22 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Wel, rwy'n ceisio arwain at y pwynt ynglŷn â sut mae'r Llywodraeth yn gweithredu, gan gyflwyno busnes y mae'n amlwg nad yw'n ymddangos—[Torri ar draws.]
22 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
Rwy'n siomedig nad yw'r Prif Weinidog yma y dydd Mercher hwn eto. Bythefnos yn ôl, nid oedd yma ar gyfer dadl ar ei gyfrifoldebau portffolio. Unwaith eto, rwyf wedi gofyn cwestiwn. Mae'n gwneud imi gwestiynu beth yw'r pwynt cyflwyno cwestiynau os nad yw…
22 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau Amserol
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn dod i ben? TQ1095
21 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Tynnodd yr Aelod dros Aberconwy sylw at y gwaith da a wnaeth y Dirprwy Weinidog o ran ei chyfrifoldebau portffolio. Rwyf i wedi gweld y gwaith da hwnnw'n cael ei wneud o ran gwasanaeth tân de Cymru. Ond mae enw da'r Aelod yn deilchion heddiw oherwydd i chi ei…
21 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Prif Weinidog, pan fo dwy ochr mor wahanol i benderfyniad—eich penderfyniad chi i ddiswyddo'r Aelod o'r Llywodraeth, yn seiliedig ar y dystiolaeth y gwnaethoch chi ddweud eich bod wedi ei hasesu ac y mae'r Gweinidog iechyd yn ei ddweud, rwy'n tybio, y mae…
21 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. A gaf i gymeradwyo'r sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog yn ei sylwadau agoriadol a thalu teyrnged i'r Aelod dros Ogledd Caerdydd, os caf, sydd wedi arwain ers blynyddoedd lawer ar y pwnc pwysig iawn hwn, nid yn unig yn y lle hwn, ond yn San…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Tata Steel
Prif Weinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Os oes ar unrhyw un eisiau ceisio deall difrifoldeb y sefyllfa, bydd pennawd y BBC y bore yma ynghylch y 2,000 o swyddi a gollir gan effeithio ar gymunedau Aberafan a'r cyffiniau, nid dim ond y gweithwyr…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dim datganiad, Prif Weinidog. Byddai'n rhaid i unrhyw Aelod arall wneud y datganiad hwnnw. O ran y trydydd cwestiwn, yn eich ateb, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n gwneud y datganiad hwnnw, oherwydd mae hynny'n mynd at graidd yr hyn y mae llawer o bobl yn yr…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau ei roi ar y cofnod, Prif Weinidog, bod gennych chi achos o wrthdaro buddiannau, gan mai perchennog y safle tirlenwi hwn yw David Neal o Dauson Environmental Group. A dyna'r broblem yma. Mae'n iawn gosod gwasanaethau monitro…
14 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. A gaf i yn gyntaf uniaethu â'ch sylwadau agoriadol am Owen John Thomas a'i ymrwymiad i'r Senedd Cymru hon, ac yn amlwg i wasanaeth cyhoeddus drwy gydol ei oes? Rwy'n estyn cydymdeimlad y Ceidwadwyr i'w deulu ar yr adeg anodd iawn hon iddyn…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Senedd yn 25
Rwy'n diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad ef brynhawn heddiw. Mae ei sylwadau ef am Rhodri Morgan, er tegwch, yn fy atgoffa i o'r amser pan oeddwn yma yn Aelod am y tro cyntaf yn 2007, a'r gallu a oedd gan Rhodri Morgan i droi'r ddadl ac ennill…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan y Gweinidog iechyd o ran y chwe rhybudd coch sydd wedi'u datgan gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ynghylch pwysau ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys?…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Felly, dim ond fel fy mod i'n glir yn fy meddwl, roedd hyn yn cyfeirio at gyfarfod grŵp Llafur, ac mae'r dewisiadau y cyfeirir atyn nhw yn y neges benodol honno yn ymwneud â dewisiadau mewnol o fewn y grŵp Llafur neu'r Blaid Lafur a dydyn nhw ddim yn ymwneud…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
