28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr. Rwy'n fwy na pharod i anfon y targed diwygiedig a anfonais i'r GIG atoch chi. Rwyf wedi dweud yn glir wrthynt fod yn rhaid inni gadw at gynllun. Rydym wedi trafod gyda nhw beth yw'r targedau, ac a ydynt yn credu y gallant gyrraedd y targedau…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr. Mae gennym swm wedi'i neilltuo o arian ar gyfer y rhaglen cyn-ddiabetes roeddwn yn sôn amdani. Mae gennym £1 filiwn ar gyfer y rhaglen honno, ac mae'n cael ei chyflwyno. Mae pob bwrdd iechyd yng Nghymru yn deall hyn. Y gyfrinach yw achub y…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Alun. Yr hyn rydych chi'n ei wybod yw bod gennym y datganiad ansawdd hwn, fel bod pobl yn gwybod beth yw 'da', felly dylent fod yn gweithio yn unol â hwnnw. A nawr mae gennym weithrediaeth y GIG yn dwyn byrddau iechyd i gyfrif am…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mi wnes i ddatganiad llafar i'r Senedd ar 13 Mehefin yn disgrifio ein ffordd o fynd ati i wella gwasanaethau diabetes, fel sydd wedi'i nodi yn y datganiad ansawdd ar gyfer diabetes. Roedd y swyddogion yn trafod goblygiadau'r datganiad ansawdd o ran cyflawni'n…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Wel, diolch yn fawr iawn, ac rydych chi'n llygad eich lle i dynnu sylw at y ffaith, o ran brechiadau plentyndod, nad oes gennym lefel wael, ond bod y pandemig wedi gwthio pethau'n ôl braidd. Felly, mae gennym tua 20 y cant o'r boblogaeth plant nad ydynt yn…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr iawn, Altaf. Rhan o'r hyn a fydd yn digwydd nesaf yw bod gennym sefydliad a gyfansoddwyd o'r newydd, grŵp anghydraddoldebau iechyd y GIG, a byddant yn canolbwyntio ar nifer fach o feysydd, gan anelu at wneud y mwyaf o gyfraniad y GIG a sicrhau…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Diolch yn fawr. Rwyf wedi edrych ar yr adroddiad hwnnw ac rwy'n credu bod llawer o bethau i ni eu hystyried a gweithredu arnynt. Cyn inni gyrraedd cam 4, rwy'n credu bod yn rhaid inni sôn am yr elfen atal, a chlywsoch y cyhoeddiad ddoe gan fy nghyd-Aelod. Yr…
28 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mewn cydweithrediad ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a swyddfa ranbarthol Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Ewrop, lansiodd Llywodraeth Cymru blatfform atebion tegwch iechyd Cymru ar 22 Mehefin, i fonitro rheolaeth anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru, ac mae'n…
27 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Yn ffurfiol.
27 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhaglen Imiwneiddio Genedlaethol i Gymru
Diolch yn fawr, Joyce Watson. Rydych chi'n hollol gywir—rwy'n credu ei fod yn gwneud synnwyr hefyd i ni ganolbwyntio ychydig ar y sefyllfa o ran HPV. Fel yr ydych chi wedi'i awgrymu, ar hyn o bryd rydyn ni'n ei roi mewn dau ddos, ond mae cyngor arbenigol gan…
27 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhaglen Imiwneiddio Genedlaethol i Gymru
Diolch yn fawr. Dwi eisiau diolch nid yn unig am y jôc, roedd hwnna'n eithaf good, chwarae teg, ond hefyd am eich bod chi'n gwybod beth yw shingles yn Gymraeg. Roedd hwnna'n eithaf impressive a dweud y gwir. O ran camwybodaeth, dwi yn meddwl bod hwn yn bwnc…
27 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhaglen Imiwneiddio Genedlaethol i Gymru
Diolch yn fawr. Felly, gallaf i roi rhai manylion i chi am y sefyllfa ynghylch brechiad atgyfnerthu'r gwanwyn o ran ffigurau. Felly, yr hyn sydd wedi digwydd yw ein bod wedi darparu 277,000 o frechiadau atgyfnerthu—roedd hynny hyd at 22 o fis Mehefin—ac mae…
27 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhaglen Imiwneiddio Genedlaethol i Gymru
Mae sicrhau mynediad teg at frechu yn flaenoriaeth sylfaenol ym mhob rhan o'r fframwaith imiwneiddio cenedlaethol. Mae'r byrddau iechyd yn datblygu cynlluniau i wireddu'r nod o leihau anghydraddoldeb a'i ddileu'n llwyr yn y pen draw—bydd hyn yn sicrhau bod…
