14 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Diolch yn fawr, Joyce. Rydw i dim ond eisiau eich sicrhau chi, mewn gwirionedd, mai ni fydd y rhai sy'n penderfynu sut mae'n edrych yng Nghymru. Os ydym ni'n hoffi'r hyn y maen nhw'n ei wneud yn Lloegr, gallwn ni ei gopïo. Os nad ydym ni'n ei hoffi, does dim…
14 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Dim ond i fynd yn ôl at bwynt Russell yn gynharach o ran pam nad oedd modd i ni gael ein cynnwys yn y Ddeddf Iechyd a Gofal gyntaf, y pwynt yna yw bod cwmpas y Ddeddf Iechyd a Gofal ar gyfer Lloegr, felly dyna pam roedd hi'n anodd i ni ddweud—. Roedd yn…
14 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Diolch yn fawr iawn. Dwi yn meddwl bod yn rhaid inni gadw golwg ar beth sy’n digwydd, ac mae’n rhaid inni gofio, dwi’n meddwl, bod hwn yn Fil hynod o fyr. Felly, beth dŷn ni’n sôn am yw fframwaith, a beth fydd yn bwysig yw beth sy’n mynd mewn i'r fframwaith…
14 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Diolch yn fawr. Mae llawer o gwestiynau yn y fan yna. Os ydw i'n onest, nid dyma'r Bil mwyaf cyffrous y gwelodd y Senedd hon erioed. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yma yw ymateb i'r ffaith mai'r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr yw eu bod wedi cyflwyno'r Bil…
14 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Mae'r Bil drafft yn ceisio cyflwyno dau bŵer i wneud rheoliadau. Yn gyntaf, bydd yn cynnwys pŵer datgymhwyso, disapplication. Bydd hwn yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau bod darpariaethau Deddf caffael Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn amherthnasol i…
14 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle i wneud datganiad ar Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), a gyflwynais i'r Senedd ddoe, ynghyd â'r memorandwm esboniadol ac asesiad effaith rheoleiddiol. Mae'r Bil yn ceisio diwygio'r ffordd y mae…
8 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Manteision ymchwil meddygol yng Nghymru
Yn olaf, rwyf am sôn bod cyfranogiad cryf gan y cyhoedd wrth gynllunio a darparu ymchwil yn gwella ansawdd a pherthnasedd ymchwil, gan helpu i sicrhau bod ymchwil yn darparu budd i'r cyhoedd ac yn mynd i'r afael ag anghenion y cyhoedd, ac mae hyn yn rhywbeth…
8 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Manteision ymchwil meddygol yng Nghymru
Mae un o'r prif glefydau sy'n effeitihio'r boblogaeth yng Nghymru, sef canser, hefyd wedi cael llwyddiant ymchwil allweddol. Recriwtiodd ein hymchwilwyr dros 1,000 o gyfranogwyr i'r astudiaeth SYMPLIFY—prosiect hollbwysig oedd yn gwerthuso prawf canfod cynnar…
8 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Manteision ymchwil meddygol yng Nghymru
Mae'r dirwedd ymchwil feddygol yn eang, o ariannu ymchwil labordy cyn-glinigol i'r ymchwil glinigol fwy cymhwysol sy'n digwydd yn y GIG. Mae fy nghyfrifoldebau yn canolbwyntio ar ymchwil feddygol fwy cymhwysol, sydd, yn fy marn i, yn gwneud cyfraniad hanfodol…
8 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Manteision ymchwil meddygol yng Nghymru
Diolch yn fawr. Yn gyntaf, dwi eisiau diolch i Russell George am ddod a'r mater pwysig yma i'r Siambr.