A fyddech chi'n cytuno â mi, Prif Weinidog, os yw'r neges hon yn gywir, a'i bod yn nodi bod awdur y neges yn ceisio osgoi Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, oherwydd mae'n cyfeirio at yr wybodaeth yn y cyd-destun ehangach yn cael ei chynnwys o bosibl o dan y…
7 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn y wasg heddiw, ceir sôn am iMessage a anfonwyd gennych chi. I'r rhai nad ydyn nhw wedi gweld y neges hon, mae'n dweud: 'Rwy'n dileu'r negeseuon yn y grŵp hwn. Gellir eu dal mewn cais rhyddid gwybodaeth ac rwy'n credu ein bod…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
Ni ddylai unrhyw un sy’n gwneud y sylwadau hynny fyth fod yn agos at blaid wleidyddol na derbyn y rhoddion hynny. Rwy'n cytuno â’r pwynt rydych chi newydd ei wneud. Ond rydym yn dadlau mater yma sy'n ymwneud ag unigolyn, oherwydd fel y dywedais yn fy araith…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Plaid Cymru: Uchafswm ar roddion gwleidyddol
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at ddadl arall ar fater sydd wedi dal dychymyg llawer o bobl y tu hwnt i’r lle hwn yn ogystal â llawer o amser y Cyfarfod Llawn ac amser dadl hefyd. Rwyf am gofnodi am yr eildro y prynhawn yma fy siom nad yw’r Prif Weinidog…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y Gweinidogion
Rwy'n ddiolchgar i arweinydd y tŷ. Mae'r cyfrifoldeb portffolio hwn yn gadarn gyda'r Prif Weinidog. Mae wedi dewis peidio â dod i'r ddadl hon heddiw i ymateb i'r pwyntiau a roddwyd iddo. Nid oedd llawer o'r wybodaeth a nodwyd gennych yn eich ateb i'r ddadl…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y Gweinidogion
O. O, iawn. Mae hynny'n siomedig. Iawn, nid yw'r Prif Weinidog wedi dod i ddadl ynghylch yr ymddygiad sy'n gysylltiedig â chod y Gweinidogion, ac ar y datganiad o gyfrifoldebau gweinidogol, ef sy'n gyfrifol am god y Gweinidogion. Felly, rwy'n credu bod…
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y Gweinidogion
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A oes angen inni aros i'r Prif Weinidog ddod, oherwydd, yn amlwg, mae'r ddadl am y Prif Weinidog? Neu a oes Gweinidog arall yn ymateb?
1 Mai 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Rhoddion ymgyrch arweinyddiaeth a chod y Gweinidogion
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn i'n meddwl eich bod chi'n disgwyl imi gyfieithu yn y fan honno, Ddirprwy Lywydd.
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Mae'n hyfryd clywed eich bod chi'n cael adolygiad mewnol yn y Blaid Lafur i ymchwilio i hyn i gyd. Mae'n fy atgoffa o oes y Blaid Gomiwnyddol pan oedden nhw'n arfer cael y politbiwro yn llongyfarch eu hunain ac yn dweud, 'Rydym ni wedi gwneud gwaith gwych…
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Wel, fe glywsom ni hefyd mewn cwestiynau y prynhawn yma gan yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd am ba mor werthfawr yw gwastadeddau Gwent. Ond rydym ni'n gwybod bod yr unigolyn a wnaeth y rhodd i chi wedi bod yn destun achos llys ac wedi ei gael yn euog ar ddau…
30 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Diolch, Llywydd. Nododd y cwestiwn a ddechreuodd y sesiwn holi hon gan Julie Morgan fod cwmni tacsi yn amlwg wedi torri'r rheolau gwahaniaethu yn erbyn pobl anabl. Rwy'n credu bod perchennog y cwmni tacsis hwnnw wedi cyfrannu at eich ymgyrch arweinyddiaeth…
24 Ebrill 2024 , Cyfarfod Llawn
Dadl Fer: Gofal sylfaenol a'r agenda ataliol
Rwy'n cytuno'n llwyr ynglŷn ag ymyrraeth gymunedol, fferylliaeth gymunedol, optometreg ac ati, ond y broblem yw bod comisiynu'r gwasanaethau hynny'n amrywio rhwng un bwrdd iechyd a'r llall, yn enwedig rhwng Caerdydd a'r Fro, er enghraifft, a bwrdd iechyd bae…