7 Chwefror 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Disgwylir i awdurdodau contractio sector cyhoeddus Cymru, gan gynnwys GIG Cymru, roi sylw i’r egwyddorion a nodir yn natganiad polisi caffael Cymru. Nod y dull gweithredu hwn yw gwneud yn siŵr fod caffael cyhoeddus yng Nghymru yn sicrhau’r canlyniadau gorau…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Methiant y galon—Mae arloesi yn achub bywydau
Maes pwysig arall i'w ystyried yw gofal diwedd oes i bobl sydd â methiant y galon. Mae'r gwasanaeth gofal diwedd oes ar gyfer methiant y galon ym mwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yn un arall sydd wedi ennill gwobrau. Maen nhw'n defnyddio dull lle mae'r…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Methiant y galon—Mae arloesi yn achub bywydau
Gwyddom fod clefydau'r galon yn cael effaith enfawr ar bobl Cymru, ac un o'r pwyntiau rwy'n awyddus iawn i roi sylw iddo heddiw, fel y nodwyd gennych yn y llyfr y darllenoch chi ohono, yw'r ffaith bod cymaint o fenywod yng Nghymru yn dioddef o glefyd y galon…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Methiant y galon—Mae arloesi yn achub bywydau
Diolch yn fawr. Diolch yn fawr, Sarah, am gyflwyno'r ddadl hon. Roeddech chi'n sôn am sêr roc cardioleg yn Ysbyty Tywysoges Cymru. Roeddwn i'n cyfarfod heddiw â sêr roc llawdriniaeth ddydd orthopedig, a gwylio llawdriniaeth waedlyd braidd i osod pen-glin…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG
Mae hwn yn nodi cyfrifoldebau timau gweithredol ac uwch-arweinwyr, gan fynd ati ymhellach i feithrin diwylliant lle mae codi llais yn cael ei gefnogi mewn amgylchedd diogel. Fe fyddai angen ystyried ac adolygu yn ofalus unrhyw gynigion deddfwriaethol ar gyfer…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG
Rwy’n siŵr y bydd yr Aelodau’n falch iawn o glywed bod y fframwaith hwnnw ynglŷn â chodi eich llais yn nodi’n glir iawn beth yw'r rôl a’r system ar gyfer chwythwyr chwiban yn y GIG.
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG
Yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, rŷn ni wedi datblygu dull o ddethol a phenodi uwch-arweinwyr sy'n unol ag arferion da. Mae hyn yn sicrhau bod gyda ni brosesau recriwtio agored a thryloyw, a meini prawf dethol cadarn ar gyfer rolau uwch. Rhaid i ymgeiswyr…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG
Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i’r ddadl hon, a diolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno’r cynnig. Amcan trosfwaol rheoleiddio proffesiynol yw diogelu'r cyhoedd. Mae’n system statudol, sy’n annibynnol ar y Llywodraeth. Mae'n rhaid i unrhyw fframwaith sy’n…
31 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil i sefydlu goruchwyliaeth strwythuredig o reolwyr y GIG
Diolch yn fawr, Llywydd dros dro.
24 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Pwnc llosg: Mynd i'r afael â chanser yr esoffagws a'r stumog yng Nghymru
Fe wnaethoch chi ofyn i mi, Altaf, ynglŷn â chefnogaeth i ymgyrch ymwybyddiaeth. Fe ofynnaf i Lywodraeth Cymru gefnogi a gwthio rhai o'r ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y siaradoch chi amdanynt ar ein sianelau cyfryngau cymdeithasol. Diolch.