8 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch yn fawr. Fe wneuthum gynnal trafodaethau anffurfiol iawn gydag ysgrifennydd cyffredinol Unite a oedd yn digwydd bod yng Nghymru ar y penwythnos. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fy mod yn pwysleisio mai trafodaethau anffurfiol oedd y rhain gan fod…
8 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch yn fawr. Ni fu hwn yn gynnig hawdd i'w negodi, a'r hyn y llwyddasom i'w wneud yw cael sefyllfa lle, ar ben y £1,400, sef yr argymhelliad gan y corff adolygu cyflogau annibynnol, rydym wedi dod o hyd i 3 y cant ychwanegol nawr—1.5 y cant ohono'n gyflog…
8 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch yn fawr. Ac fel y gwyddoch, rydym wedi bod yn trafod yn ddiwyd iawn dros gyfnod hir iawn, trafodaethau dwys iawn, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu dod i gasgliad nos Iau. Cafodd hwnnw ei roi, yn sicr i'r swyddogion o fewn yr undebau hynny, ac…
8 Chwefror 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch yn fawr iawn. Yn llythrennol, mae datganiad ysgrifenedig newydd gael ei gyhoeddi ar y pwnc hwn, ond rwy'n fwy na pharod i nodi rhai agweddau ar y cynnig i weithwyr y GIG er mwyn osgoi gweithredu diwydiannol, os yw hynny'n ddefnyddiol.
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser
Diolch yn fawr iawn. Wel, rydych chi'n iawn, ac rwy'n credu fod yn rhaid i ni geisio dysgu yn barhaus o'r hyn sy'n gweithio. Felly, er enghraifft, rydym ni bellach yn targedu sgrinio o ran canser y coluddyn, ac anfonir prawf imiwnocemegol ar ysgarthion i…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser
Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i geisio gwella ein systemau. Dyna pam rydym ni eisoes wedi gwario £86 miliwn ar y peiriannau radiotherapi newydd hyn; dyna pam rydym ni wedi gwario £3…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser
Diolch yn fawr iawn. Wel, wrth gwrs, mae llawer o ymgyrchoedd sydd eisoes ar y gweill o ran canserau y mae'n fwy anodd eu goroesi gan rai o'r sefydliadau hynny. Yr hyn nad wyf i'n mynd i'w wneud yw—. Rwyf i newydd gyhoeddi cynllun; dydyn ni ddim yn mynd i…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser
Diolch yn fawr. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol bod un o bob dau berson yn debygol o gael canser, ac felly mae canser yn effeithio arnom bob un ohonom ni mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Ac felly, mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud ein gorau glas i…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser
Diolch yn fawr. Dwi’n meddwl bod lot o bobl, yn anffodus, yn ffeindio mas bod canser gyda nhw wrth iddyn nhw fynd i’r emergency departments—dyw’r symptomau ddim yn dangos tan y funud olaf, ac mae hwnna’n amlwg yn rhywbeth sydd yn anodd iawn iddyn nhw. Rhan o…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser
Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n falch eich bod yn cytuno ei fod yn beth da bod gennym ddyddiadau a nodau a thargedau, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig dwyn pobl i gyfrif; rydych yn fy nwyn i gyfrif, rydw i'n dwyn y byrddau iechyd i gyfrif. Felly, mae'n bwysig…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser
Fe wnaethon ni ofyn hefyd am ffocws ar weithredu'r 21 o lwybrau sydd wedi eu cytuno'n genedlaethol ar gyfer Cymru. Mae hynny'n sylfaenol i'r ffordd y byddwn ni'n gwneud yn siŵr bod cleifion yn cael y gofal iawn lle bynnag y maen nhw yng Nghymru. Mae'r…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw hoffwn gyhoeddi cynllun gwella gwasanaethau canser gan GIG Cymru. Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd y GIG, ar y cyd, yn ymateb i'r datganiad ansawdd ar gyfer canser a'n hymrwymiadau ehangach i wella gofal diagnostig a…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr. Mae'r maes hwn yn un o'r meysydd yr wyf i'n credu y dylem ni fod yn fwyaf balch ohono oherwydd ein gwaith arloesol iawn ni yng Nghymru. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw defnyddio sgiliau gweithwyr medrus iawn yr oedd y sgiliau cynhenid hynny…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i wella gwasanaethau optometreg. Bydd y manteision arfaethedig a gyflwynir gan y telerau gwasanaeth newydd dan gytundeb optometreg yn rhoi fframwaith i'r gwasanaeth sy'n addas i'r dyfodol. Tanategir…
31 Ionawr 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn. Wel, mae hi'n wir fod gennym ni fwy o staff nag a gyflogwyd erioed o'r blaen yn y GIG yng Nghymru. Yr hyn yr ydych chi'n ymwybodol ohono yw, mewn gwirionedd, na welson ni erioed alwadau fel hyn ar y gwasanaeth, ac os byddwn ni'n onest, ni…