28 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Mynediad at Wasanaethau Gofal Sylfaenol
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw, rwy'n falch o roi diweddariad ar ein rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i ddarparu gwell mynediad at feddygon, nyrsys, deintyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill y gwasanaethau gofal sylfaenol. Ar y…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Bob dydd, rwy'n gofyn i mi fy hun a allaf fi barhau i wneud y swydd ddi-ddiolch hon. Ond bob dydd, rwy'n sylweddoli bod gennyf rywbeth i'w gynnig, sef fy mod i'n malio. Rwyf am ddarparu'r gwasanaeth iechyd a gofal gorau posibl i bobl Cymru. Rwyf eisiau i'n…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae bod yn Weinidog iechyd ar ôl pandemig yn waith tu hwnt o anodd, yn arbennig pan nad yw’r adnoddau ar gael ar ôl blynyddoedd o gynni o ganlyniad i gamweithredu gan y Torïaid. Dwi wedi cymryd camau penderfynol o ran ymyrryd ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Na, nid wyf yn ildio. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i fynd i'r afael â pheth o'r rhethreg ffug sy'n cael ei thaflu o gwmpas gan y Ceidwadwyr heddiw—ein bod wedi pleidleisio i dorri gwariant ar y GIG. Flynyddoedd lawer yn ôl, do, fe wnaethom ailddosbarthu…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, mae'n gwneud ei orau glas i'n perswadio na wnaeth gamarwain ASau yn fwriadol ynghylch yr holl bartïon yn Rhif 10 yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae'r dechneg hon, galw am bleidlais o ddiffyg hyder, wedi dod yn weithred ddiobaith i dynnu sylw gan…
22 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Lywydd, nid yw'n waith hawdd bod yn Weinidog iechyd ar ôl pandemig pan aeth y rhestrau aros i fyny'n aruthrol ym mhobman a gadawodd cyni'r Torïaid ein gwasanaethau cyhoeddus yn fregus a gadawyd ein poblogaeth hŷn, salach a thlotach yn fwy diobaith nag erioed…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth
Diolch, Jenny. Wel, rwy'n teimlo'n gyffrous iawn am y dull newydd hwn. Credaf fod hyn yn rhywbeth rwy'n gobeithio fydd yn gweithio ym Mlaenau Ffestiniog. Os ydym ni'n gweld ei fod yn gweithio, yna yn amlwg beth fyddwn ni'n ceisio ei wneud yw targedu'r meysydd…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth
Diolch, Heledd. Wel, dwi'n meddwl ei fod e’n glir bod y rheini sydd yn rhai o'r 140,000 sydd wedi cael cyfle i gael triniaeth am y tro cyntaf ers sbel, ac mae'r rheini ar gael—ni sy'n talu am y rheini. Felly, mae'r cytundeb yn gwneud yn siŵr bod yna gyfle…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth
Wel, un o'r pethau rŷn ni'n treial ei wneud, a bydd Cefin yn ymwybodol o ba mor anodd yw hi i recriwtio pobl i gefn gwlad Cymru o ran deintyddiaeth, ac mae hynny'n creu mwy o broblem yng nghefn gwlad nag yw hi, efallai, yn rhai o’n trefi ni, a dyna pam mae…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth
Diolch yn fawr. Wel, rydym ni'n ymdrechu i recriwtio deintyddion newydd, ac i fod yn onest, wnaeth Brexit ddim helpu'r sefyllfa, ac yn sicr rwy'n gwybod bod llawer o ddeintyddion dwyrain Ewrop wedi mynd adref, yn dilyn Brexit. Dim ond o ran y mater am dalu am…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth
Diolch yn fawr. Wel, byddwch yn ymwybodol ein bod ni wedi gweld 24,500 o gleifion newydd y GIG yn cael eu gweld o ganlyniad i'r cytundeb newydd. Mae'r cwrs triniaeth a roddir, yn amlwg, yn rhywbeth rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr bod gennym ni hynny…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth
Diolch yn fawr, Jane. Rwy'n cydnabod bod system ddwy haen. Rwyf wedi gwneud hynny'n hollol glir. Bu system ddwy haen erioed. Ac mewn byd delfrydol, byddwn i wrth fy modd pe gallem fod â system lle roedd pawb yn gallu cael mynediad at ddeintydd y GIG. Ond…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth
