15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu rhaglen archwilio a chyflawni gynhwysfawr ar gyfer gwaith cynnal a chadw hollbwysig i ddiogelwch ar domenni sy'n eiddo cyhoeddus a phreifat. Cynhaliwyd tua 2,000 o archwiliadau tomenni glo ers 2020. Rydym ni hefyd yn…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rydych chi'n sôn am eich cynhadledd dros y penwythnos; fe es i i gynhadledd ddoe lle cefais gyfle i siarad â Wes Streeting am sut rydym ni'n symud ymhellach ymlaen. Roedd yn falch iawn o wneud yn siŵr bod ei swyddogion yn gweithio ac yn edrych ar yr hyn…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, rwyf i wir yn credu eich bod chi i gyd, yn ogystal â'r cyfryngau, wedi bod yn alldaflu pethau ar holl ddiben y berthynas hon. Y gwir amdani yw ei bod hi'n golygu camau ymarferol, synnwyr cyffredin, a dyna rydym ni'n ei wneud. Rydym ni wedi dod â'r…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni wedi bod yn eglur iawn ac rydym ni wedi gwirio hyn, ac rwy'n credu bod pobl wedi bod yn rhoi geiriau yn ein cegau o ran beth yw'r berthynas a'r hyn a gyhoeddwyd gennym ni. Fe wnaethom ni ddweud ein bod ni eisiau gweld lle y gallwn ni ddysgu gan…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Fe ddywedaf wrthych chi sut y gwnaf i sefyll yn gadarn dros Gymru, mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr eu bod nhw'n ymwybodol o'r twll £22 biliwn y gwnaethoch chi ei adael yn y gyllideb y mae'n rhaid i ni ei lenwi bellach. [Torri ar draws.] Mae'n rhaid i ni ei…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n jôc lwyr, onid yw, i sôn am y twf cyflymaf. Os ydych chi'n tyfu o sylfaen isel iawn, mae hynny'n eithaf hawdd, a dyna lle roeddech chi. Agenda Llywodraeth y DU ac agenda Llywodraeth Cymru yw gweld twf economaidd, a dyna pam roedd yr uwchgynhadledd honno…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid wyf i'n mynd i gymryd gwersi gan Lywodraeth Dorïaidd a adawodd bod mewn grym gyda'r cyfraddau treth uchaf ers 70 mlynedd. Ni wnaf i gymryd gwersi gennych chi. Ac rydych chi'n sôn am adeiladu ar uwchgynadleddau'r gorffennol, fe wnaf i ddweud wrthych chi yr…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o'r cynnydd enfawr i gostau y mae'r diwydiant adeiladu wedi ei wynebu, yn enwedig yr effaith enfawr y mae chwyddiant wedi ei chael ar rai o'r deunyddiau crai. Mae hynny wedi effeithio ar bob agwedd ac, yn…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr. Hoffwn innau hefyd longyfarch Dŵr Cymru ar y rhaglen ddatblygu honno. Mae ganddo'r ganolfan ymwelwyr newydd sbon honno—rwy'n awyddus iawn i fynd i gael ychydig o dawelwch yn yr ardal ar ryw adeg. Mae ganddi gaffi, mae ganddi hwb…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydym ni'n cefnogi datblygiad adeiladau cyhoeddus cynaliadwy yn weithredol drwy nifer o fentrau a pholisïau trawslywodraethol. Ar wahân i eithriadau bach, mae'n ofynnol i bob adeilad newydd sy'n cael ei hyrwyddo neu ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru fodloni ein…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Wrth gwrs, rydym ni'n gwbl benderfynol o weld y ffwrnais arc drydan yn cael ei hagor, a fydd, gobeithio, yn caniatáu i bobl weithio yn y diwydiant dur yn y dyfodol yn yr ardal honno. Y broblem wirioneddol yw y bu gennym ni'r bwlch hwn…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, nid wyf i erioed wedi clywed y fath nonsens yn fy mywyd. Gadewch i mi ddweud bod eich Llywodraeth chi—eich Llywodraeth chi—wedi dweud y bydden nhw'n rhoi'r arian hwnnw ar y bwrdd ac yna ni wnaethon nhw ei wario. Ni wnaethon nhw ei wario. Bu'n eistedd yno…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch yn fawr. Dwi’n siŵr bydd yr Aelod yn ymwybodol bod yna gronfa arbennig ar gyfer helpu pobl sydd wedi dioddef o achos y ffaith bod Tata yn newid. Mae £80 miliwn o gronfa, sydd yn mynd i gael ei ddosbarthu gan gyngor Castell-nedd Port Talbot. Felly…