24 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Pwnc llosg: Mynd i'r afael â chanser yr esoffagws a'r stumog yng Nghymru
Rŷn ni'n gweithio'n galed i wella'n gallu i roi diagnosis, gan fuddsoddi mewn offer delweddu newydd, fel peiriannau MRI a CT. Yn benodol, rŷn ni'n gwella'r ddarpariaeth o sganiau PET-CT, sy'n hanfodol ar gyfer archwilio'r ddau ganser yma. Yn ogystal â…
24 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Pwnc llosg: Mynd i'r afael â chanser yr esoffagws a'r stumog yng Nghymru
Wel, fe edrychaf ar beth yw'r cyngor clinigol ynglŷn â hynny. Ac mae'n wych clywed bod hynny'n digwydd i chi. Rwy'n credu bod fy mam-gu wedi cael canser y stumog hefyd. Felly, rwy'n credu bod yn rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn deall bod gennym lwythi a…
24 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Pwnc llosg: Mynd i'r afael â chanser yr esoffagws a'r stumog yng Nghymru
Hoffwn ddiolch i Altaf Hussain am gyflwyno'r ddadl fer hon ar ganserau'r oesoffagws a'r stumog, dau o'r canserau 'llai goroesadwy' fel y'u gelwir, o ystyried y diwrnod ymwybyddiaeth diweddar. Rwyf bob amser yn awyddus i wrando ar yr hyn sydd gan Altaf i'w…
24 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ariannu hosbisau elusennol
Yn olaf, ac o ran pwynt (c), dwi wedi derbyn yn barod bod angen mwy o amser er mwyn darparu amcangyfrifon mwy cywir o’r niferoedd dan sylw, ac er mwyn casglu tystiolaeth ehangach ar gyfer adroddiad cam 3 terfynol. So, diolch unwaith eto i Blaid Cymru am…
24 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ariannu hosbisau elusennol
Gwn fod cwestiwn wedi bod ynglŷn ag a fydd y cyllid ychwanegol y mae byrddau iechyd wedi’i gael ar gyfer hosbisau yn cael ei wireddu mewn gwirionedd, ac mae’n rhaid imi ddweud wrthych fod y cyllid hwnnw wedi’i neilltuo ar gyfer hosbisau, ac mae’r naratif yn…
24 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ariannu hosbisau elusennol
Mae disgwyl i fersiwn derfynol adroddiad interim cam 3 ddarparu argymhellion ar gyfer y tymor byr i’r tymor canolig, a dwi’n disgwyl gweld y rhain yn hwyrach y mis yma. Bydd rhai ar gyfer y tymor hir hefyd yn cael eu cwblhau yn nes ymlaen yn y flwyddyn…
24 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ariannu hosbisau elusennol
Credaf y gall pob un ohonom gytuno bod hosbisau elusennol yn cyflawni rôl gwbl hanfodol yn darparu gofal a chymorth diwedd oes o ansawdd uchel. Un o'r cyfnodau anoddaf ym mywyd unrhyw un yw pan fyddwch yn colli un o'ch anwyliaid, ac mae cael y math hwnnw o…
24 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Ariannu hosbisau elusennol
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mabon ap Gwynfor am gyflwyno’r mater pwysig hwn yn y Siambr, ac rwy’n cydnabod ei ymrwymiad personol i’r agenda benodol hon, a hoffwn ddiolch i bawb arall sydd wedi cyfrannu heddiw.
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu mai mabwysiadu'r fframwaith newydd heddiw, y ffaith bod gennym ni bopeth wedi'i nodi, y ffaith ein bod ni wedi ei drafod gyda'r byrddau iechyd—ac, yn hollbwysig ac yn sylweddol, y gwir wahaniaeth yw bod gennym ni nawr…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd
Diolch yn fawr, Russell. Bobl bach, roedd gennych chi lawer o gwestiynau yn y fan yna, felly byddaf yn gweld faint y gallaf eu hateb, os yw hynny'n iawn. O ran heriau ariannol, mae'n hysbys bod ein cyllideb werth £1.3 biliwn yn llai nag yr oedd pan gafodd ei…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd
Byddaf yn gosod Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan mewn ymyrraeth wedi'i thargedu o ran cyllid a chynllunio. Rwy'n arbennig o bryderus am berfformiad yr adran frys yn Ysbyty Athrofaol y Faenor. Felly, caiff y bwrdd iechyd ei uwchgyfeirio i'r categori monitro uwch ar…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd
Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fwlch ariannol cynyddol, a dyw’r bwrdd heb gynllunio’n ddigonol i gynilo’r diffyg ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol yma. Mae angen ymateb cryfach ar y sefydliad a chymorth ychwanegol i'w galluogi i wneud hynny…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd
Byddaf yn cynyddu lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer perfformiad a chanlyniadau, ond bydd yn parhau i fod yn y categori monitro uwch ar gyfer cyllideb a chynllunio.
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd
Fe fydd hyn yn ein galluogi i’w gefnogi’n briodol ac i sicrhau ei fod mewn sefyllfa i ddatblygu a gweithredu'r gwelliannau sydd eu hangen. Cyn y Nadolig, mi wnes i godi gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i statws…
23 Ionawr 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd
Byddaf yn gosod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda gyfan mewn ymyrraeth wedi'i thargedu.