Diolch yn fawr. Wel, y ffaith yw bod y deintyddion yma wedi delifro i raddau helaeth yn barod. So, beth rôn i'n ei ofyn oedd eu bod nhw'n siffto; yn lle gweld pobl sydd gyda dannedd iach yn aml, fel rôn nhw'n ei gweld yn y gorffennol—. Mae tua 60 y cant o…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth
Diolch yn fawr. Wel, rydw i ar ymgyrch gyda hwn, felly rwy'n awyddus iawn i weld hyn. Dyma rywbeth rydw i wedi ceisio ei ysgogi'n fawr. Yr hyn rwy'n awyddus i'w wneud yw sicrhau bod gennym o leiaf chwe mis o gyflwyno'r rhaglen a gweld sut mae hynny'n mynd, ac…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth
Diolch yn fawr. Rwy'n cydnabod bod amgylchiadau unigol, ac mae 20 o'r rheini y mae'n rhaid i ni eu hystyried, a dyna pam maen nhw wedi mynd. Ond, fel rwy'n dweud, beth sy'n digwydd yw nad ydych chi'n colli apwyntiadau deintyddol y GIG yno; maen nhw'n cael eu…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth
Gwrandewch, rwy'n derbyn nad yw popeth yn berffaith. Rwy'n derbyn bod llawer iawn o waith i'w wneud yn y maes anodd iawn yma. Ond, fel rwy'n ei ailadrodd, nid ydyn ni'n cyflogi'r bobl hyn yn uniongyrchol. Maen nhw'n ymarferwyr annibynnol, ac mae'n rhaid i ni…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth
Felly, mae tua 45 y cant o'r cleifion sy'n cael triniaeth ddeintyddol y GIG ar hyn o bryd wedi'u heithrio rhag taliadau cleifion fel y mae, ac yna, pan godir tâl ar gleifion, os edrychwch ar faint maen nhw'n ei godi yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr, ar fand…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth
Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n credu mai'r hyn wnes i geisio ei wneud yn glir yn fy natganiad agoriadol yw, mewn gwirionedd, bod yna—rydyn ni wedi cydnabod bod yna—system amlhaenog. Hynny yw, nid yw hyn yn rhywbeth newydd. Mae wedi bod yn wir erioed, bod…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth
Dwi hefyd eisiau diweddaru Aelodau am ein gwaith ar her unigryw, sef i ddarparu gwasanaethau deintyddol mewn ardaloedd gwledig. Un problem yw'r gweithlu. Weithiau, mae'n anodd recriwtio pobl i ardaloedd gwledig. Rŷn ni'n gwybod bod pobl yn fwy tebygol o setlo…
14 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diwygio Deintyddiaeth
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Roedd yr ymateb iechyd y geg i 'Cymru Iachach' yn nodi sut y byddai gwasanaethau iechyd y geg a deintyddol yng Nghymru yn parhau i ddatblygu yn unol ag anghenion newidiol y boblogaeth. Mae ein gweledigaeth ar gyfer…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr. Dwi'n gobeithio bod y Siambr wedi deall pa mor committed ydw i i'r achos yma. Dwi eisiau hefyd nodi ei bod hi'n Ddiwrnod Rhyngwladol Menywod, a dwi eisiau cymryd y cyfle yma yn arbennig i ddiolch i'r holl fenywod sy'n gweithio yn yr NHS ac yn…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dwi wedi ymrwymo i’r blaenoriaethau sydd wedi’u gosod yn y datganiad ansawdd iechyd menywod a merched, ac mae NHS Cymru yn datblygu cynllun iechyd menywod 10 mlynedd ar ei gyfer. Mae hyn yn cynnwys y disgwyliad y bydd pob bwrdd iechyd yn sicrhau mynediad teg…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr. Wel, gallaf wisgo cnawd am ychydig o hyn yn y datganiad yr oeddwn wedi gobeithio ei wneud yr wythnos diwethaf ond y byddaf yn ei wneud, rwy'n meddwl, yr wythnos nesaf ar ddeintyddiaeth. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Wel, Sam, rwy'n eich canmol ar y gwaith ymchwil anhygoel rydych wedi'i wneud, oherwydd mae'n llawer iawn o waith ymchwil. Gallaf ddweud bod yna 26,000 o gleifion newydd. Nawr, yn amlwg, rydym yn cyrraedd diwedd y flwyddyn ariannol ac fe fyddwn mewn sefyllfa…
8 Mawrth 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yng ngogledd Cymru wedi gwella'n sylweddol ers cyflwyno mesurau gweithgarwch amgen ym mis Ebrill 2022. Mae 96% o ddeintyddfeydd sy'n cynnig gwasanaethau'r GIG wedi dewis y mesurau diwygiedig hyn, sy'n cynnwys cymelliadau i…