17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Diolch yn fawr. Wrth gwrs, fel Gweinidog, ie, fi yw'r un sydd, yn y pen draw, yn penderfynu, ond rwy'n gweithredu ar y cyngor sy'n dod o'r gwasanaeth sifil, ond hefyd gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru, felly mae dull clir o weithredu'r…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Wel, diolch yn fawr. Rwy'n ofni nad yw'n amserol mewn gwirionedd. Cafodd ei gyhoeddi gan y bwrdd iechyd ar 30 Mai. Felly, os oes gennych chi ddiddordeb go iawn, byddai'n gwneud synnwyr i chi gadw llygad am bapurau'r bwrdd, lle cafodd ei gyhoeddi. Felly, rwy'n…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Nac ydy, yn bendant nid ydynt yn cael eu symud, ond rwy'n credu bod yn rhaid inni fyw mewn realiti, a'r gwir amdani yw, os ydych chi'n destun mesurau arbennig, mae angen ichi wybod ble mae'r camau, mae'n rhaid ichi ddarparu rhywbeth sy'n eich galluogi i fynd…
17 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Mae fframwaith mesurau arbennig newydd, gan gynnwys meini prawf isgyfeirio, sy'n gosod blaenoriaethau clir a disgwyliadau ar gyfer cyfnod nesaf ymyrraeth mesurau arbennig presennol, wedi'i gytuno rhwng prif weithredwr yr NHS yng Nghymru a phrif weithredwr…
16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
Diolch yn fawr i ti, Cefin, a diolch am dy waith di ar y Bil yma. A diolch yn fawr i Jeremy Miles hefyd am yr holl waith mae e wedi ei wneud i baratoi ar gyfer y Bil yma. Rydych chi'n eithaf reit bod y gweithlu yn her; mae'n her mewn addysg yn gyffredinol ac…
16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
Diolch yn fawr i ti, Rhys, ac, wrth gwrs, roeddwn i yn yr ysgol Gymraeg gyntaf yna yng Nghaerdydd gyda dy frawd di. Dim ond 99 ohonon ni oedd yn yr ysgol uwchradd gyntaf yng Nghaerdydd yn y flwyddyn gyntaf. Jest o ran addysg Gymraeg, mae'n wir ei bod hi'n…
16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
Diolch yn fawr iawn, Mike, ac a wnewch chi ddiolch i'ch merch am ei chyfraniad hi ar Ynys Môn? Yn sicr, rwy'n credu y bu gwelliant mawr o ran yr ymwybyddiaeth sydd o'r Gymraeg yn rhai o'r ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru. Rwy'n credu, pe byddem ni'n…
16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
Diolch yn fawr, Heledd. Dwi'n meddwl bod gwerth inni adlewyrchu ar y siwrnai rŷn ni wedi bod arni mewn 25 mlynedd, a hyd yn oed cyn hynny. Es i i ysgol Gymraeg yn y brifddinas yma. Un ysgol gynradd oedd yna yn y brifddinas yma. Pan oeddwn i'n mynd i'r ysgol…
16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
Dim ond o ran sut y byddwn ni'n mesur y filiwn honno, wel, mae hynny wedi bod yn eglur o'r dechrau: y cyfrifiad sy'n penderfynu, a bydd pobl yn ateb y cwestiwn. Y rhan wirioneddol rwystredig o hynny, wrth gwrs, yw bod llawer o bobl—llawer o bobl—yn rhoi tic…
16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.
