7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni dros Gymru
Ac mae cyllideb newydd arfaethedig gennym ni nawr, ac fe fydd y cyhoedd yng Nghymru yn edrych i weld a fydd honno'n cael ei chefnogi neu beidio. £1.5 biliwn ychwanegol arfaethedig ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus mewn termau gwirioneddol—y gyllideb fwyaf…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni dros Gymru
Edrychwch ar yr hyn rŷm ni wedi ei wneud yn barod: cynllun iechyd menywod cyntaf Cymru, achos bod iechyd menywod yn bwysig. Roedd llawer o fenywod yn teimlo nad oedden nhw yn cael y gwrandawiad roedden nhw'n ei haeddu, a byddwn ni'n cyflwyno hybiau iechyd…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Cyflawni dros Gymru
Diolch yn fawr. Llywydd, nid areithio yn y Siambr hon oedd fy nhasg gyntaf wrth i mi ddod yn Brif Weinidog, ond yn hytrach mynd allan, cwrdd â phobl a gwrando arnyn nhw: sgyrsiau gwirioneddol mewn cymunedau gwirioneddol ledled Cymru. [Torri ar draws.] Diawch…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn, Vaughan. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn—mae gennym ni stori dda i'w hadrodd ac mae angen i ni ei hadrodd hi i gynulleidfa ryngwladol. Mae hynny'n rhan o'r hyn yr ydyn ni'n bwriadu ei wneud yn yr uwchgynhadledd fuddsoddi. Ond rydych chi'n…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Bydd yr uwchgynhadledd fuddsoddi yn arddangos Cymru i arweinwyr diwydiant byd-eang a buddsoddwyr posibl, gan dynnu sylw at y cyfleoedd a'r cryfderau niferus mewn diwydiannau allweddol yma yng Nghymru. Nod cyffredinol yr uwchgynhadledd fydd ysgogi buddsoddiad…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr. Dywedais i wrthych chi fy mod i'n canolbwyntio ar gyflawni, ac mae hyn yn enghraifft o gyflawni: mae trenau trydan newydd bellach yn rhedeg ar reilffordd Treherbert fel rhan o gyflwyniad graddol. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn croesawu hynny…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Bydd cyflwyno'r trenau trydan newydd yn llwyddiannus ar reilffordd Treherbert yn galluogi gwasanaethau cyflymach ac amlach, gan annog defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn Rhondda a thu hwnt, yn ogystal â'n Bil gwasanaethau bysiau sydd ar ddod, a fydd yn…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n deall y rhwystredigaeth y byddai gan eich etholwr. Nid yw'n ddigon da. Ar gyfer rhywbeth sy'n angen brys, mae angen i ni fod yn ymdrin â hynny'n gyflymach. Rwy'n gwybod na fydd o unrhyw gysur iddo wybod mai 25 wythnos yw'r amser aros ar gyfartaledd yng…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rydyn ni'n cymryd camau trawslywodraethol i wella canlyniadau iechyd ledled Cymru, gan gynnwys camau i ymdrin â'r annhegwch iechyd sy'n cael ei achosi gan amddifadedd. Mae rhaglenni fel Dechrau'n Deg, cefnogaeth i aelwydydd agored i niwed dros y gaeaf, a'n…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr. Rydych chi'n hollol gywir—y ffaith yw ein bod ni wedi cyflwyno'r gefnogaeth Cymorth i Aros newydd yma, a dim ond blwyddyn yn ôl y dechreuodd. Mae'r pethau hyn yn cymryd amser i fynd ar eu traed. Mae'r cynllun wedi annog nifer o aelwydydd i…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, yn ôl pob tebyg, rwy'n credu ei bod hi'n werth cychwyn drwy siarad am y ffaith bod tua 66 y cant o boblogaeth Cymru yn berchen ar eu cartrefi eu hunain. Ond yr hyn y mae llawer ohonyn nhw wedi'i weld, yn enwedig y rhai â morgeisi, yw cynnydd o £2,000 ar…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod yna ddealltwriaeth mai'r hyn y mae gan y rhan fwyaf o bobl ddiddordeb ynddo mewn gwirionedd yw sicrhau'r canlyniadau gorau posibl. Ac i gael y canlyniadau gorau posibl, mae angen clinigwyr rhagorol arnoch chi, ac nid oes…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr iawn, John, a diolch am