27 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rhaglen Imiwneiddio Genedlaethol i Gymru
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn heddiw o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ddatblygiad y fframwaith imiwneiddio cenedlaethol a'r gwaith anhygoel sydd wedi bod yn digwydd yn ystod y misoedd diwethaf i greu system frechu i Gymru sy'n…
21 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Ail-bwrpasu cyffuriau i drin clefydau prin
Yn anffodus, heb hap-dreialon wedi'u rheoli, does dim modd gwarantu y bydd triniaeth wedi ei hailbwrpasu yn gweithio'n effeithiol, ac felly dyw MHRA ddim yn gallu rhoi trwydded. I helpu i lenwi'r bwlch mewn tystiolaeth, cafodd y rhaglen ailbwrpasu…
21 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Ail-bwrpasu cyffuriau i drin clefydau prin
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i'r Aelod dros Ganol De Cymru am godi'r mater pwysig hwn. Hoffwn sicrhau'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella bywydau'r rhai sydd â chlefydau prin. Gall afiechydon prin gyfyngu ar fywyd a bygwth bywyd, ac maent…
21 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol—Deintyddiaeth
Roedd un arall o'r argymhellion yn ymwneud ag adfer y gwasanaeth Cynllun Gwên mewn ysgolion. Dŷn ni'n gwybod bod y gwasanaeth yma wedi cael effaith bositif iawn ar iechyd deintyddol plant hyd at saith oed ers iddo gael ei sefydlu 13 blynedd yn ôl—a diolch i…
21 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol—Deintyddiaeth
Diolch yn fawr. Wel, wrth gwrs, rydym yn hyfforddi mwy o bobl nag erioed o'r blaen. Rydym yn gwario £280 miliwn y flwyddyn ar hyfforddi pobl, felly rydym eisoes yn y system. Rwy'n awyddus i weld beth arall y gallwn ei wneud i sicrhau ein bod yn cael enillion…
21 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol—Deintyddiaeth
Wrth gwrs.
21 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol—Deintyddiaeth
Diolch yn fawr. Cyn i mi ymateb, hoffwn gofnodi fy meddyliau a fy mhryderon am yr holl bobl sydd wedi bod yn rhan o'r digwyddiad difrifol iawn yn ysbyty Llwynhelyg heddiw. Hoffwn ddiolch i'r holl wasanaethau sy'n helpu i ymateb ar gymaint o frys. Hefyd…
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Anghydraddoldebau canser yng Nghymru
Delyth, diolch i chi am fod mor angerddol ac mor bwerus yn eich cyflwyniad. Rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn rhywbeth y bydd yn rhaid inni fod o ddifrif yn ei gylch, ac rwy'n ymwybodol iawn ei bod hi'n bwysig cael ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth. Mae'r…
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Anghydraddoldebau canser yng Nghymru
Rŷn ni'n cymryd nifer o gamau cenedlaethol i roi sylw i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar iechyd: er enghraifft, y rhaglen Dechrau'n Deg; y camau i fynd i'r afael â thai gwael a llygredd aer; ein cynllun cyflogadwyedd; a hefyd ein cynlluniau i daclo gordewdra a…
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Anghydraddoldebau canser yng Nghymru
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Delyth Jewell am gyflwyno'r ddadl fer hon ar ganser ac anghydraddoldeb, ac yn arbennig, diolch i'r grŵp trawsbleidiol am ei waith ar yr adroddiad 'Pob Peth yn Gyfartal?'. Gwn fod y dirprwy brif swyddog meddygol wedi bod yn…
14 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Pwynt o Drefn
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch i Darren Millar am y cyfle i egluro'r sefyllfa. Siaradodd cyfarwyddwr cyffredinol y GIG yng Nghymru, Judith Paget, yn uniongyrchol â phrif weithredwr bwrdd Betsi ar y pryd, Jo Whitehead, yn dilyn adroddiad Archwilio Cymru a…
13 Mehefin 2023 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Datganiad Ansawdd ar gyfer Diabetes
Diolch yn fawr iawn, Joel. Mae rheswm pam nad wyf i wedi sôn am raglen SEREN, ac mae hynny oherwydd mai datganiad ansawdd y GIG yw hwn. Nid oes amheuaeth mai rhaglen addysg i blant a phobl ifanc yw rhaglen SEREN, felly nid yw'n rhaglen GIG yn uniongyrchol yn…