15 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydyn ni’n parhau i weithio gyda'r bwrdd pontio, awdurdodau lleol a phartneriaid i gefnogi iechyd a lles meddyliol mewn cymunedau lleol, a hynny trwy’r byrddau iechyd lleol. Rydyn ni hefyd yn defnyddio'r cyllid gwerth £100 miliwn i fuddsoddi mewn sgiliau a…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi ein syfrdanu gan y nifer fawr o siopau fêps; maen nhw i'w gweld yn ymddangos ym mhobman ac, yn amlwg, mae hwn yn faes lle mae angen i awdurdodau lleol ddefnyddio rheoliadau a chanllawiau cynllunio i…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Ni ddylai plant a phobl ifanc byth defnyddio fêps. Fel rhan o genhadaeth fy Llywodraeth i greu Cymru iachach, byddwn ni'n ymdrin â dibyniaeth ar nicotin yn ei holl ffurfiau ac yn cynllunio i fynd i'r afael â fepio ymhlith pobl ifanc trwy atal y cynhyrchion…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol y bydd llawer o bensiynwyr ledled Cymru a fydd yn bryderus iawn am y sefyllfa hon, a dyna pam ein bod ni'n awyddus iawn fel Llywodraeth, yn yr un modd ag y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, i sicrhau y bydd pawb sy'n…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rŷn ni’n ymwybodol fod llawer o bensiynwyr yng Nghymru yn pryderu am doriadau i’r lwfans tanwydd gaeaf. Rŷn ni’n parhau i gefnogi pobl er mwyn lleddfu pwysau ariannol ar draws y wlad, gan gynnwys yn Nwyrain De Cymru. Mae ein cynllun talebau tanwydd a’r gronfa…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Beth yw hi gyda chi'r Torïaid? O ddifrif calon—rydych chi'n ffugio pethau rydym ni'n eu dweud. Doedd erioed—. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid yn eglur yn y Pwyllgor Cyllid nad yw'n bwriadu cynyddu cyfradd treth incwm Cymru, ac rwy'n credu ei bod hi'n…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Nid oes unrhyw gynigion i gynyddu treth incwm yng Nghymru.
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu mai'r peth allweddol o ran tlodi plant yw gwneud yn siŵr bod cyfleoedd hefyd i bobl gael swyddi, ac os yw pobl yn gweithio maen nhw'n gallu cefnogi eu teuluoedd. Er mwyn gwneud hynny, mae angen i ni wneud yn siŵr bod y cymorth…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi'r cymorth hwnnw, yn enwedig i'r teuluoedd agored i niwed hynny, a dyna pam mae pethau fel ein rhaglenni Dechrau'n Deg a thargedu'r ardaloedd hynny yn hollbwysig. Rwy'n…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n credu bod llawer o bobl o fewn y Blaid Lafur sy'n anghyfforddus iawn amdano; dyna'r gwir amdani, ond ceir y twll du gwerth £22 biliwn y mae'n anodd ei lenwi. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud yng Nghymru yw gwneud yr hyn a…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae ein strategaeth tlodi plant, a gafodd ei lansio ym mis Ionawr eleni, yn nodi ein huchelgais tymor hir i daclo tlodi plant ac i leddfu effeithiau gwaethaf tlodi yng Nghymru. Mae’n nodi hefyd sut byddwn ni’n gweithio ar draws y Llywodraeth a gyda…
8 Hydref 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch yn fawr iawn. Mae'n wych clywed y Ceidwadwyr yn cymryd cymaint o ddiddordeb mewn diogelwch ar y ffyrdd, ac rwy'n siŵr y bydd gennych chi ddiddordeb—[Torri ar draws.] Rwy'n siŵr y bydd gennych chi ddiddordeb mewn clywed yr wybodaeth ddiweddaraf ein…