hyrwyddo hyn fel menter bwysig iawn yn eich etholaeth chi. Mae'n gallu bwrw ymlaen oherwydd bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi clustnodi arian i wneud yn siŵr y gallwn ni weld mwy o integreiddio o ran iechyd a gofal, gan…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch. Rydyn ni wedi nodi, yn y camau newydd ar gyfer 'Cymru Iachach', ein hymrwymiad i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gweithredu i sicrhau mynediad cyfartal i'n system iechyd a gofal cymdeithasol i wella tegwch…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch am fod yn hyrwyddwr mor frwd dros Ysbyty Brenhinol Alexandra, fel yr oedd Ann Jones o'ch blaen, yr hyrwyddwr gwych dros Ysbyty Brenhinol Alexandra, ac mae hi'n fy atgoffa i bob tro rwy'n ei gweld hi. Bydd y ffaith bod gennym ni'r cyfalaf ychwanegol hwn…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr. Rwy'n gwybod bod y bwrdd iechyd yn adolygu cynigion ar gyfer Ysbyty Brenhinol Alexandra mewn partneriaeth â rhanddeiliaid lleol. Y disgwyl yw y bydd y cynigion hyn yn cynnwys uned mân anafiadau, a fydd, gobeithio, yn tynnu pwysau oddi ar yr…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Caiff contractau eu trosglwyddo'n ôl o bryd i'w gilydd; gall pobl ddewis a ydyn nhw eisiau gweithio i'r GIG neu a ydyn nhw eisiau cynnig y ddarpariaeth breifat honno. Pan fydd contractau'n cael eu trosglwyddo'n ôl, maen nhw'n cael eu hailgaffael ac mae cryn…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch yn fawr. Rydych chi'n eithaf reit ei bod yn bwysig ein bod ni'n sicrhau bod mynediad, a bod mynediad am ddim, o ran deintyddiaeth ar gael i blant yn arbennig. Wrth gwrs, rŷn ni mewn sefyllfa nawr lle mae lot o procurement yn mynd ymlaen, felly mae 94 y…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'r Llywodraeth yma wedi ymrwymo i leihau amseroedd aros gwasanaethau iechyd ledled Cymru. Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael £7.3 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn ariannol yma ar gyfer yr amseroedd aros hiraf am ofal wedi'i gynllunio ac am…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, yn gyntaf oll, a gaf i eich sicrhau nad wyf i wedi rhoi'r gorau i ofyn am arian am HS2? Ac ni wnaf i roi'r gorau i ofyn tan ein bod ni'n fodlon. Rwy'n credu, yn ôl pob tebyg, ei bod hi'n werth tanlinellu'r ffaith mai'r arhosiad, ar gyfartaledd yng…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod hi'n werth dweud bod gen i lawer iawn mwy o ddylanwad, rwy'n credu, ar Keir Starmer nag y bydd ganddo ef fyth pe bai ef yn dal yr awenau. Gadewch i ni fod yn eglur hefyd mai'r hyn yr ydym ni wedi ei weld yw…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, roeddwn i'n meddwl y byddem ni'n dechrau'r flwyddyn newydd gyda rhywbeth newydd, ond na, rydym ni yn ôl i'r holl fater o bethau lle nad oes gen i gyfrifoldeb. Mae gen i gyfrifoldeb dros faterion datganoledig. Gallaf roi gwers arall i chi ar sut mae…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, mae'n amlwg nad ydych chi'n deall y mater. Os ydych chi'n meddwl bod y cyfan yn ymwneud â gwelyau, dydych chi ddim wedi deall, mewn gwirionedd, bod llawer o bobl mewn gwelyau na ddylai fod yno. Mae'n ymwneud â llif. Mae'n ymwneud â llif. Mae'n ymwneud â…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, diolch yn fawr iawn. Fe wnes i bwynt o ymweld â sawl adran achosion brys yn ddirybudd, gan fy mod i'n gwybod, os byddaf yn dweud wrthyn nhw fy mod i'n dod, mae popeth yn—[Anghlywadwy.] Roeddwn i eisiau ei weld fel yr oedd: amrwd, heb ei hidlo, gan wneud…
7 Ionawr 2025 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i staff y GIG, sydd wedi bod o dan bwysau enfawr dros gyfnod y Nadolig? Rydym ni wedi gweld, unwaith eto, galw enfawr am y gwasanaeth, lle'r ydym ni wedi gweld, er enghraifft, cynnydd sylweddol—50 y cant yn fwy nag yn yr un…