16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
Diolch yn fawr, Tom. Yn amlwg, fe gawsoch chi gopi ymlaen llaw. Mewn gwirionedd, nid oes rheidrwydd arnom ni i ddarparu datganiad ymlaen llaw; cwrteisi ydyw hynny yr ydym ni'n ei ddangos yn ôl ein dewis. Felly, rwy'n gobeithio nad oes ots gennych chi fod…
16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
Rŷn ni wedi symud ymlaen o ddisgrifio ein gallu yn y Gymraeg yn nhermau ‘rhugl’ neu ‘ddim yn rhugl’. Bydd y Bil yn sefydlu dull safonol ar gyfer disgrifio gallu yn y Gymraeg ar sail fframwaith cyfeirio cyffredin Ewropeaidd ar ieithoedd, neu’r CEFR. Bydd hyn…
16 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru)
Diolch am adael i mi wneud datganiad ynghylch Bil y Gymraeg ac addysg, a gyflwynwyd i'r Senedd ddoe. Fel Llywodraeth, rŷn ni wedi ymrwymo i adeiladu Cymru lle mae'r Gymraeg yn ffynnu ym mhob cymuned, a lle gall ein pobl ifanc ymfalchïo yn eu treftadaeth a'u…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhestrau aros y GIG
—76 mlynedd yn ôl i'r dydd Gwener hwn, 'bydd y GIG yn para cyhyd â bod pobl ar ôl gyda'r ffydd i ymladd drosto.' Y rhodd orau y gallem ei rhoi i'r GIG y dydd Gwener hwn yw Llywodraeth Lafur, nid yn unig yma yng Nghymru, ond yn San Steffan hefyd. Dwy…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhestrau aros y GIG
Na, nid wyf yn derbyn ymyriadau, diolch. Ar hyn o bryd, os edrychwch chi ar y rhestr aros yn Lloegr, 7.57 miliwn—nid wyf yn siŵr a fyddwn i eisiau mynd i etholiad gyda'r mathau hynny o restrau aros. Ar adeg o her ariannol sylweddol, rydym wedi gwneud…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhestrau aros y GIG
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rydym wedi clywed ymgais i sgorio pwyntiau gwleidyddol o'r Siambr y prynhawn yma yn yr hyn y credaf iddi ddod yn ddadl draddodiadol ar drothwy etholiad am y GIG yng Nghymru. Nawr, mae'n amlwg fod yna gryn dipyn nad ydym yn…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Hyfforddiant deintyddol
Rŷn ni eisoes wedi cymryd camau i gynyddu nifer yr hylenwyr a therapyddion deintyddol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu rhaglen hylendid deintyddol ym Mangor a chynyddu nifer y llefydd hyfforddi ar gyfer therapi deintyddol yng Nghaerdydd. Serch hynny, dwi eisiau…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Hyfforddiant deintyddol
Diolch yn fawr. Hoffwn ddiolch yn gyntaf i Siân Gwenllian am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae deintyddiaeth y GIG wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i mi ers i mi gael y portffolio, ac rwy'n croesawu'n fawr y cyfle i roi'r wybodaeth…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rwy'n cytuno â chi. Rwy'n credu bod y pwysau'n ddwys iawn. Rwy'n cydymdeimlo'n fawr, nid yn unig â’r cleifion, ond â’r staff hefyd a'r pwysau sydd arnynt, yn enwedig os edrychwch ar nifer y cleifion. Felly, mae’r galw ar y gwasanaeth yn enfawr. Ym mis Mai…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Y llynedd, mynychodd dros 850,000 o bobl ysbytai ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sy’n adlewyrchu cynnydd parhaus yn y galw a phwysau sylweddol. Ond mae cyfleoedd i wella ac rydym yn gweithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i wella mynediad at wasanaethau…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Wel, gallaf eich sicrhau, Laura, fy mod yn benderfynol iawn o gadw llygad ar yr hyn sy'n digwydd mewn perthynas ag ysbyty'r Faenor. Dyna pam, mewn perthynas â gofal brys, eu bod yn destun monitro uwch, sy'n golygu bod fy swyddogion yn cadw llygad barcud…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Rydym wedi bod yn agored am yr heriau y mae gwasanaethau gofal brys yn eu hwynebu. Nid yw’r rhain yn unigryw i Gymru, ac nid yw ysbyty'r Faenor yn eithriad. Mae'r digwyddiad parhad busnes diweddar yn yr ysbyty yn adlewyrchu lefel y pwysau sydd ar y system yn…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Diolch yn fawr, Jenny. Fe fyddwch yn gwybod bod gennym gynllun gweithredu Cymru gyfan ar fwydo ar y fron ac mae'n bwysig fod byrddau iechyd yn cadw at y cynllun gweithredu hwnnw, a byddaf yn gwneud ymholiadau yn sgil y cwestiwn hwn er mwyn gwneud yn siŵr fod…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Diolch yn fawr. Rwy’n ymwybodol fod newidiadau wedi bod i ddarpariaeth grwpiau cymorth bwydo ar y fron yng Nghaerdydd a’r Fro. Nawr, rhoddwyd sicrwydd i swyddogion fod y trefniadau amgen yn diwallu anghenion menywod a theuluoedd. Rwy’n falch iawn o nodi tuedd…
3 Gorffennaf 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n rhoi’r cynllun gweithredu bwydo ar y fron ar waith, ac mae’r cynllun yn cyrraedd targedau allweddol, gan gynnwys cynnydd parhaus mewn cyfraddau bwydo ar y fron. Mae'r arweinwyr strategol yn gweithio gyda gwledydd eraill y Deyrnas…