14 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Wel, Nadolig llawen i chi hefyd, Russell. [Chwerthin.] Ac rwy'n falch iawn mai dyna oedd eich cwestiwn olaf chi eleni. Edrychwch, rwyf wedi cael blynyddoedd gwell, os ydw i'n onest, ac yn amlwg, mae yna lawer o bethau yr hoffwn pe byddem wedi gweld…
14 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Wel, diolch. Gwrandewch, rydym wedi rhoi targedau ymestynnol i mewn; rwy'n hyderus ein bod ni'n mynd i gyrraedd y targed mewn sawl maes arbenigol ac, yn amlwg, rydym yn mynd i fod yn gwthio pawb i geisio'u cyrraedd. Ond rydym bob amser wedi dweud y byddai…
14 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Wel, efallai eich bod wedi sylwi, mewn gwirionedd, lle mae'r poblogaethau wedi'u lleoli yng Nghymru, mae'n wahanol iawn i'r hyn sy'n bodoli yn Lloegr—mae ganddynt hwy ddinasoedd mawr; mae ganddynt lefydd sy'n agos at ei gilydd. Mae'n llawer haws iddynt hwy…
14 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr. Rwy'n falch o ddweud fy mod wedi bod ar drywydd y ddadl honno, ac un o'r pethau rwyf wedi'i wneud yw cynnal uwchgynhadledd canser, lle buom yn edrych, yn amlwg, ar ddadansoddiad o lle mae angen inni wneud cynnydd pellach mewn perthynas â…
14 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg iawn gyda fi i glywed am hanes Emily; mae hi'n un o'r nifer o fenywod sydd yn dioddef o endometriosis. Rydyn ni wedi cydnabod bod angen inni wneud lot mwy yn y maes yma, a dyna pam nawr mae gyda ni nyrsys endometriosis ym mhob…
14 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae cydweithrediad y gwasanaeth iechyd wedi arwain y gwaith o ddatblygu cynllun 10 mlynedd ar iechyd menywod, a hwn fydd ymateb y gwasanaeth i'r gofynion yn y datganiad ansawdd iechyd menywod a merched. Bydd y cynllun yn sicrhau gwelliannau i'r ddarpariaeth…
14 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Natasha, a diolch am y cyfle i dynnu sylw at y ffaith eich bod chi, mewn tywydd oer, mewn tywydd rhewllyd, mewn eira, yn fwy tebygol o ddisgyn. Hoffwn ofyn, yn arbennig, i'r rhai sy'n fwy bregus i dalu sylw arbennig ar yr adeg hon o'r…
14 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n achub fy nŵr nawr. Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi amlinellu fy nisgwyliad y dylai pob claf yng Nghymru gael mynediad teg at wasanaethau cyswllt toresgyrn, ac rydym yn gweithio gyda'r byrddau iechyd i gyflawni hyn.
