ar gyfer trawsnewid a moderneiddio gofal wedi'i gynllunio, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill, yn cynnwys ymrwymiad i barhau i hyrwyddo negeseuon allweddol am symptomau canser ac annog pobl gydag amheuaeth o ganser i ddod i gael…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rŷch chi'n eithaf reit, a dwi'n meddwl bod rhaid inni fod yn wyliadwrus iawn. Mae'r effaith ar blant yn rhywbeth sydd yn mynd i effeithio arnyn nhw am amser hir os nad ydyn ni'n delio gydag e'n gynnar. Mi fyddwn ni'n cael update ar adferiad cyn bo hir, a dwi…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr, ac mae'n wir, mae yna lot fawr o bobl yn dioddef o COVID hir. Roeddwn i'n siarad gyda mam ddoe a oedd yn sôn wrtha i am ei mab hi sy'n dioddef o COVID hir, a dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod hon yn sefyllfa sy'n anodd…
13 Gorffennaf 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Wel, fel y gwyddoch, rwy'n awyddus iawn i weld canolfannau llawfeddygol rhanbarthol yn cael eu datblygu. Rwyf wedi fy nghyfyngu gan faint o arian cyfalaf a roddwyd inni gan Lywodraeth y DU—dyna sy'n clymu fy nwylo ar hyn o bryd. A gadewch imi ddweud wrthych…