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
A gaf fi fod yn glir fod Llywodraeth yr Alban yn gweithio o fewn fframwaith gwahanol i'r fframwaith sydd gennym ni? Felly, rydym wedi ymrwymo i'r comisiwn cyflogau annibynnol. Fe wnaeth yr holl undebau gytuno i wneud hynny. Fe wnaeth pob un ohonynt roi eu…
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch yn fawr. Mae'n ddigon hawdd i chi ddweud, 'Da iawn'. Y ffaith amdani yw bod gennym swm penodol o arian. Dyna fe. Iawn? Felly, mae dewis gennym: rydych naill ai'n torri gwasanaethau neu rydych yn torri nifer y bobl er mwyn rhoi codiad cyflog. Nawr, nid…
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Rwy'n drist fod ein gweithwyr iechyd wedi cyrraedd pwynt lle maent yn teimlo bod angen iddynt weithredu'n ddiwydiannol. Rwy'n deall ac yn cydymdeimlo'n llwyr â'u sefyllfa, ond heb gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU, nid oes unrhyw arian i gynyddu ein…
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Rwy'n credu ei fod yn bwysig, rydym yn amlwg wedi rhoi llawer o gyllid ychwanegol i 111. Yn amlwg, fel y dywedwch, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad ydym yn rhedeg allan o'r gwrthfiotigau hynny. Rydym yn credu bod hyn wedi…
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch yn fawr. Fel y nodais yn fy natganiad, cynghorir rhieni sy'n amau bod gan eu plant y dwymyn goch i gysylltu â'u meddyg teulu neu gysylltu ag 111. Mae'r cyfleusterau hynny ar gael ac mae pobl yn eu defnyddio. Byddwn yn awgrymu ar hyn o bryd na ddylent…
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch yn fawr. Wel, Public Health Wales sy'n arwain ar wneud yn siŵr bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd. Dwi wedi cysylltu â nhw heddiw, jest i ofyn iddyn nhw symleiddio'r iaith, achos dwi'n meddwl, ambell waith, mae'n mynd yn rhy dechnegol. Mae pobl yn…
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch yn fawr. A gaf fi ychwanegu fy mod innau hefyd yn cydymdeimlo'n fawr â'r teulu sydd wedi colli plentyn yn ddiweddar? Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn deall pryder gwirioneddol llawer o rieni heddiw oherwydd y cynnydd a welwn mewn achosion o strep A yn…
7 Rhagfyr 2022 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Mae heintiau strep A yn achosi nifer o afiechydon plentyndod cyffredin. Nid yw'n anarferol gweld achosion yn gysylltiedig â meithrinfeydd ac ysgolion. Mae meithrinfeydd ac ysgolion wedi cael arweiniad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac mae rhieni plant sâl yn…
23 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tâl nyrsys
Diolch. Rwyf am roi sicrwydd i chi y bydd y fwrsariaeth nyrsio'n parhau. Hoffwn bwysleisio mai'r hyn sydd ei angen arnom yw setliad ariannu teg gan Lywodraeth y DU, un sy'n cydnabod gwaith caled holl staff ein GIG a gweithwyr eraill y sector cyhoeddus ac sy'n…
23 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tâl nyrsys
Na, nid wyf yn gwneud mwy o ymyriadau, os nad oes ots gennych, oherwydd rwy'n gwybod bod y Llywydd yn mynd i fy ngalw i drefn yn fuan iawn.
23 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tâl nyrsys
Gallaf eich sicrhau bod fy swyddogion yn gweithio ar hyn wrth i ni siarad. Mae llawer o waith yn cael ei wneud. Rwy'n credu bod angen i bobl ddeall bod gennym ofyniad cyfreithiol mewn perthynas â lefelau staffio diogel. Os ydych chi'n dweud, 'Peidiwch â…
23 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tâl nyrsys
Wrth gwrs.
23 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tâl nyrsys
Mae'r gyllideb atodol yn mynd i ddod allan yn fuan iawn, ac fe gewch chi'r holl fanylion yn y fan honno. Fe welwch effaith pwysau chwyddiant, ac mae'n bell y tu hwnt i unrhyw beth a oedd yn y cyllid heb ei ddyrannu yr edrychoch chi arno ym mis Mehefin. Mae…
23 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tâl nyrsys
Na, nid wyf am ildio eto.
23 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tâl nyrsys
Na, gallaf ddweud wrthych nad oes cyllid heb ei ddyrannu. Ni allaf fynd ymhellach na hynny. Gallaf ddweud wrthych faint drosodd—. Rwy'n credu y gallwn gael y wybodaeth honno i chi.
23 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tâl nyrsys
Wel, i fod yn hollol glir, mae'r pwysau'n llawer mwy na hynny. Nid tanwariant yw hyn eleni. Mae'n bryd inni agor ein llygaid. Fe ddywedaf wrthych faint yn ychwanegol y bu'n rhaid imi ddod o hyd iddo mewn toriadau eleni yng nghyllideb y GIG. Toriadau ydyw…
23 Tachwedd 2022 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Tâl nyrsys
Gwnaf, rwy'n hapus i ildio.